Ni all bodau dynol roi terfyn ar ryfel
Sut Bydd Rhyfel a Gwrthdaro Arfog yn Dod i Ben
Mae’r Beibl yn dangos mai Duw, nid bodau dynol, a fydd yn “dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan.”—Salm 46:9.
BYDD DUW YN CAEL GWARED AR LYWODRAETHAU DYNOL
Bydd Duw yn rhoi terfyn ar bob llywodraeth ddynol yn y rhyfel y mae’r Beibl yn ei alw’n Armagedon.a (Datguddiad 16:16) Bryd hynny, bydd ‘brenhinoedd y ddaear gyfan’ yn cael eu casglu at ei gilydd “ar gyfer rhyfel dydd mawr Duw’r Hollalluog.” (Datguddiad 16:14) Rhyfel Duw yw Armagedon, ac fe fydd yn rhoi diwedd ar bob rhyfel arall.
Bydd Teyrnas Dduw yn cymryd lle llywodraethau dynol, ac yn llywodraethu o’r nefoedd am byth. (Daniel 2:44). Mae Duw wedi dewis ei Fab, Iesu Grist i fod yn Frenin. (Eseia 9:6, 7; Mathew 28:18) Y llywodraeth hon ydy’r Deyrnasb yr oedd Iesu yn dysgu ei ddilynwyr i weddïo amdani. (Mathew 6:9, 10) Bydd yr holl ddynolryw yn unedig o dan un llywodraeth fyd-eang, yn nwylo Iesu Grist.
Yn wahanol i lywodraethwyr dynol, ni fydd Iesu’n defnyddio ei awdurdod mewn ffordd hunanol. Gan ei fod yn hollol ddiragfarn, ni fydd neb yn cael ei drin yn annheg oherwydd hil, cenedligrwydd, na chefndir ethnig. (Eseia 11:3, 4) Fydd ddim angen i bobl ymladd dros eu hawliau, oherwydd bydd gan Iesu ddiddordeb ym mhob unigolyn. “Mae’n achub y rhai sy’n galw arno mewn angen, a’r tlawd sydd heb neb i’w helpu. . . . Mae’n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais.”—Salm 72:12-14.
Bydd Teyrnas Dduw yn cael gwared ar arfau marwol yn llwyr. (Micha 4:3) Caiff wared hefyd ar bobl ddrwg sy’n parhau i ryfela neu sy’n gwrthod byw mewn heddwch ag eraill. (Salm 37:9, 10) Bydd pob dyn, dynes, a phlentyn yn ddiogel le bynnag maen nhw’n mynd ar y ddaear.—Eseciel 34:28.
Bydd bywyd yn berffaith o dan lywodraeth Duw. Bydd y problemau sy’n gwneud i bobl ymladd, fel tlodi, newyn, a diffyg tai, wedi mynd. Bydd pawb yn cael digonedd o fwyd maethlon a chartref cyfforddus.—Salm 72:16; Eseia 65:21-23.
Bydd Teyrnas Dduw hefyd yn cael gwared ar effeithiau drwg pob rhyfel. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig y clwyfau corfforol, ond hefyd y creithiau meddyliol ac emosiynol sy’n dilyn y pethau erchyll sy’n digwydd mewn rhyfeloedd. Bydd hyd yn oed pobl sydd wedi marw yn cael eu hatgyfodi i fywyd ar y ddaear. (Eseia 25:8; 26:19; 35:5, 6) Bydd teuluoedd yn dod yn ôl at ei gilydd, a bydd atgofion poenus yn rhan o’r “hen bethau [sydd] wedi diflannu.”—Datguddiad 21:4.
BYDD DUW YN CAEL GWARED AR BECHOD
O dan Deyrnas Dduw, bydd pawb yn addoli’r unig wir Dduw, Jehofac, “Duw cariad a heddwch.” (2 Corinthiaid 13:11) Bydd pobl yn dysgu sut i fyw mewn heddwch. (Eseia 2:3, 4; 11:9) Bydd pawb sy’n ufudd i Dduw yn cael eu rhyddhau o effeithiau pechod.—Rhufeiniaid 8:20, 21.
BYDD DUW YN CAEL GWARED AR SATAN A’I GYTHREULIAID
Bydd Duw yn cael gwared ar Satan a’i gythreuliaid, y lluoedd anweledig sy’n achosi rhyfeloedd. (Datguddiad 20:1-3, 10) Heb eu dylanwad nhw, bydd heddwch yn cynyddu.—Salm 72:7.
Gallwch chi fod yn hyderus y bydd Duw yn cadw ei addewid i ddod â rhyfel a gwrthdaro arfog i ben. Mae ganddo’r gallu yn ogystal â’r awydd i roi terfyn ar ryfeloedd.
Mae Duw yn meddu ar y doethineb a’r grym sydd eu hangen i roi terfyn ar ryfel. (Job 9:4) Nid oes dim yn amhosib iddo ef.—Job 42:2.
Mae’n gas gan Dduw weld pobl yn dioddef. (Eseia 63:9) Mae hefyd yn casáu’r “rhai sy’n hoffi trais.”—Salm 11:5.
Mae Duw bob amser yn cadw ei air; mae’n amhosib iddo ddweud celwydd.—Eseia 55:10, 11; Titus 1:2.
Yn y dyfodol, bydd Duw yn dod â heddwch parhaol i’r ddaear.
Bydd Duw yn cael gwared ar ryfel
a Darllenwch yr erthygl: “Beth yw Rhyfel Armagedon?” ar jw.org.
b Gwyliwch y fideo Beth Yw Teyrnas Dduw? ar jw.org.
c Jehofa yw enw personol Duw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.