ERTHYGL ASTUDIO 12
CÂN 119 Rhaid Inni Gael Ffydd
Parha i Gerdded yn ôl Ffydd
“Rydyn ni’n cerdded yn ôl ffydd, ac nid yn ôl yr hyn rydyn ni’n ei weld.”—2 COR. 5:7.
PWRPAS
Sut gallwn ni barhau i gerdded yn ôl ffydd wrth wneud penderfyniadau pwysig.
1. Pam roedd yr apostol Paul yn hapus wrth edrych yn ôl ar ei fywyd?
DAETH adeg pan oedd yr apostol Paul yn gwybod y byddai’n cael ei ladd yn fuan, ond roedd ganddo ef lawer o resymau dros deimlo’n hapus am ei fywyd. Wrth edrych yn ôl, roedd ef yn gallu dweud: “Rydw i wedi rhedeg y ras hyd y diwedd, rydw i wedi cadw’r ffydd.” (2 Tim. 4:6-8) Roedd Paul wedi gwneud penderfyniadau doeth yn ei weinidogaeth, ac felly roedd yn teimlo ei fod wedi plesio Jehofa. Rydyn ni hefyd eisiau gwneud penderfyniadau da a chael cymeradwyaeth Duw. Sut gallwn ni wneud hynny?
2. Beth mae’n ei olygu i gerdded yn ôl ffydd?
2 Dywedodd Paul amdano’i hun a Christnogion ffyddlon eraill: “Rydyn ni’n cerdded yn ôl ffydd, ac nid yn ôl yr hyn rydyn ni’n ei weld.” (2 Cor. 5:7) Beth roedd hynny’n ei olygu? Yn y Beibl, gall “cerdded” weithiau gyfeirio at y ffordd mae person yn dewis byw ei fywyd. Pan mae person yn cerdded yn ôl yr hyn maen nhw’n ei weld yn unig, maen nhw ond yn gwneud penderfyniadau ar sail yr hyn maen nhw’n gallu ei weld, ei glywed, a’i deimlo. Ar y llaw arall, pan mae person yn cerdded yn ôl ffydd, mae’n gwneud penderfyniadau ar sail tryst yn Jehofa Dduw. Mae ei weithredoedd yn dangos ei fod yn sicr y bydd Duw yn ei wobrwyo ac y bydd yn elwa o ddilyn cyngor Jehofa sydd yn Ei Air.—Salm 119:66; Heb. 11:6.
3. Sut rydyn ni’n elwa o gerdded yn ôl ffydd? (2 Corinthiaid 4:18)
3 Weithiau mae’n rhaid inni i gyd ddibynnu ar yr hyn rydyn ni’n ei weld, yn ei glywed, ac yn ei deimlo wrth wneud penderfyniadau. Ond mae’n debygol byddwn ni’n wynebu problemau os ydyn ni ond yn ystyried y pethau hyn wrth wneud penderfyniadau am bethau pwysig. Pam? Oherwydd dydy ein synhwyrau ddim yn wastad yn ddibynadwy, ac felly gallen nhw achosi inni anwybyddu cyngor Jehofa wrth wneud penderfyniadau. (Preg. 11:9; Math. 24:37-39) Ond, pan fyddwn ni’n cerdded yn ôl ffydd, byddwn ni’n fwy tebygol o wneud penderfyniadau sy’n “dderbyniol i’r Arglwydd.” (Eff. 5:10) Bydd dilyn cyngor Duw yn rhoi gwir lawenydd a heddwch mewnol inni. (Salm 16:8, 9; Esei. 48:17, 18) Ac os ydyn ni’n parhau i gerdded yn ôl ffydd, byddwn ni’n cael dyfodol tragwyddol.—Darllen 2 Corinthiaid 4:18.
4. Sut gall person wybod a yw’n cerdded yn ôl ffydd neu ddim?
4 Sut gallwn ni wybod os ydyn ni’n cerdded yn ôl ffydd neu’n ôl yr hyn rydyn ni’n ei weld? Yn syml, mae angen inni i gyd ofyn i ni’n hunain: Beth sy’n effeithio ar fy mhenderfyniadau? A ydw i’n dibynnu ar y pethau rydw i’n eu gweld yn unig, neu a ydw i’n gadael i gyngor Jehofa fy arwain i? Gad inni ystyried sut gallwn ni barhau i gerdded yn ôl ffydd mewn tair sefyllfa bwysig: wrth ddewis swydd, wrth ddewis cymar, ac wrth dderbyn arweiniad theocrataidd. Am bob un, byddwn ni’n trafod beth dylen ni ei ystyried er mwyn gwneud penderfyniadau da.
WRTH DDEWIS SWYDD
5. Beth dylen ni ei ystyried wrth ddewis swydd?
5 Rydyn ni i gyd eisiau edrych ar ôl anghenion ein hunain ac anghenion ein teulu. (Preg. 7:12; 1 Tim. 5:8) Mae rhai swyddi’n talu’n dda. Gall rhai swyddi ganiatáu i berson ennill digon o arian i ofalu am anghenion pob dydd ei deulu a hefyd i gynilo arian ar gyfer y dyfodol. Ond gall swyddi eraill dalu llai, felly gall person ond ennill digon i ofalu am bethau angenrheidiol ei deulu. Wrth ddewis swydd, mae’n bwysig inni ystyried faint o bres byddwn ni’n ei ennill. Ond, ni fydd person yn cerdded yn ôl ffydd os dyna’r unig beth mae ef yn ei ystyried.
6. Sut gallwn ni gerdded yn ôl ffydd wrth ddewis swydd? (Hebreaid 13:5)
6 Os ydyn ni’n cerdded yn ôl ffydd, byddwn ni hefyd yn ystyried sut gall y swydd effeithio ar ein perthynas â Jehofa. Gallwn ni ofyn i ni’n hunain: ‘A ydy’r math o waith yn dderbyniol i Jehofa? A yw’n cynnwys gwneud pethau mae Jehofa’n eu casáu?’ (Diar. 6:16-19) ‘A fyddai’n amharu ar fy ngwasanaeth ac efallai yn fy nghadw i oddi wrth fy nheulu am gyfnod hir?’ (Phil. 1:10) Os byddi di’n ateb ‘ie’ i’r cwestiynau hyn, ni fyddai’n ddoeth iti dderbyn y swydd, hyd yn oed os yw’n anodd dod o hyd i waith. Oherwydd ein bod ni’n cerdded yn ôl ffydd, rydyn ni’n gwneud penderfyniadau sy’n dangos ein bod ni’n sicr y bydd Jehofa’n gofalu am ein hanghenion.—Math. 6:33; darllen Hebreaid 13:5.
7-8. Sut gwnaeth un brawd yn Ne America gerdded yn ôl ffydd? (Gweler hefyd y llun.)
7 Ystyria sut gwnaeth Javier,a brawd yn Ne America, weld yr angen i gerdded yn ôl ffydd. Mae ef yn dweud: “Roeddwn i’n ceisio swydd y byddwn i’n wir yn mwynhau a oedd yn talu dwbl fy swydd cynt.” Ond, roedd gan Javier awydd cryf i arloesi. Mae’n mynd ymlaen i ddweud: “Fe ges i gyfweliad am y swydd. Cyn y cyfweliad, gweddïais am help. Roeddwn i’n sicr bod Jehofa’n gwybod beth oedd orau imi. Roeddwn i eisiau symud ymlaen yn fy ngyrfa, ond doeddwn i ddim eisiau cael y swydd hon os na fyddai’n fy helpu i i gyrraedd fy amcanion ysbrydol.”
8 Mae Javier yn dweud: “Yn ystod y cyfweliad, dywedodd y rheolwr wrtho i y byddai’n rhaid imi weithio oriau hir yn aml. Gyda pharch, esboniais na fyddwn i’n gallu gwneud hynny oherwydd fy ngweinidogaeth.” Felly penderfynodd Javier beidio â derbyn y swydd. Pythefnos wedyn, dechreuodd arloesi. Ac yn hwyrach yn y flwyddyn fe ddaeth o hyd i swydd rhan amser. Mae’n dweud: “Gwrandawodd Jehofa ar fy ngweddïau ac fe roddodd swydd imi sy’n caniatáu imi arloesi. Rydw i mor hapus i gael swydd sy’n fy ngalluogi i i gael mwy o amser i wasanaethu Jehofa a fy mrodyr.”
Os ydy rhywun yn cynnig swydd iti sy’n talu’n well, a fydd dy benderfyniad yn dangos dy fod ti’n sicr bod Jehofa’n gwybod beth sydd orau iti? (Gweler paragraffau 7-8)
9. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad Trésor?
9 Beth os ydyn ni’n sylweddoli nad ydy ein swydd yn caniatáu inni gerdded yn ôl ffydd? Ystyria brofiad Trésor o Congo. Mae’n dweud: “Roeddwn i wedi bod yn breuddwydio am gael swydd fel hyn. Dyma fi’n ennill tair gwaith fy nghyflog cynt ac roedd llawer yn fy mharchu i.” Ond roedd Trésor yn gweithio oriau hir, felly roedd yn methu’r cyfarfodydd yn rheolaidd. Roedd ef hefyd o dan bwysau i guddio pethau anonest roedd y busnes wedi eu gwneud. Er bod Trésor eisiau gadael, roedd yn poeni am fod heb waith. Beth a wnaeth ei helpu? Mae’n dweud: “Gwnaeth Habacuc 3:17-19 fy helpu i ddeall byddai Jehofa’n gofalu amdana i hyd yn oed petaswn i’n colli fy swydd. Felly gwnes i adael.” Mae’n esbonio: “Mae llawer o gyflogwyr yn meddwl bydd person yn aberthu unrhyw beth am swydd sy’n talu’n dda, gan gynnwys ei fywyd teuluol a phethau ysbrydol. Rydw i’n hapus oherwydd fy mod i wedi amddiffyn fy mherthynas â Jehofa a fy nheulu. Blwyddyn wedyn, gwnaeth Jehofa fy helpu i i ddod o hyd i swydd sy’n talu digon i ofalu am fy anghenion a chael mwy o amser i wasanaethu Jehofa. Pan ydyn ni’n rhoi Jehofa’n gyntaf yn ein bywydau, efallai byddwn ni’n stryglo yn ariannol am gyfnod, ond bydd Jehofa’n gofalu amdanon ni.” Yn wir, os ydyn ni’n ymddiried yng nghyngor Jehofa a’i addewidion, byddwn ni’n parhau i gerdded yn ôl ffydd a bydd Ef yn ein bendithio ni.
WRTH DDEWIS CYMAR
10. Beth all achosi inni gerdded yn ôl yr hyn rydyn ni’n ei weld wrth ddewis cymar?
10 Mae priodas yn rhodd oddi wrth Jehofa, felly mae’n naturiol inni eisiau priodi. Wrth geisio dod o hyd i gymar, efallai bydd chwaer yn ystyried personoliaeth brawd yn ogystal â’i olwg, ei sefyllfa ariannol, ei gyfrifoldebau teuluol, sut mae ef yn gwneud iddi deimlo, ac os oes ganddo enw da.b Mae’r pethau hyn i gyd yn bwysig. Ond petasai hi ond yn ystyried y pethau hyn, efallai na fyddai hi’n cerdded yn ôl ffydd.
11. Sut gallwn ni gerdded yn ôl ffydd wrth ddewis cymar? (1 Corinthiaid 7:39)
11 Mae Jehofa mor prowd o frodyr a chwiorydd sy’n dilyn ei gyngor wrth ddewis cymar! Er enghraifft, maen nhw’n cymryd o ddifri y cyngor i beidio â chanlyn pan maen nhw’n “rhy ifanc.” (1 Cor. 7:36) Maen nhw’n ceisio dod o hyd i gymar ar sail y rhinweddau mae Jehofa’n dweud a fyddai’n gwneud gŵr neu wraig dda. (Diar. 31:10-13, 26-28; Eff. 5:33; 1 Tim. 5:8) Os ydy rhywun sydd ddim yn dyst yn dangos diddordeb rhamantus ynddyn nhw, maen nhw’n ymddiried yn y cyngor i briodi “dim ond yn yr Arglwydd.” (Darllen 1 Corinthiaid 7:39.) Maen nhw’n parhau i gerdded yn ôl ffydd, yn hyderus bod Jehofa’n gallu gofalu am eu hanghenion emosiynol yn well nag unrhyw un arall.—Salm 55:22.
12. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o esiampl Rosa?
12 Ystyria brofiad Rosa, arloeswraig yng Ngholombia. Dechreuodd dyn a oedd yn gweithio gyda hi ddangos diddordeb ynddi, ond doedd ef ddim yn Dyst. Roedd Rosa’n ei ffansïo. Mae hi’n dweud: “Roedd yn edrych fel dyn da oherwydd ei fod yn gwirfoddoli yn ei gymuned ac yn byw bywyd iach. Roedd ganddo’r rhinweddau hoffwn i eu cael mewn gŵr ac yn fy nhrin i’n dda. Yr unig beth oedd, nad oedd ef yn Dyst.” Mae hi’n mynd ymlaen i ddweud: “Doedd hi ddim yn hawdd imi beidio â’i ganlyn. Ar yr adeg honno, roeddwn i’n teimlo’n unig ac eisiau priodi, ond heb gael hyd i rywun yn y gwir.” Ond ni wnaeth Rosa ganolbwyntio ar yr hyn roedd hi’n gallu ei weld. Meddyliodd am sut byddai ei phenderfyniad yn effeithio ar ei pherthynas â Jehofa. Felly fe wnaeth hi dorri pob cysylltiad ag ef a chadw’n brysur yn gwneud pethau ysbrydol. Yn fuan wedyn, cafodd hi wahoddiad i fynychu’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas, ac mae hi bellach yn gwasanaethu fel arloeswraig arbennig. Mae Rosa yn dweud: “Mae Jehofa wedi llenwi fy nghalon â llawenydd mawr.” Er nad ydy hi’n hawdd bob tro i gerdded yn ôl ffydd pan mae ein teimladau yn gryf, mae’n werth pob ymdrech.
WRTH DDERBYN ARWEINIAD THEOCRATAIDD
13. Beth all achosi inni gerdded yn ôl yr hyn rydyn ni’n ei weld wrth dderbyn arweiniad theocrataidd?
13 Rydyn ni’n cael arweiniad theocrataidd yn aml—oddi wrth ein henuriaid lleol, arolygwr y gylchdaith, y swyddfa gangen, neu’r Corff Llywodraethol—sy’n ein helpu ni i wasanaethu Jehofa. Ond beth os nad ydyn ni’n deall y rheswm tu ôl i’r arweiniad weithiau? Efallai fod gynnon ni amheuon neu rydyn ni ond yn gallu gweld yr effeithiau negyddol gall yr arweiniad ei gael arnon ni. Efallai byddwn ni hyd yn oed yn canolbwyntio ar amherffeithion y brodyr sy’n rhoi’r arweiniad.
14. Beth fydd yn ein helpu ni i gerdded yn ôl ffydd pan ydyn ni’n derbyn arweiniad theocrataidd? (Hebreaid 13:17)
14 Pan ydyn ni’n cerdded yn ôl ffydd, rydyn ni’n trystio mai Jehofa yw’r un sy’n arwain ei gyfundrefn a’i fod yn ymwybodol o’n hamgylchiadau. O ganlyniad, rydyn ni’n ufuddhau heb oedi a gydag agwedd bositif. (Darllen Hebreaid 13:17.) Rydyn ni’n gwybod bod ein hufudd-dod yn cyfrannu at undod y gynulleidfa. (Eff. 4:2, 3) Er bod y brodyr sy’n cymryd y blaen yn amherffaith, rydyn ni’n trystio bydd Jehofa’n bendithio ein hufudd-dod. (1 Sam. 15:22) Mewn amser, bydd ef yn cywiro unrhyw beth sy’n wir angen cael ei gywiro.—Mich. 7:7.
15-16. Beth helpodd un brawd i gerdded yn ôl ffydd er bod ganddo amheuon am yr arweiniad a dderbyniodd? (Gweler hefyd y llun.)
15 Ystyria brofiad sy’n dangos sut rydyn ni’n elwa o gerdded yn ôl ffydd. Er bod y rhan fwyaf o bobl ym Mheriw yn siarad Sbaeneg, mae llawer o bobl yn siarad ieithoedd brodorol. Un o’r rhain ydy Quechua. Am flynyddoedd, gwnaeth brodyr a chwiorydd a oedd yn siarad Quechua chwilio am bobl yn y diriogaeth a oedd hefyd yn siarad yr iaith. Ond er mwyn ufuddhau i’r llywodraeth, cafodd newidiadau eu gwneud i’r ffordd o chwilio am bobl. (Rhuf. 13:1) O ganlyniad, dechreuodd rhai gwestiynu a fyddai’n amharu ar y gwaith yn y diriogaeth. Ond, wrth i’r brodyr addasu i’r newidiadau, gwnaeth Jehofa bendithio eu hymdrechion i gael hyd i siaradwyr Quechua
16 Roedd Kevin, henuriad yng nghynulleidfa Quechua, yn un o’r rhai a oedd yn poeni am hyn. Mae’n esbonio: “Roeddwn i’n meddwl, ‘Sut byddwn ni nawr yn dod o hyd i bobl sy’n siarad Quechua?’” Beth a wnaeth Kevin? Dywedodd: “Meddyliais am Diarhebion 3:5 a hefyd am esiampl Moses. Gofynnodd Jehofa i Moses arwain yr Israeliaid allan o’r Aifft tuag at y Môr Coch, ond roedd yn ymweld fel nad oedd ’na ffordd iddyn nhw ddianc rhag yr Eifftiaid. Er hynny, roedd Moses yn ufudd a gwnaeth Jehofa bendithio ei ufudd-dod mewn ffordd ragorol.” (Ex. 14:1, 2, 9-11, 21, 22) Roedd Kevin yn barod i addasu ei weinidogaeth. Beth oedd y canlyniad? Dywedodd: “Fe wnes i synnu at y ffordd gwnaeth Jehofa ein bendithio ni. Cyn hynny, roeddwn ni’n cerdded lot yn y weinidogaeth, ac weithiau ond yn dod o hyd i un neu ddau o siaradwyr Quechua. Nawr rydyn ni’n mynd i lefydd lle mae llawer o bobl yn siarad yr iaith. O ganlyniad, rydyn ni’n cael mwy o sgyrsiau, ail alwadau, ac astudiaethau Beiblaidd. Mae llawer yn mynychu’r cyfarfodydd.” Yn wir, pan ydyn ni’n cerdded yn ôl ffydd, mae Jehofa’n wastad yn ein gwobrwyo ni.
Dysgodd y brodyr fod llawer o bobl yn gallu eu cyfeirio nhw at bobl a oedd yn siarad yr iaith (Gweler paragraffau 15-16)
17. Beth rwyt ti wedi ei ddysgu o’r erthygl hon?
17 Rydyn ni wedi ystyried sut i barhau i gerdded yn ôl ffydd mewn tair sefyllfa bwysig. Ond mae angen inni barhau i wneud hyn ym mhob rhan o’n bywydau. Er enghraifft, wrth inni ddewis adloniant, neu wrth wneud penderfyniadau pwysig am addysg neu am fagu plant. Pa bynnag benderfyniad mae’n rhaid inni ei wneud, dylen ni gael ein harwain nid yn unig gan yr hyn rydyn ni’n ei weld, ond hefyd gan ein perthynas â Jehofa, y cyngor mae’n ei roi, a’i addewid i ofalu amdanon ni. Os ydyn ni’n gwneud hynny, byddwn ni’n gallu “dilyn yr ARGLWYDD ein Duw am byth bythoedd!”—Mich. 4:5.
CÂN 156 Drwy Lygaid Ffydd
a Newidiwyd rhai enwau.
b I gadw pethau’n syml, mae’r paragraff hwn yn cyfeirio at chwaer sy’n edrych am ŵr. Mae’r cyngor yr un mor berthnasol i frawd sy’n edrych am wraig.