ERTHYGL ASTUDIO 13
CÂN 4 Jehofa Yw Fy Mugail
Dydy Llaw Jehofa Byth yn Rhy Fyr
“A yw llaw yr ARGLWYDD yn rhy fyr?”—NUM. 11:23, BCND.
PWRPAS
Bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni i adeiladu ein tryst y bydd Jehofa’n wastad yn gofalu am ein hanghenion materol.
1. Sut dangosodd Moses tryst yn Jehofa wrth arwain y bobl allan o’r Aifft?
MAE llyfr Hebreaid yn sôn am lawer o bobl a oedd â ffydd yn Jehofa. Moses oedd un ohonyn nhw ac roedd ganddo ef ffydd anhygoel. (Heb. 3:2-5; 11:23-25) Dangosodd ffydd pan arweiniodd yr Israeliaid allan o’r Aifft. Ni wnaeth ef adael i Pharo a’i fyddin ei stopio. Wrth ymddiried yn Jehofa, fe wnaeth arwain y bobl trwy’r Môr Coch ac yn hwyrach ymlaen i mewn i’r anialwch. (Heb. 11:27-29) Gwnaeth y rhan fwyaf o’r Israeliaid golli eu hyder yng ngallu Jehofa i ofalu amdanyn nhw, ond parhaodd Moses i drystio yn ei Dduw. Ni chafodd Moses ei siomi, fe wnaeth Duw ddarparu bwyd a dŵr yn wyrthiol er mwyn cynnal y bobl yn yr anialwch anffrwythlon.a—Ex. 15:22-25; Salm 78:23-25.
2. Pam gofynnodd Duw i Moses: “A yw llaw yr ARGLWYDD yn rhy fyr”? (Numeri 11:21-23)
2 Er bod gan Moses ffydd gref, tua blwyddyn ar ôl gwaredigaeth wyrthiol yr Israeliaid, fe wnaeth gwestiynu a fyddai Jehofa’n cyflawni ei addewid i roi cig i’w bobl. Doedd Moses ddim yn gallu dychmygu sut byddai Jehofa’n gallu darparu digon o gig i fodloni’r miliynau a oedd yn gwersylla yn yr anialwch lle nad oedd ’na lawer o fwyd. Atebodd Jehofa gan ofyn i Moses: “A yw llaw yr ARGLWYDD yn rhy fyr?” (Darllen Numeri 11:21-23, BCND.) Yma mae’r ymadrodd “llaw yr ARGLWYDD” yn cyfeirio at ysbryd glân Duw, neu ei rym ar waith. Roedd Jehofa’n gofyn i Moses, fel petai, ‘A wyt ti’n wir yn meddwl bod hyn y tu hwnt i fy ngallu?’
3. Pam dylai profiad Moses a’r Israeliaid fod o ddiddordeb inni?
3 A wyt ti erioed wedi cwestiynu a fydd Jehofa’n gofalu am dy anghenion materol dy hun neu anghenion dy deulu? Hyd yn oed os nad wyt ti wedi, gad inni ystyried profiad Moses a’r Israeliaid a oedd â diffyg hyder yng ngallu Duw i ofalu amdanyn nhw. Byddwn ni hefyd yn edrych ar ba egwyddorion Beiblaidd a fydd yn ein helpu ni i adeiladu ein hyder nad ydy llaw Jehofa byth yn rhy fyr.
DYSGA ODDI WRTH MOSES A’R ISRAELIAID
4. Beth efallai a wnaeth achosi i lawer gwestiynu gallu Jehofa i ofalu am eu hanghenion materol?
4 Ystyria’r cyd-destun. Roedd cenedl Israel a ‘thyrfa gymysg o bobl’ nad oedd yn Israeliaid yn yr anialwch am amser hir yn teithio o’r Aifft i Wlad yr Addewid. (Ex. 12:38; Deut. 8:15) Roedd y dyrfa a llawer o’r Israeliaid wedi blino ar fwyta manna, ac felly gwnaethon nhw gwyno i Moses. (Num. 11:4-6) Dechreuodd y bobl hiraethu am y bwyd a oedd ar gael yn yr Aifft. Mae’n amlwg bod Moses yn teimlo o dan bwysau gan y bobl i ddarparu bwyd iddyn nhw ar ei ben ei hun.—Num. 11:13, 14.
5-6. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd gwnaeth y dyrfa gymysg ddylanwadu ar lawer o Israeliaid?
5 Mae’n amlwg bod yr Israeliaid wedi cael eu heffeithio gan anniolchgarwch y dyrfa gymysg. Gallwn ni hefyd gael ein heffeithio gan agwedd anniolchgar eraill a dechrau teimlo’n anhapus gyda’r hyn mae Jehofa’n ei ddarparu inni. Gall hynny ddigwydd inni os ydyn ni’n hiraethu am y pethau oedd gynnon ni yn y gorffennol neu os ydyn ni’n genfigennus am beth sydd gan eraill. Ond, byddwn ni’n hapusach os ydyn ni’n meithrin bodlondeb er gwaethaf ein hamgylchiadau.
6 Dylai’r Israeliaid fod wedi cofio bod Duw wedi dweud y bydden nhw’n mwynhau digonedd o bethau materol ar ôl iddyn nhw gyrraedd Gwlad yr Addewid. Doedd yr addewid hwnnw ddim yn mynd i gael ei gyflawni tra oedden nhw’n teithio trwy’r anialwch. Mewn ffordd debyg, yn lle canolbwyntio ar y pethau nad oes gynnon ni yn y system hon, byddai’n well inni fyfyrio ar y pethau mae Jehofa wedi addo eu rhoi inni yn y byd newydd. Gallwn ni hefyd fyfyrio ar ysgrythurau sy’n ein helpu ni i adeiladu ein tryst yn Jehofa.
7. Pam gallwn ni fod yn sicr nad ydy llaw Jehofa’n rhy fyr?
7 Ond efallai rwyt ti’n dal i gwestiynu pam gofynnodd Duw i Moses: “A yw llaw yr ARGLWYDD yn rhy fyr?” Efallai roedd Jehofa’n helpu Moses i feddwl nid yn unig am ba mor gryf oedd Ei law, ond hefyd am ba mor bell mae’n gallu cyrraedd. Roedd Duw yn gallu darparu digonedd o gig i’r Israeliaid er eu bod nhw yng nghanol yr anialwch. Gyda “llaw gref ac â braich estynedig,” dangosodd Duw ei rym. (Salm 136:11, 12, BCND) Felly pan ydyn ni’n wynebu treialon, gallwn ni fod yn siŵr bydd llaw estynedig Jehofa yn cyrraedd pob un ohonon ni. —Salm 138:6, 7.
8. Sut gallwn ni osgoi gwneud yr un camgymeriad â’r un a wnaeth llawer yn yr anialwch? (Gweler hefyd y llun.)
8 Yn fuan wedyn fe roddodd Jehofa soflieir i’r bobl ac yna roedd ganddyn nhw ddigonedd o gig. Ond ni wnaeth yr Israeliaid ddiolch i Dduw am y wyrth hon. Yn lle hynny, ildiodd llawer i drachwant. Am ddiwrnod a hanner, gweithion nhw’n galed i gasglu mwy o soflieir. Roedd Jehofa’n flin iawn gyda’r bobl a oedd “yn awchu am gig” ac fe wnaeth eu cosbi nhw. (Num. 11:31-34) Gallwn ni ddysgu o’r esiampl hon. Mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â disgyn i mewn i drachwant. Ni waeth ein sefyllfa ariannol, dylen ni flaenoriaethu casglu ‘trysorau yn y nef’ trwy adeiladu perthynas agos â Jehofa ac Iesu. (Math. 6:19, 20; Luc 16:9) Wrth inni wneud hyn, gallwn ni fod yn sicr bydd Jehofa’n gofalu amdanon ni.
Yn yr anialwch, pa agwedd oedd gan lawer, a beth gallwn ni ei ddysgu o’r digwyddiad hwnnw? (Gweler paragraff 8)
9. O beth gallwn ni fod yn sicr?
9 Heddiw, mae Jehofa’n estyn llaw i helpu ei bobl. Ond, a ydy hynny’n golygu na fydd ’na byth angen arnon ni am fwyd neu am arian? Nac ydy.b Fydd Jehofa byth yn cefnu arnon ni. Bydd ef yn wastad yn rhoi inni’r nerth i’n helpu ni yn ein treialon. Gallwn ni egluro hyn drwy edrych ar ddwy sefyllfa lle gallwn ni ddangos ein tryst y bydd Jehofa’n estyn ei law i ofalu am ein hanghenion materol: (1) wrth ddelio â phroblemau ariannol a (2) wrth baratoi am ein hanghenion materol ar gyfer y dyfodol.
WRTH DDELIO Â PHROBLEMAU ARIANNOL
10. Pa broblemau ariannol efallai byddwn ni’n eu hwynebu?
10 Wrth i ddiwedd y system hon agosáu, gallwn ni ddisgwyl mwy o broblemau economaidd o achos i broblemau gwleidyddol, rhyfeloedd, trychinebau naturiol, neu bandemigau newydd. Gall hyn achosi inni golli ein swydd, ein heiddo, neu ein cartref. Efallai bydd rhaid inni gael hyd i swydd newydd lle rydyn ni’n byw neu feddwl am symud ein teulu i rywle gwahanol er mwyn gofalu amdanyn nhw. Beth all ein helpu ni i wneud penderfyniadau sy’n dangos ein bod ni’n trystio yn llaw Jehofa?
11. Beth all dy helpu di ddelio â phroblemau ariannol? (Luc 12:29-31)
11 Y peth mwyaf pwysig ac effeithiol gelli di ei wneud ydy siarad â Jehofa. (Diar. 16:3) Gofynna iddo am y doethineb sydd ei angen arnat ti i wneud penderfyniadau da ac am dawelwch meddwl er mwyn osgoi bod “ar bigau’r drain” am dy sefyllfa. (Darllen Luc 12:29-31.) Gofynna iddo i dy helpu di i fod yn fodlon gyda phethau angenrheidiol mewn bywyd. (1 Tim. 6:7, 8) Gwna ymchwil yn ein cyhoeddiadau ar sut i lwyddo wrth ddelio â phroblemau ariannol. Mae llawer wedi elwa o’r deunydd sydd ar gael ar jw.org sy’n trafod sut i ddelio â phroblemau economaidd.
12. Pa gwestiynau all helpu Cristion i wneud y penderfyniadau gorau ar gyfer ei deulu?
12 Mae rhai wedi derbyn swydd sydd wedi eu gorfodi nhw i symud oddi wrth eu teuluoedd, ond mae hyn wedi profi i fod yn benderfyniad annoeth. Cyn derbyn swydd newydd, ystyria nid yn unig faint gelli di ei ennill, ond hefyd faint gallai ei gostio’n ysbrydol. (Luc 14:28) Gofynna i ti dy hun: ‘Sut gall hyn effeithio ar fy mhriodas petaswn i’n symud i ffwrdd o fy nghymar? A fyddwn i’n gallu mynychu pob cyfarfod, mynd ar y weinidogaeth, a threulio amser gyda fy mrodyr a fy chwiorydd?’ Os oes gen ti blant, mae’n rhaid iti hefyd ofyn y cwestiwn pwysig hwn: ‘Sut byddwn i’n magu fy mhlant “yn nisgyblaeth a hyfforddiant Jehofa” os nad ydw i gyda nhw?’ (Eff. 6:4) Yn hytrach na chael dy arwain gan deulu neu ffrindiau sydd ddim yn parchu egwyddorion Beiblaidd, gad i feddylfryd Duw dy arwain di.c Roedd Tony, sy’n byw yng Ngorllewin Asia, wedi cael llawer o gynigion i weithio mewn gwlad arall. Ond ar ôl gweddïo am y mater a siarad â’i wraig, penderfynodd i wrthod y swydd ac yn lle hynny i feddwl am sut gallai’r teulu wario llai o arian. Wrth edrych yn ôl, mae Tony yn dweud: “Rydw i wedi cael y fraint o helpu sawl person i ddod i adnabod Jehofa, ac mae ein plant yn teimlo’n frwdfrydig am y gwir. Mae ein teulu wedi dysgu bydd Jehofa’n edrych ar ein holau ni os ydyn ni’n rhoi ar waith y geiriau yn Mathew 6:33.”
WRTH BARATOI AM EIN HANGHENION MATEROL AR GYFER Y DYFODOL
13. Pa gamau rhesymol gallwn ni eu cymryd nawr i’n helpu ni gyda’n hanghenion materol yn y dyfodol?
13 Gall ein hyder yn llaw Jehofa hefyd gael ei brofi wrth inni wneud trefniadau ar gyfer ein henaint. Mae’r Beibl yn ein hannog ni i weithio’n galed fel ein bod ni’n gallu edrych ar ôl ein hanghenion materol yn y dyfodol. (Diar. 6:6-11) Mae’n rhesymol inni gynilo arian am y dyfodol os ydyn ni’n gallu. Mae’n wir bod arian yn gallu ein hamddiffyn ni rhywfaint. (Preg. 7:12) Ond dylen ni osgoi blaenoriaethu pethau materol yn ein bywydau.
14. Pam dylen ni ystyried Hebreaid 13:5 wrth baratoi am ein hanghenion ariannol ar gyfer y dyfodol?
14 Esboniodd Iesu y ffolineb o gasglu arian heb fod “yn gyfoethog yng ngolwg Duw.” (Luc 12:16-21) Dydy neb yn gwybod beth sydd ar y gorwel. (Diar. 23:4, 5; Iago 4:13-15) Rydyn ni’n wynebu sialens benodol fel dilynwyr Crist. Dywedodd Iesu fod rhaid inni fod yn barod i “ildio” ein holl eiddo er mwyn bod yn ddisgyblion iddo. (Luc 14:33, tdn.) Derbyniodd Cristnogion y ganrif gyntaf yn Jwdea y golled hon gyda llawenydd. (Heb. 10:34) Yn nyddiau modern, mae llawer o frodyr wedi gorfod aberthu pethau materol neu eu swyddi am wrthod cefnogi unrhyw blaid wleidyddol. (Dat. 13:16, 17) Beth sydd wedi eu helpu nhw i wneud hynny? Maen nhw’n hollol hyderus am addewid Jehofa: “Ni wna i byth dy adael di, ac ni wna i byth gefnu arnat ti.” (Darllen Hebreaid 13:5.) Rydyn ni’n gwneud ein gorau i baratoi ar gyfer y dyfodol, ond os bydd pethau annisgwyl yn digwydd, rydyn ni’n hyderus bydd Jehofa’n ein cefnogi ni.
15. Pa agwedd gytbwys dylai rhieni ei chael tuag at eu plant? (Gweler hefyd y llun.)
15 Mewn rhai diwylliannau, y prif reswm dros gael plant yw i’r rhieni gael cefnogaeth ariannol yn eu henaint. Mewn ffordd, mae’r rhieni yn gweld eu plant fel “cynllun ymddeol.” Ond mae’r Beibl yn dweud dylai’r rhieni edrych ar ôl anghenion eu plant. (2 Cor. 12:14) Wrth gwrs, bydd angen am help ymarferol ar rai rhieni wrth iddyn nhw heneiddio, ac mae llawer o blant yn hapus i drefnu hynny. (1 Tim. 5:4) Ond mae rhieni Cristnogol yn sylweddoli bod eu llawenydd yn dod o helpu eu plant i ddod yn weision i Jehofa, ac nid o gael cymorth ariannol oddi wrthyn nhw.—3 Ioan 4.
Mae cyplau Cristnogol sy’n dibynnu ar Jehofa yn ystyried egwyddorion y Beibl wrth wneud penderfyniadau am eu dyfodol (Gweler paragraff 15)d
16. Sut gall rhieni helpu eu plant i gynnal eu hunain yn y dyfodol? (Effesiaid 4:28)
16 Drwy dy esiampl, dysga dy blant i drystio Jehofa wrth iti eu helpu nhw i baratoi i gynnal eu hunain. Dangosa iddyn nhw’r pwysigrwydd o weithio’n galed yn eu hieuenctid. (Diar. 29:21; darllen Effesiaid 4:28.) Wrth iddyn nhw dyfu, helpa nhw i wneud eu gorau yn yr ysgol. Gall rhieni wneud ymchwil a rhoi ar waith egwyddorion Beiblaidd a fydd yn helpu eu plant i wneud penderfyniadau doeth ynglŷn ag addysg. Nod y rhieni yw helpu eu plant i ddysgu sut i gynnal eu hunain ac i dreulio fwy o amser yn y weinidogaeth.
17. O beth gallwn ni fod yn sicr?
17 Gall gweision ffyddlon Jehofa ddibynnu ar Ei allu a’i awydd i fodloni eu hanghenion materol. Wrth inni nesáu at ddiwedd y system hon, gallwn ni ddisgwyl i’n hyder yn Jehofa gael ei brofi. Ond ni waeth beth sy’n digwydd, gad inni fod yn benderfynol o drystio y bydd Jehofa’n defnyddio ei nerth i ofalu amdanon ni. Yn sicr, ni fydd ei law gref na’i fraich estynedig byth yn rhy fyr i’n cyrraedd ni.
CÂN 150 Trowch at Dduw am Waredigaeth
a Gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn rhifyn Hydref 2023 o’r Tŵr Gwylio.
b Gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn rhifyn Medi 15, 2014 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.
c Gweler yr erthygl “No One Can Serve Two Masters” yn rhifyn Ebrill 15, 2014 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.
d DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae cwpl Cristnogol ffyddlon yn cysylltu â’u plentyn sy’n gwasanaethu gyda’i gŵr ar brosiect adeiladu Neuadd y Deyrnas.