ERTHYGL ASTUDIO 4
CÂN 30 Fy Nhad, Fy Nuw a’m Ffrind
Mae Jehofa’n Dangos Tosturi Tuag Atat Ti
‘Mae Jehofa yn fawr ei dosturi.’—IAGO 5:11.
PWRPAS
Sut bydd natur gariadus Jehofa’n ein denu ni’n agosach ato ac yn gwneud inni deimlo’n saff, o dan ei ofal, ac wedi ein hadfywio.
1. Beth sy’n dod i dy feddwl pan wyt ti’n meddwl am Jehofa?
A WYT ti erioed wedi meddwl pa fath o berson ydy Jehofa? Pan wyt ti’n siarad ag ef mewn gweddi, beth sy’n dod i dy feddwl? Er dydyn ni ddim yn gallu gweld Jehofa, mae’r Beibl yn ei ddisgrifio mewn llawer o ffyrdd. Mae Jehofa’n cael ei alw’n “haul ac yn darian” ac yn ‘dân dinistriol.’ (Salm 84:11; Heb. 12:29) Mae’n cael ei ddisgrifio fel saffir, metel sydd ar dân, ac enfys anhygoel. (Esec. 1:26-28) Gall y disgrifiadau hyn am Jehofa wneud argraff fawr arnon ni neu hyd yn oed wneud inni deimlo’n fychan.
2. Beth sy’n gallu stopio rhai rhag agosáu at Jehofa?
2 Oherwydd dydyn ni ddim yn gallu gweld Jehofa, gall hynny ei gwneud hi’n anodd inni gredu bod Jehofa’n ein caru ni. Mae rhai’n meddwl ei bod hi’n amhosib i Jehofa eu caru nhw oherwydd y pethau drwg sydd wedi digwydd iddyn nhw. Efallai dydyn nhw erioed wedi cael tad sydd wedi eu caru nhw. Mae Jehofa’n deall y fath deimladau ac yn deall sut maen nhw’n effeithio arnon ni. I’n helpu ni, mae’n datgelu ei bersonoliaeth hardd yn ei Air.
3. Pam mae’n beth da inni edrych yn fanwl ar gariad Jehofa?
3 Y gair sy’n disgrifio Jehofa orau ydy cariad. (1 Ioan 4:8) Mae cariad yn ei ddiffinio. Mae’n cymell popeth mae’n ei wneud. Mae cariad Duw mor gynnes ac mor bwerus nes iddo hyd yn oed garu’r rhai sydd ddim yn ei garu ef. (Math. 5:44, 45) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n edrych yn agosach ar Jehofa a’i gariad. Y mwyaf byddwn ni’n dysgu am ein Duw, y mwyaf byddwn ni’n ei garu.
MAE JEHOFA’N EIN CARU NI’N FAWR IAWN
4. Sut mae tosturi Jehofa yn gwneud iti deimlo? (Gweler hefyd y llun.)
4 ‘Mae Jehofa yn fawr ei dosturi.’ (Iago 5:11) Yn y Beibl, mae Jehofa’n ei gymharu ei hun â mam gariadus. (Esei. 66:12, 13) Dychmyga fam sy’n caru ei phlentyn ac yn gofalu amdano. Mae hi’n chwarae gyda’i phlentyn ar ei gliniau hi ac mae’n siarad gydag ef mewn ffordd dyner. Pan mae’n crio neu mewn poen, mae hi’n gwneud yn siŵr ei fod yn cael beth sydd ei angen arno. Pan ydyn ni mewn poen, gallwn ni ddibynnu’n llwyr ar gariad Jehofa. Ysgrifennodd y salmydd: “Er bod pryderon fy nghalon yn niferus, y mae dy gysuron di’n fy llawenhau.”—Salm 94:19, BCND.
“Bydda i’n eich cysuro chi fel mam yn cysuro’i phlentyn” (Gweler paragraff 4)
5. Beth mae cariad ffyddlon Jehofa’n ei olygu i ti?
5 Mae Jehofa’n ffyddlon. (Salm 103:8, BCND) Dydy ef ddim yn troi cefn arnon ni pan ydyn ni’n gwneud rhywbeth anghywir. Er bod cenedl Israel wedi siomi Jehofa dro ar ôl tro, ar ôl iddyn nhw edifarhau, dangosodd Jehofa ei gariad diddarfod atyn nhw drwy ddweud y geiriau hyn: “Dw i’n dy drysori di, ac yn dy garu di, achos ti’n werthfawr yn fy ngolwg i.” (Esei. 43:4, 5) Dydy cariad Duw ddim wedi newid. Gallwn ni ddibynnu arno’n llwyr. Hyd yn oed os ydyn ni wedi gwneud camgymeriadau difrifol, dydy Jehofa ddim yn cefnu arnon ni. Pan fyddwn ni’n edifarhau ac yn troi’n ôl at Jehofa, byddwn ni’n gweld ei fod yn dal yn ein caru ni. Mae’n addo ei fod yn “barod i faddau.” (Esei. 55:7) Mae’r Beibl yn disgrifio ei faddeuant fel “tymhorau sy’n adfywio . . . oddi wrth Jehofa ei hun.”—Act. 3:19.
6. Beth mae Sechareia 2:8 yn ei ddysgu inni am Jehofa?
6 Darllen Sechareia 2:8. Oherwydd bod Jehofa’n ein caru ni, mae’n teimlo i’r byw droston ni ac yn barod i’n hamddiffyn ni. Mae ef yn brifo pan ydyn ni’n brifo. O ganlyniad, gallwn ni weddïo: “Amddiffyn fi fel cannwyll dy lygad.” (Salm 17:8) Mae’r llygad yn rhan sensitif a gwerthfawr o’r corff. Felly pan mae Jehofa’n ein cymharu ni â channwyll ei lygad, mae fel petai ef yn dweud, ‘Mae unrhyw un sy’n eich brifo chi, fy mhobl, yn brifo beth sy’n werthfawr imi.’
7. Pam dylen ni gryfhau ein hyder yng nghariad Jehofa?
7 Mae Jehofa eisiau inni fod yn hollol siŵr ei fod yn ein caru ni’n bersonol. Ond mae’n gwybod, oherwydd pethau sydd wedi digwydd yn y gorffennol, efallai byddwn ni’n cwestiynu a ydy hi’n bosib iddo ein caru ni. Neu efallai ein bod ni’n wynebu sefyllfa nawr sy’n profi ein hyder yn ei gariad. Beth fydd yn cryfhau ein hyder? Dysgu sut mae Jehofa’n dangos ei gariad tuag at Iesu, yr eneiniog, a phob un ohonon ni.
SUT DANGOSODD JEHOFA EI GARIAD
8. Pam roedd Iesu’n hollol siŵr o gariad ei Dad?
8 Am filiynau o flynyddoedd, mae Jehofa a’i Fab annwyl wedi cael perthynas agos llawn cariad. Eu perthynas nhw ydy’r hynaf yn y bydysawd. Dangosodd Jehofa ei gariad tuag at Iesu’n glir ym Mathew 17:5. Byddai Jehofa wedi gallu dweud, ‘Hwn ydy’r un sy’n fy mhlesio i’n fawr iawn.’ Ond, roedd ef eisiau inni wybod faint mae’n caru Iesu, felly galwodd ef “fy Mab annwyl.” Roedd Jehofa’n prowd iawn o Iesu ac o beth roedd ef am ei wneud. (Eff. 1:7) A doedd gan Iesu ddim amheuon am sut roedd ei Dad yn teimlo amdano. Roedd Iesu’n hollol siŵr o gariad Jehofa tuag ato. Dywedodd sawl gwaith gyda hyder fod ei Dad yn ei garu.—Ioan 3:35; 10:17; 17:24.
9. Pa eiriau sy’n disgrifio cariad Jehofa tuag at yr eneiniog? Esbonia. (Rhufeiniaid 5:5)
9 Mae Jehofa hefyd yn dangos ei gariad tuag at yr eneiniog. (Darllen Rhufeiniaid 5:5.) Sylwa ar y gair ‘tywallt.’ Mae un geiriadur Beiblaidd yn ei ddisgrifio fel “nant sy’n dod droston ni.” Mae’r eglureb hon yn wir yn dangos y cariad sydd gan Jehofa tuag at yr eneiniog! Mae’r eneiniog yn gwybod bod “Duw y Tad yn eu caru.” (Jwd. 1) Dywedodd yr apostol Ioan sut roedden nhw’n teimlo pan ysgrifennodd: “Gwelwch pa fath o gariad mae’r Tad wedi ei ddangos tuag aton ni: mae ef wedi ein galw ni’n blant i Dduw!” (1 Ioan 3:1) Ydy Jehofa ond yn caru’r eneiniog? Nac ydy, mae Jehofa wedi profi ei gariad tuag at bob un ohonon ni.
10. Beth ydy’r ffordd fwyaf mae Jehofa wedi dangos ei gariad tuag atat ti?
10 Beth ydy’r ffordd fwyaf mae Jehofa wedi dangos ei gariad? Y pris y mae wedi ei dalu—y weithred fwyaf o gariad yn y bydysawd! (Ioan 3:16; Rhuf. 5:8) Rhoddodd Jehofa ei Fab gwerthfawr, gan adael iddo farw dros ddynolryw er mwyn i’n pechodau ni cael eu maddau ac inni gael bod yn ffrindiau i Jehofa. (1 Ioan 4:10) Y mwyaf rydyn ni’n myfyrio ar y pris a dalodd Jehofa ac Iesu, y mwyaf rydyn ni’n deall faint maen nhw’n caru pob un ohonon ni. (Gal. 2:20) Cafodd y pris ei dalu, nid gan fod Jehofa’n dymuno cyfiawnder yn unig, ond gan ei fod yn anrheg sy’n llawn cariad. Mae Jehofa wir wedi profi ei gariad tuag aton ni drwy aberthu beth roedd yn werthfawr iddo—Iesu. Gadawodd Jehofa i’w Fab ddioddef a marw droston ni.
11. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o Jeremeia 31:3?
11 Fel rydyn ni wedi gweld, dydy Jehofa ddim yn cadw ei deimladau ato’i hun, ond mae hefyd yn dweud faint mae’n ein caru ni. (Darllen Jeremeia 31:3.) Mae Jehofa wedi ein denu ni ato oherwydd ei fod yn ein caru ni. (Cymhara Deuteronomium 7:7, 8.) Ni all unrhyw beth nac unrhyw berson ein gwahanu ni o’r cariad hwnnw. (Rhuf. 8:38, 39) Sut mae’r cariad hwn yn gwneud i ti deimlo? Darllena Salm 23, a gweld yr effaith roedd cariad Jehofa a’i ofal yn ei chael ar Dafydd a sut gallai gael effaith ar bob un ohonon ni hefyd.
SUT MAE CARIAD JEHOFA’N GWNEUD I TI DEIMLO?
12. Sut byddet ti’n crynhoi Salm 23?
12 Darllen Salm 23:1-6. Mae Salm 23 yn gân sy’n mynegi hyder yng nghariad Jehofa a’i ofal tyner. Yn y salm hon, disgrifiodd Dafydd y perthynas gref a oedd rhyngddo ef a’i Fugail, Jehofa. Teimlodd Dafydd yn hollol saff yn gadael i Jehofa ddangos y ffordd iddo, ac roedd yn dibynnu arno’n llwyr. Roedd Dafydd yn gwybod byddai Jehofa’n dangos cariad tuag ato bob diwrnod o’i fywyd. Beth oedd yn rhoi gymaint o hyder iddo?
13. Pam roedd Dafydd yn hollol siŵr o ofal Jehofa?
13 “Mae gen i bopeth dw i angen.” Roedd Dafydd yn teimlo bod Jehofa’n wir yn gofalu amdano gan ei fod yn rhoi popeth roedd ei angen iddo. Roedd Dafydd hefyd yn mwynhau cael bod yn ffrind i Jehofa a chael ei ffafr. Dyna pam roedd yn gwybod, dim ots beth fyddai’n digwydd yn y dyfodol, byddai Jehofa’n dal i ofalu am ei anghenion. Gan fod tryst Dafydd yng nghariad tyner Jehofa yn fwy pwerus na’i bryderon, roedd yn hapus ac yn fodlon.—Salm 16:11.
14. Sut gall Jehofa ofalu amdanon ni mewn ffordd gariadus?
14 Mae Jehofa’n gofalu amdanon ni mewn ffordd gariadus, yn enwedig pan mae pethau drwg yn digwydd mewn bywyd. Roedd Claire,a sydd wedi gwasanaethu yn y Bethel am dros 20 mlynedd, yn teimlo ar goll pan oedd rhaid i’w theulu hi wynebu problemau drwg dro ar ôl tro. Cafodd ei thad hi strôc ddrwg, cafodd un o’i chwiorydd hi ei diarddel, a chollodd ei theulu hi eu busnes a’u cartref. Sut gwnaeth Jehofa ofalu amdanyn nhw mewn ffordd gariadus? Dywedodd Claire: “Gwnaeth Jehofa wneud yn siŵr bod gan fy nheulu bopeth roedden nhw’n ei angen bob dydd. Roedd yr hyn a roddodd Jehofa yn fwy nag oeddwn i’n gallu dychmygu! Rydw i’n aml yn myfyrio ar sut rydw i wedi profi cariad tyner Jehofa, ac rydw i’n trysori hynny. Mae’r atgofion hyn wedi fy helpu i gario ymlaen yng nghanol treialon.”
15. Sut cafodd Dafydd ei adfywio? (Gweler hefyd y llun.)
15 “Mae’n rhoi bywyd newydd i mi.” Ar adegau, roedd Dafydd yn poeni gymaint am y treialon roedd yn eu hwynebu. (Salm 18: 4-6) Ond eto, roedd cariad tyner Jehofa yn ei adfywio. Gwnaeth Jehofa arwain ei ffrind blinedig at ‘borfa hyfryd’ ac at “ddŵr glân sy’n llifo’n dawel.” O ganlyniad, cafodd Dafydd ei nerth yn ôl ac roedd yn gallu dal ati.—Salm 18:28-32.
Hyd yn oed tra oedd Dafydd yn ffoadur, cafodd ei adfywio gan gariad tyner a gofal Jehofa (Gweler paragraff 15)
16. Sut mae cariad Jehofa wedi dy adfywio di?
16 Yn debyg heddiw, “mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd” wrth inni wynebu treialon mewn bywyd. (Galar. 3:22; Col. 1:11) Ystyria esiampl Rachel. Roedd hi wedi ypsetio gymaint pan wnaeth ei gŵr ei gadael hi a Jehofa yn ystod y pandemig COVID-19. Beth wnaeth Jehofa drosti? Dywedodd hi: “Gwnaeth Jehofa wneud yn siŵr ei fod yn edrych ar fy ôl i. Rhoddodd ffrindiau da a oedd yn barod i dreulio amser gyda mi, yn dod â phryd o fwyd imi, yn gyrru negeseuon cariadus, yn rhannu ysgrythurau, yn gwenu arna i, ac yn fy atgoffa i fod Jehofa’n wir yn gofalu amdana i. Dydw i ddim wedi stopio diolch i Jehofa am roi teulu mawr a chariadus imi.”
17. Pam doedd gan Dafydd “ddim ofn”?
17 “Fydd gen i ddim ofn, am dy fod ti gyda mi.” Roedd bywyd Dafydd yn aml mewn peryg, ac roedd ganddo lawer o elynion pwerus. Ond, roedd cariad Jehofa yn gwneud iddo deimlo’n saff a’i fod yn ei amddiffyn. Roedd Dafydd yn teimlo bod Jehofa gydag ef ym mhob sefyllfa, ac roedd hyn yn ei gysuro. Felly, roedd yn gallu canu: “Achubodd [Jehofa] fi o’m holl ofnau.” (Salm 34:4) Roedd ofn Dafydd yn real, ond roedd cariad Jehofa’n gryfach na’i ofn.
18. Sut gall bod yn sicr o gariad Jehofa ein cryfhau ni pan fydd ofn arnon ni?
18 Sut gall bod yn sicr o gariad Jehofa ein cryfhau ni pan fyddwn ni’n wynebu sefyllfaoedd ofnus? Mae arloeswraig o’r enw Susi yn disgrifio sut roedd hi a’i gŵr yn teimlo pan wnaeth eu mab ei ladd ei hun: “Gall trasiedi sy’n digwydd mor sydyn fod yn hynod o drawmatig a gall gael effaith fawr ar rywun. Ond mae cariad tyner Jehofa wedi gwneud inni deimlo’n saff a’i fod yn gofalu amdanon ni.” Mae Rachel, y soniwyd amdani’n gynharach, yn dweud: “Un noson roeddwn i’n teimlo’n hynod o drist, yn poeni’n arw, ac yn hynod o ofnus. Fe wnes i grio allan mewn gweddi i Jehofa ac yn syth ar ôl hynny teimlais heddwch yn fy nghalon, fel pan fydd mam yn cysuro babi, ac fe wnes i ddisgyn i gysgu. Wna i byth anghofio’r foment honno.” Gwnaeth henuriad o’r enw Tasos dreulio pedair blynedd yn y carchar am beidio ag ymuno â’r fyddin. Sut gwnaeth ef brofi cariad Jehofa? Mae’n dweud: “Roedd Jehofa yn edrych ar ôl fy anghenion a mwy. Gwnaeth hyn gryfhau fy hyder fy mod i’n gallu trystio’n llwyr ynddo. Hefyd, drwy ei ysbryd, fe wnaeth Jehofa roi llawenydd imi er gwaethaf bod mewn sefyllfa mor ddigalon. Gwnaeth hyn fy helpu i weld y mwyaf bydda i’n trystio yn Jehofa, y mwyaf bydda i’n teimlo ei gariad tuag ata i. Felly fe wnes i ei wasanaethu fel arloeswr llawn amser pan oeddwn i yn y carchar.”
AGOSÁU AT EIN DUW TYNER
19. (a) Sut gall gwybod bod Duw’n ein caru ni effeithio ar beth rydyn ni’n ei ddweud yn ein gweddïau? (b) Pa ddisgrifiad o gariad Jehofa sy’n cyffwrdd dy galon? (Gweler y blwch “Geiriau Sy’n Ein Helpu Ni i Deimlo Cariad Cynnes Jehofa.”)
19 Mae’r holl brofiadau rydyn ni wedi eu trafod yn profi bod Jehofa, “Duw cariad,” gyda ni! (2 Cor. 13:11) Mae ganddo ddiddordeb ynon ni’n bersonol. Rydyn ni’n hyderus y gallwn ni “ei drystio fe.” (Salm 32:10) Y mwyaf rydyn ni’n myfyrio ar sut mae wedi dangos cariad tuag aton ni, y mwyaf real bydd ef yn dod inni, ac yna byddwn ni’n teimlo’n agosach ato. Rydyn ni’n gallu siarad ag ef yn rhwydd a dweud wrtho faint rydyn ni angen ei gariad. Rydyn ni’n gallu rhannu’r pethau sy’n ein poeni ni, ac rydyn ni’n llawn hyder ei fod yn ein deall ni ac yn awyddus i’n helpu ni.—Salm 145:18, 19.
20. Sut mae cariad Jehofa’n ein denu ni tuag ato?
20 Yn union fel rydyn ni’n cael ein denu at dân cynnes ar ddiwrnod oer, rydyn ni hefyd yn cael ein denu at gariad cynnes Jehofa. Er bod cariad Jehofa’n bwerus, mae hefyd yn dyner. Felly bydda’n awyddus i groesawu cariad cynnes Jehofa yn dy fywyd. A gad inni i gyd ymateb i’w gariad drwy ddweud: “Dw i wir yn caru’r ARGLWYDD.”—Salm 116:1.
SUT BYDDET TI’N ATEB?
Sut gall cariad Jehofa gael ei ddisgrifio?
Pam gelli di fod yn hyderus bod Jehofa’n dy garu di’n fawr iawn?
Sut mae cariad Jehofa’n gwneud iti deimlo?
CÂN 108 Cariad Ffyddlon Duw
a Newidiwyd rhai enwau.