LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Ebrill tt. 20-25
  • Dydyn Ni Byth ar Ein Pennau Ein Hunain

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Dydyn Ni Byth ar Ein Pennau Ein Hunain
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • MAE JEHOFA’N EIN HARWAIN
  • MAE JEHOFA’N GOFALU AM EIN HANGHENION
  • MAE JEHOFA’N EIN HAMDDIFFYN
  • MAE JEHOFA’N EIN CYSURO
  • MAE JEHOFA’N WASTAD YNO INNI
  • Cofia Mai Jehofa Yw’r “Duw Byw”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Mae Jehofa’n “Iacháu y Rhai Sydd Wedi Torri eu Calonnau”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Dod yn Hapusach Drwy Roi i Eraill
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Bydda’n Ostyngedig Pan Nad Wyt Ti’n Deall Rhywbeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Ebrill tt. 20-25

ERTHYGL ASTUDIO 17

CÂN 99 Miloedd ar Filoedd o Frodyr

Dydyn Ni Byth ar Ein Pennau Ein Hunain

“Dw i’n . . . dy helpu di.”—ESEI. 41:10.

PWRPAS

Pedair ffordd y mae Jehofa’n gofalu amdanon ni.

1-2. (a) Pam na allwn ni ddweud ein bod ni’n wynebu treialon ar ein pennau ein hunain? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

PAN ydyn ni’n wynebu treialon difrifol, gallwn ni deimlo fel ein bod ni ar ein pennau ein hunain mewn cwch bach ar fôr stormus. Ond, dydyn ni ddim yn wynebu ein treialon ar ein pennau ein hunain. Mae ein Duw cariadus yn gweld ein problemau ond hefyd yn addo i’n helpu ni trwyddyn nhw. Mae Jehofa yn annog ei weision ffyddlon drwy ddweud: “Dw i’n . . . dy helpu di.”—Esei. 41:10.

2 Bydd yr erthygl hon yn trafod sut mae Jehofa’n ein helpu ni (1) drwy ein harwain, (2) drwy ofalu am ein hanghenion, (3) drwy ein hamddiffyn, a (4) drwy ein cysuro. Ni waeth pa dreialon rydyn ni’n eu hwynebu, mae Jehofa yn ein sicrhau na fydd ef byth yn anghofio amdanon ni. Fydd ef byth yn cefnu arnon ni. Felly, fyddwn ni byth ar ein pennau ein hunain.

MAE JEHOFA’N EIN HARWAIN

3-4. Sut mae Jehofa’n ein harwain ni? (Salm 48:14)

3 Darllen Salm 48:14. Dydy Jehofa ddim yn disgwyl inni ein harwain ein hunain. Felly, sut mae ef yn arwain ei addolwyr ffyddlon heddiw? Un ffordd ydy trwy dudalennau’r Beibl. (Salm 119:105) Gan ddefnyddio ei Air ysbrydoledig, mae Jehofa’n ein helpu ni i wneud penderfyniadau ac i feithrin rhinweddau sy’n ein harwain ni at hapusrwydd nawr ac at fywyd tragwyddol yn y dyfodol.a Er enghraifft, mae Jehofa’n ein dysgu ni i beidio â dal dig, i fod yn onest ym mhob rhan o’n bywydau, ac i garu eraill o waelod ein calonnau. (Salm 37:8; Heb. 13:18; 1 Pedr 1:22) Rydyn ni’n gwella fel rhieni, fel gŵr neu wraig, ac fel ffrindiau wrth inni ddangos y rhinweddau duwiol hyn.

4 Hefyd, mae Jehofa wedi cynnwys yn ei Air hanes pobl a oedd yn teimlo fel ni ac yn wynebu treialon tebyg i’n rhai ni. (1 Cor. 10:13; Iago 5:17) Pan ydyn ni’n darllen am eu bywydau ac yn rhoi ar waith y gwersi rydyn ni’n eu dysgu, rydyn ni’n elwa mewn o leiaf dwy ffordd. Yn gyntaf, rydyn ni’n sylweddoli nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain—mae eraill wedi wynebu sefyllfaoedd tebyg yn llwyddiannus. (1 Pedr 5:9) Ac yn ail, rydyn ni’n dysgu sut i ymdopi â’n treialon.—Rhuf. 15:4.

5. Pwy mae Jehofa’n ei ddefnyddio i’n harwain ni?

5 Mae Jehofa hefyd wedi trefnu inni gael ein harwain gan gyd-addolwyr.b Er enghraifft, mae arolygwyr cylchdaith yn ymweld â’r cynulleidfaoedd yn aml er mwyn ein hannog ni. Mae eu hanerchiadau yn cryfhau ein ffydd ac yn ein helpu ni i aros yn unedig. (Act. 15:40–16:5) Mae henuriaid yn dangos diddordeb o’r galon i bob cyhoeddwr. (1 Pedr 5:​2, 3) Mae rhieni yn arwain eu plant yn ysbrydol drwy eu helpu nhw i wneud penderfyniadau doeth ac i feithrin arferion da. (Diar. 22:6) Ac mae chwiorydd aeddfed yn helpu chwiorydd ifanc drwy osod esiampl dda a thrwy roi anogaeth a chyngor ymarferol.—Titus 2:​3-5.

6. Beth mae’n rhaid inni ei wneud er mwyn elwa o arweiniad Jehofa?

6 Mae Jehofa wedi gwneud ei ran drwy roi’r arweiniad sydd ei angen arnon ni. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am yr hyn mae ef wedi ei wneud droston ni? Mae Diarhebion 3:​5, 6 yn dweud: “Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun.” Pan ydyn ni’n gwneud hynny, “bydd e’n dangos y ffordd iawn” inni. Hynny yw, bydd ef yn ein helpu ni i osgoi llawer o broblemau ac i fwynhau bywyd hapusach. Rydyn ni’n wir yn gwerthfawrogi’r cyngor cariadus mae Jehofa’n ei roi inni’n bersonol!—Salm 32:8.

MAE JEHOFA’N GOFALU AM EIN HANGHENION

7. Ym mha ffyrdd y mae Jehofa’n gofalu am ein hanghenion? (Philipiaid 4:19)

7 Darllen Philipiaid 4:19. Yn ogystal â’n harwain ni’n ysbrydol, mae Jehofa’n bendithio ein hymdrechion i gael pethau angenrheidiol fel bwyd, dillad, a rhywle i fyw. (Math. 6:33; 2 Thes. 3:12) Er bod poeni am ein hanghenion materol yn naturiol, mae Jehofa’n ein hannog ni i beidio â phryderu gormod am y pethau hyn. (Gweler y nodyn astudio ar Mathew 6:25.) Pam? Oherwydd ni fydd ein Tad byth yn cefnu ar ei addolwyr ffyddlon mewn angen. (Math. 6:8; Heb. 13:5) Pan mae’n dweud y bydd ef yn gofalu amdanon ni, gallwn ni ymddiried ynddo yn llwyr.

8. Sut gwnaeth Jehofa helpu Dafydd?

8 Ystyria’r ffordd gwnaeth Jehofa helpu Dafydd. Yn ystod y blynyddoedd anodd pan oedd Dafydd a’i ddynion yn ffoaduriaid, rhoddodd Jehofa iddyn nhw’r hyn roedd ei angen i oroesi. Wrth fyfyrio ar ofal Jehofa dros y blynyddoedd, ysgrifennodd Dafydd: “Roeddwn i’n ifanc ar un adeg, ond bellach dw i mewn oed. Dw i erioed wedi gweld rhywun sy’n byw yn iawn yn cael ei siomi gan Dduw, na’i blant yn gorfod chwilio am fwyd.” (Salm 37:25) Mae’n debygol dy fod ti hefyd wedi gweld gofal cariadus Jehofa am ei weision ffyddlon.

9. Sut mae Jehofa’n gofalu am ei bobl heddiw yn ystod trychinebau? (Gweler hefyd y lluniau.)

9 Mae Jehofa hefyd yn gofalu am ei bobl yn ystod trychinebau. Er enghraifft, pan oedd ’na newyn yn y ganrif gyntaf, gwnaeth Cristnogion o lefydd gwahanol anfon nwyddau i’r brodyr a’r chwiorydd mewn angen. (Act. 11:​27-30; Rhuf. 15:​25, 26) Mae pobl Dduw yn dangos yr un fath o haelioni heddiw. Pan mae trychineb yn taro, mae Jehofa yn symud ei bobl i ddarparu pethau angenrheidiol fel bwyd, dŵr, dillad, a meddyginiaeth. Mae timau adeiladu yn trwsio tai a Neuaddau’r Deyrnas sydd wedi cael eu difrodi. Ac mae gweision Jehofa’n glou i roi cefnogaeth emosiynol ac ysbrydol i’r rhai sydd wedi dioddef colled.c

Collage: Derbyn cefnogaeth materol ac ysbrydol ar ôl trychineb naturiol ym Malawi. 1. Llifogydd yn gorchuddio ardal mawr. 2. Y brawd Gage Fleegle yn siarad â brodyr a chwiorydd. 3. Brodyr yn cymryd bagiau o fwyd allan o gerbyd.

Sut mae Jehofa’n ein cysuro ni yn ystod trychinebau? (Gweler paragraff 9)e


10-11. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad Borys?

10 Mae Jehofa hefyd yn hael tuag at y rhai sydd ddim eto’n ei addoli. Mewn ffordd debyg, rydyn ni’n edrych am gyfleoedd i fod yn garedig at y rhai sydd ddim yn rhannu ein ffydd. (Gal. 6:10) Yn aml, mae gwneud hyn yn rhoi tystiolaeth dda. Ystyria brofiad Borys, prifathro sy’n byw yn Wcráin. Dydy Borys ddim yn un o Dystion Jehofa, ond mae’n wastad wedi bod yn garedig i’w ddisgyblion sy’n Dystion ac wedi dangos parch at eu daliadau. Pan benderfynodd Borys ffoi o’i gartref rhag y rhyfel a mynd i rywle saffach yn y wlad, gwnaeth ein brodyr ei helpu. Yn hwyrach ymlaen, gwnaeth Borys fynychu’r Goffadwriaeth. Wrth fyfyrio ar ei brofiad, fe ddywedodd: “Roedd y Tystion yn wir yn gofalu amdana i ac roedden nhw’n garedig iawn ata i. Rydw i mor ddiolchgar i Dystion Jehofa.”

11 Gallwn ni i gyd efelychu ein Tad nefol trugarog trwy ddangos cariad at y rhai mewn angen, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n rhannu ein ffydd. (Luc 6:​31, 36) Rydyn ni’n gobeithio bydd ein cariad at bobl yn eu hysgogi nhw i ddod yn ddisgyblion i Grist. (1 Pedr 2:12) Ond ni waeth beth ydy’r canlyniadau, byddwn ni’n mwynhau’r hapusrwydd sy’n dod o roi.—Act. 20:35.

MAE JEHOFA’N EIN HAMDDIFFYN

12. Sut mae Jehofa’n addo i amddiffyn ei bobl fel grŵp? (Salm 91:​1, 2, 14)

12 Darllen Salm 91:​1, 2, 14. Heddiw, mae Jehofa’n addo ein hamddiffyn ni’n ysbrydol. Fydd ef byth yn gadael i Satan lygru gwir addoliad. (Ioan 17:15) A phan mae’r “trychineb mawr” yn taro, gallwn ni fod yn hollol hyderus bydd Jehofa’n cyflawni ei addewid i amddiffyn ei bobl, nid yn unig yn ysbrydol, ond hefyd yn gorfforol.—Dat. 7:​9, 14.

13. Ym mha ffyrdd y mae Jehofa’n ein hamddiffyn ni fel unigolion?

13 Sut mae Jehofa’n ein hamddiffyn ni fel unigolion? Trwy’r Ysgrythurau, mae Jehofa’n ein helpu ni i wahaniaethu rhwng da a drwg. (Heb. 5:14) Pan ydyn ni’n byw yn ôl yr egwyddorion sydd yng Ngair Duw, rydyn ni’n gwarchod ein hunain rhag niwed ysbrydol a chorfforol. (Salm 91:4) Hefyd, mae Jehofa’n defnyddio’r gynulleidfa i’n hamddiffyn ni. (Esei. 32:​1, 2) Drwy amgylchynu ein hunain â phobl sy’n caru Jehofa ac sy’n byw yn ôl ei egwyddorion, rydyn ni’n cael ein calonogi a’n cryfhau i wrthod dylanwadau niweidiol.—Diar. 13:20.

14. (a) Pam nad ydy Jehofa yn ein hamddiffyn ni rhag bob treial? (b) Beth mae Salm 9:10 yn cadarnhau? (Gweler hefyd y troednodyn.)

14 Ar adegau yn y gorffennol, mae Jehofa wedi amddiffyn ei addolwyr rhag niwed corfforol. Ond, ni wnaeth ef wneud hynny ym mhob achos. Weithiau gall “damweiniau,” neu broblemau annisgwyl, ddigwydd inni i gyd. (Preg. 9:11) Hefyd, trwy gydol hanes, mae Jehofa wedi caniatáu i’w weision wynebu erledigaeth a hyd yn oed marwolaeth er mwyn profi bod Satan yn gelwyddog. (Job 2:​4-6; Math. 23:34) Mae’r un peth yn wir heddiw. Er nad ydy Jehofa’n cael gwared ar ein treialon, gallwn ni fod yn siŵr na fydd ef byth yn cefnu ar y rhai sy’n ei garu.d—Salm 9:10.

MAE JEHOFA’N EIN CYSURO

15. Sut rydyn ni’n cael ein cysuro gan weddi, Gair Duw, a’n cyd-Gristnogion? (2 Corinthiaid 1:​3, 4)

15 Darllen 2 Corinthiaid 1:​3, 4. Ar adegau, rydyn ni’n profi galar, pryder, neu ofid. Efallai rwyt ti’n wynebu sefyllfa anodd iawn nawr sy’n gwneud iti deimlo dy fod ti ar dy ben dy hun. A ydy unrhyw un yn deall sut rwyt ti’n teimlo? Mae Jehofa’n deall. Mae’n teimlo ein poen, ond hefyd yn “ein cysuro ni yn ein holl dreialon.” Sut? Pan ydyn ni’n erfyn ar Jehofa mewn gweddi, mae’n rhoi inni “heddwch Duw sydd y tu hwnt i bob deall.” (Phil. 4:​6, 7) Rydyn ni hefyd yn dod o hyd i gysur pan ydyn ni’n darllen geiriau Jehofa yn y Beibl. Trwy’r trysor hwnnw, mae Jehofa’n dweud wrthon ni faint mae’n ein caru ni, mae’n ein dysgu ni sut i fod yn ddoeth, ac mae’n rhoi gobaith inni. Gall y rhain i gyd godi ein calonnau. Ac mae cyfarfodydd Cristnogol yn rhoi cysur inni drwy ein brodyr a’n chwiorydd cariadus ac anogaeth o’r Beibl.

16. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad Nathan a Priscilla?

16 I egluro sut mae Jehofa’n rhoi cysur ac anogaeth trwy ei Air, ystyria brofiad Nathan a Priscilla, sy’n byw yn yr Unol Daleithiau. Rhai blynyddoedd yn ôl, symudon nhw i ardal lle roedd ’na fwy o angen am gyhoeddwyr y Deyrnas. Mae Nathan yn dweud: “Roedden ni’n trystio byddai Jehofa’n bendithio ein hymdrechion.” Ond ar ôl cyrraedd eu haseiniad newydd, fe wynebon nhw broblemau iechyd annisgwyl a phroblemau ariannol. Mewn amser roedd rhaid iddyn nhw fynd yn ôl adref lle gwnaethon nhw barhau i stryglo’n ariannol. Dywedodd Nathan: “Roeddwn i’n cwestiynu pam nad oedd Jehofa wedi ein bendithio ni yn y ffordd roedden ni’n disgwyl. Fe wnes i hyd yn oed ddechrau poeni fy mod i wedi gwneud rhywbeth anghywir.” Ond mewn amser, sylweddolodd Nathan a Priscilla nad oedd Duw wedi cefnu arnyn nhw yn ystod eu hamser o angen. “Yn ystod yr amseroedd anodd hynny, roedd y Beibl fel ffrind doeth a oedd yn rhoi anogaeth ac arweiniad inni,” meddai Nathan. “Gwnaethon ni ganolbwyntio ar sut roedd Jehofa wedi ein helpu ni i ddyfalbarhau yn lle ar y treial ei hun. Gwnaeth hyn ein paratoi ni i wynebu treialon yn y dyfodol gyda ffydd.”

17. Sut gwnaeth chwaer o’r enw Helga gael ei chysuro? (Gweler hefyd y llun.)

17 Gall ein brodyr a’n chwiorydd roi cysur ychwanegol inni. Sut felly? Ystyria esiampl Helga, sy’n byw yn Hwngari. Am ddegawdau, roedd ganddi lawer o broblemau a oedd yn gwneud iddi deimlo’n anobeithiol ac yn ddiwerth. Ond wrth edrych yn ôl, gwelodd hi sut roedd Jehofa wedi ei chysuro hi drwy ddefnyddio’r gynulleidfa. Mae hi’n ysgrifennu: “Mae Jehofa’n wastad wedi fy helpu i pan oeddwn i wedi fy llethu gan waith, gan ofalu am fy mhlentyn sâl, a gan dreialon eraill. Does ’na’r un dydd wedi mynd heibio yn y 30 o flynyddoedd diwethaf lle nad ydy Ef wedi cadw ei addewid i fy nghysuro i. Yn aml, mae’n fy nghryfhau i drwy eiriau calonogol a charedig pobl eraill. Rydw i’n aml wedi derbyn negeseuon, cardiau, neu ganmoliaeth pan oeddwn i wir yn ei angen.”

Collage: Brawd hŷn yn cael ei gysuro. 1. Mae’n edrych ar luniau mae plant wedi eu darlunio iddo. 2. Mae brawd yn anfon neges destun iddo. 3. Mae cwpl yn dod â bag o fwyd a pitsa iddo. 4. Mae brawd yn ei ffonio. 5. Mae merch ifanc yn darlunio llun i roi iddo sy’n dangos llew yn y Baradwys.

Sut gall Jehofa dy ddefnyddio di i gysuro eraill? (Gweler paragraff 17)


18. Sut gallwn ni gysuro eraill?

18 Mae gynnon ni’r fraint o efelychu ein Duw drwy gysuro eraill. Sut gallwn ni wneud hynny? Drwy wrando arnyn nhw’n amyneddgar, siarad â nhw’n gysurlon, a’u helpu nhw mewn ffyrdd ymarferol. (Diar. 3:27) Rydyn ni’n ymdrechu i gysuro pawb sy’n dioddef, gan gynnwys y rhai sydd ddim eto’n gwasanaethu Duw. Pan mae ein cymdogion yn galaru, yn sâl, neu’n pryderu, rydyn ni’n ymweld â nhw, yn gwrando arnyn nhw, ac yn rhannu adnodau calonogol o’r Beibl â nhw. Wrth efelychu Jehofa, “Duw pob cysur,” gallwn ni helpu ein cyd-addolwyr i ddyfalbarhau eu treialon. Ond hefyd, gallwn ni feddalu calonnau’r rhai sydd ddim yn gwasanaethu Duw yn y gobaith byddan nhw’n dechrau dysgu amdano.—Math. 5:16.

MAE JEHOFA’N WASTAD YNO INNI

19. Beth mae Jehofa’n ei wneud ar ein cyfer ni, a sut gallwn ni ei efelychu?

19 Mae’r rhai sy’n caru Jehofa yn bwysig iawn iddo. Dydy ef byth yn cefnu arnon ni pan ydyn ni’n stryglo. Yn yr un ffordd ag y mae rhiant yn gofalu yn gariadus am blentyn, mae Jehofa’n gofalu am ei addolwyr ffyddlon. Mae’n ein harwain ni, yn gofalu amdanon ni, yn ein hamddiffyn ni, ac yn ein cysuro ni. Rydyn ni’n efelychu ein Tad nefol cariadus pan ydyn ni’n cefnogi a chalonogi eraill yn ystod eu treialon. Er ein bod ni i gyd yn wynebu treialon a phethau a all ein gadael ni’n dorcalonnus, gallwn ni fod yn siŵr bod Jehofa yno inni. Wedi’r cwbl, mae ef wedi addo: “Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti.” (Esei. 41:10) Mae hyn yn ein llenwi ni â hyder! Yn wir, dydyn ni byth ar ein pennau ein hunain.

YM MHA FFYRDD MAE JEHOFA YN . . .

  • ein harwain ni?

  • gofalu am ein hanghenion ni?

  • ein hamddiffyn a’n cysuro ni?

CÂN 100 Rhowch Groeso Iddynt i’ch Cartref

a Gweler yr erthygl “Gwna Benderfyniadau Sy’n Plesio Duw” yn rhifyn Ebrill 15, 2011, o’r Tŵr Gwylio.

b Gweler paragraffau 11-14 yn yr erthygl “Parha i Ddilyn Arweiniad Jehofa” yn rhifyn Chwefror 2024 o’r Tŵr Gwylio.

c Gelli di ddod o hyd i esiamplau diweddar ar jw.org drwy deipio “cymorth ar ôl trychinebau” yn y blwch chwilio.

d Gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn rhifyn Chwefror 2017 o’r Tŵr Gwylio.

e DISGRIFIAD O’R LLUN: Brodyr ym Malawi yn derbyn cefnogaeth faterol ac ysbrydol ar ôl trychineb naturiol.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu