AWGRYMIAD AR GYFER ASTUDIO
Dysga o’r Lluniau
Mae ein cyhoeddiadau yn cynnwys llawer o luniau sy’n dysgu gwersi pwysig inni. Sut gallwn ni elwa o’r deunydd gweledol hwn?
Edrycha ar y lluniau cyn darllen yr erthygl. Yn union fel mae gweld pryd o fwyd blasus yn gwneud iti edrych ymlaen i’w fwyta, gall gweld y lluniau ennyn dy ddiddordeb a dy ysgogi di i ddarllen yr erthygl. Felly gofynna i ti dy hun: ‘Beth rydw i’n ei weld?’—Amos 7:7, 8.
Wrth iti ddarllen, meddylia am y rheswm cafodd y llun ei ddewis. Darllena unrhyw gapsiynau neu ddisgrifiadau o’r lluniau. Meddylia am beth sy’n cysylltu’r llun â’r pwnc sy’n cael ei drafod yn yr erthygl a sut mae’n berthnasol i dy fywyd.
Ar ôl darllen yr erthygl, defnyddia’r lluniau i adolygu’r prif bwyntiau. Yna, gelli di gau dy lygaid a cheisio cofio’r lluniau a’r gwersi gwnest ti eu dysgu oddi wrthyn nhw.
Beth am edrych ar y lluniau yn y cylchgrawn hwn eto a gweld os wyt ti’n gallu cofio’r gwersi?