ERTHYGL ASTUDIO 23
CÂN 2 Jehofa Yw Dy Enw
Enw Jehofa—Beth Mae’n Ei Olygu i Ni
“‘Chi ydy fy nhystion i,’—meddai’r ARGLWYDD.”—ESEI. 43:10.
PWRPAS
I ddangos sut gallwn ni gael rhan yn sancteiddio ac yn amddiffyn enw Jehofa.
1-2. Sut rydyn ni’n gwybod bod enw Jehofa’n bwysig i Iesu?
ENW Jehofa ydy’r peth pwysicaf i Iesu, a does neb arall erioed wedi gwneud cymaint ag ef i hysbysebu enw ei Dad. Fel gwnaethon ni drafod yn yr erthygl flaenorol, roedd Iesu’n barod i farw dros enw Jehofa a phopeth mae’n ei gynrychioli. (Marc 14:36; Heb. 10:7-9) Ar ddiwedd ei Deyrnasiad Mil Blynyddoedd, bydd Iesu’n barod i roi ei holl awdurdod yn ôl i Jehofa er mwyn sancteiddio enw ei Dad. (1 Cor. 15:26-28) Mae cariad Iesu tuag at enw Duw hefyd yn datgelu llawer am ei berthynas â Jehofa ac yn profi ei fod yn caru ei Dad yn fawr iawn.
2 Daeth Iesu i’r ddaear yn enw ei Dad ac fe roddodd gwybod i’w ddilynwyr am yr enw hwnnw. (Ioan 5:43; 12:13; 17:6, 26) Wrth iddo ddysgu pobl a gwneud gwyrthiau, esboniodd yn glir fod Jehofa wedi rhoi iddo’r nerth a’r doethineb i wneud hynny. (Ioan 10:25) Ar ben hynny, pan weddïodd Iesu ar Jehofa am ei ddisgyblion, gofynnodd iddo: “Gwylia drostyn nhw o achos dy enw dy hun.” (Ioan 17:11) Yn amlwg, roedd Iesu’n teimlo’n gryf iawn am enw ei Dad. Felly, sut gall rhywun honni ei fod yn un o ddilynwyr Crist os nad ydy ef yn gwybod neu’n defnyddio enw Jehofa?
3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
3 Fel Cristnogion sy’n ceisio dilyn esiampl Iesu, rydyn ni’n trysori enw ei Dad. (1 Pedr 2:21) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld pam mae Jehofa wedi rhoi ei enw ar y rhai sy’n pregethu’r ‘newyddion da am y Deyrnas.’ (Math. 24:14) Byddwn ni hefyd yn trafod pa mor bwysig dylai enw Jehofa fod i bob un ohonon ni.
‘POBL I DDWYN EI ENW’
4. (a) Pa waith roddodd Iesu i’w ddisgyblion cyn iddo fynd yn ôl i’r nef? (b) Pa gwestiwn sy’n codi oherwydd y gwaith hwnnw?
4 Cyn iddo fynd yn ôl i’r nef, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Byddwch chi’n cael nerth pan fydd yr ysbryd glân yn dod arnoch chi, a byddwch chi’n dystion i mi yn Jerwsalem, yn holl Jwdea a Samaria, ac i ben draw’r byd.” (Act. 1:8) Felly, byddai’r newyddion da yn cael ei bregethu ym mhobman, nid yn Israel yn unig. Ac yn y pen draw, byddai pobl o’r holl genhedloedd yn cael y cyfle i ddod yn ddilynwyr i Iesu. (Math. 28:19, 20) Ond, dywedodd Iesu: “Byddwch chi’n dystion i mi.” A oedd rhaid i’r disgyblion newydd hynny wybod enw Jehofa, neu a oedden nhw’n mynd i dystiolaethu am Iesu’n unig? Mae’r digwyddiadau yn Actau pennod 15 yn ein helpu ni i ateb y cwestiwn hwnnw.
5. Sut dangosodd yr apostolion a’r henuriaid yn Jerwsalem bod rhaid i bawb wybod am enw Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)
5 Ym 49 OG, daeth yr apostolion a’r henuriaid at ei gilydd yn Jerwsalem i drafod a oedd rhaid i bobl y cenhedloedd gael eu henwaedu er mwyn cael eu derbyn fel Cristnogion. Ar ddiwedd y drafodaeth, dywedodd Iago, hanner brawd Iesu: “Mae [Pedr] wedi sôn yn fanwl am sut gwnaeth Duw droi ei sylw at y cenhedloedd am y tro cyntaf i gymryd allan ohonyn nhw bobl i ddwyn ei enw.” Am ba enw roedd Iago yn sôn amdano? Wrth ddyfynnu’r proffwyd Amos, ychwanegodd: “Er mwyn i’r dynion sydd ar ôl geisio Jehofa o ddifri, ynghyd â phobl yr holl genhedloedd, pobl sy’n cael eu galw wrth fy enw i, meddai Jehofa.” (Act. 15:14-18) Byddai’r disgyblion newydd hyn nid yn unig yn dysgu am Jehofa ond hefyd yn ‘cael eu galw wrth ei enw.’ Mae hynny’n golygu bydden nhw’n dysgu pobl eraill am enw Duw ac yn cael eu hadnabod fel rhai sy’n cynrychioli’r enw hwnnw.
Yn ystod cyfarfod y corff llywodraethol yn y ganrif gyntaf, gwnaeth y dynion ffyddlon hynny weld yn glir bod rhaid i Gristnogion fod yn bobl i ddwyn enw Duw (Gweler paragraff 5)
6-7. (a) Pam daeth Iesu i’r ddaear? (b) Beth oedd y rheswm pwysicach dros wneud hynny?
6 Mae enw Iesu’n golygu “Jehofa Yw Achubiaeth,” a gwnaeth Jehofa ddefnyddio Iesu i achub pawb sydd â ffydd ynddo ef a’i Fab. Daeth Iesu i’r ddaear i farw dros ddynolryw. (Math. 20:28) Drwy dalu’r pris hwnnw, fe wnaeth agor y ffordd i ddynolryw gael eu hachub a chael bywyd tragwyddol.—Ioan 3:16.
7 Ond pam roedd rhaid i bobl gael eu hachub yn y lle cyntaf? Oherwydd yr hyn a ddigwyddodd yng ngardd Eden. Fel gwnaethon ni drafod yn yr erthygl flaenorol, gwnaeth rhieni cyntaf dynolryw, Adda ac Efa, wrthryfela yn erbyn Jehofa a cholli’r cyfle i fyw am byth. (Gen. 3:6, 24) Ond roedd ’na rywbeth pwysicach yn y fantol nag achubiaeth disgynyddion Adda ac Efa. Roedd enw Jehofa wedi cael ei enllibio. (Gen. 3:4, 5) Felly, roedd eu hachubiaeth yn gysylltiedig â rhywbeth mwy, sef enw Jehofa’n cael ei sancteiddio. Iesu oedd y person gorau i wneud hyn am ei fod yn cynrychioli Jehofa ac yn dwyn Ei enw.
Sut gall rhywun honni ei fod yn un o ddilynwyr Crist os nad ydy ef yn gwybod neu’n defnyddio enw Jehofa?
8. Beth byddai’n rhaid i bob un o ddilynwyr Iesu ei gydnabod?
8 Byddai’n rhaid i bob un o ddilynwyr Iesu, ni waeth os oedden nhw’n Iddew neu ddim, gydnabod mai Tad Iesu, Jehofa Dduw, oedd ffynhonnell eu hachubiaeth. (Ioan 17:3) Ar ben hynny, fel Iesu, bydden nhw’n cael eu galw wrth enw Jehofa. Byddai eu hachubiaeth yn dibynnu ar gydnabod y pwysigrwydd o sancteiddio’r enw hwnnw. (Act. 2:21, 22) Felly, byddai’n rhaid i bob un o ddilynwyr ffyddlon Iesu ddysgu am Jehofa yn ogystal ag am Iesu. Does dim syndod bod Iesu wedi gorffen ei weddi yn Ioan 17 gyda’r geiriau hyn: “Rydw i wedi rhoi gwybod iddyn nhw am dy enw di ac fe fydda i’n parhau i wneud hynny, er mwyn iddyn nhw ddangos cariad tuag at bobl eraill fel rwyt ti wedi dangos cariad tuag ata i, ac er mwyn imi fod mewn undod â nhw.”—Ioan 17:26.
“CHI YDY FY NHYSTION I”
9. Sut gallwn ni ddangos bod enw Jehofa’n bwysig inni?
9 Mae’n glir bod rhaid inni helpu i sancteiddio enw Jehofa er mwyn bod yn un o ddilynwyr Iesu. (Math. 6:9, 10) Mae’n rhaid inni ystyried enw Jehofa yn uwch na phob un arall. Mae hynny’n gofyn am inni weithredu. Ond sut gallwn ni helpu i sancteiddio enw Jehofa a phrofi bod Satan wedi dweud celwyddau amdano?
10. Pa achos llys ffigurol sy’n cael ei ddisgrifio yn Eseia 42 i 44? (Eseia 43:9; 44:7-9) (Gweler hefyd y llun.)
10 Mae Eseia penodau 42 i 44 yn disgrifio achos llys ffigurol sydd yn ein helpu ni i wybod sut gallwn ni sancteiddio enw Jehofa. Yn y penodau hyn mae Jehofa’n gofyn i bawb sydd ddim yn ei addoli brofi a ydy eu duwiau yn wir yn bodoli. Fel yn achos llys, mae’n galw am unrhyw dystion a all brofi hyn, ond does neb yn gallu!—Darllen Eseia 43:9; 44:7-9.
Mewn llawer o ffyrdd, rydyn ni’n cael ein cynnwys mewn achos llys ffigurol (Gweler paragraffau 10-11)
11. Beth mae Jehofa’n ei ddweud wrth ei bobl yn Eseia 43:10-12?
11 Darllen Eseia 43:10-12. Mae Jehofa’n dweud wrth ei bobl: “Chi ydy fy nhystion i . . . Fi ydy’r unig Dduw.” Mae Jehofa’n gofyn iddyn nhw ateb y cwestiwn hwn: “Oes yna unrhyw dduw arall ar wahân i mi?” (Esei. 44:8) Mae gynnon ni, felly, y fraint o ateb y cwestiwn hwnnw. Drwy ein geiriau a’n gweithredoedd, rydyn ni’n profi mai Jehofa ydy’r unig wir Dduw. Mae ei enw yn uwch na phob enw arall. Mae’r ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau yn profi ein bod ni’n ffyddlon i Jehofa ac yn wir yn ei garu—ni waeth pa bwysau mae Satan yn ei roi arnon ni. Drwy wneud hyn, mae gynnon ni gyfle i sancteiddio enw Jehofa.
12. Sut cafodd y broffwydoliaeth yn Eseia 40:3, 5 ei chyflawni?
12 Pan ydyn ni’n cefnogi enw da Jehofa, rydyn ni’n efelychu Iesu Grist. Rhagfynegodd Eseia y byddai rhywun yn dod ac yn ‘clirio,’ neu’n paratoi, “y ffordd i’r ARGLWYDD.” (Esei. 40:3) Sut cafodd hynny ei gyflawni? Gwnaeth Ioan Fedyddiwr baratoi’r ffordd ar gyfer Iesu, yr un a ddaeth yn enw Jehofa a siarad yn Ei enw. (Math. 3:3; Marc 1:2-4; Luc 3:3-6) Dywedodd yr un broffwydoliaeth: “Bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dod i’r golwg.” (Esei. 40:5) Ym mha ffordd? Pan ddaeth Iesu i’r ddaear, fe gynrychiolodd Jehofa’n berffaith ac felly roedd fel petai Jehofa ei hun wedi dod i’r ddaear.—Ioan 12:45.
13. Sut gallwn ni efelychu Iesu?
13 Fel Iesu, rydyn ni’n dystion i Jehofa. Rydyn ni’n dwyn enw Jehofa ac yn dweud wrth bawb am ei weithredoedd rhyfeddol. Mae’n rhaid inni gyhoeddi popeth a wnaeth Iesu i sancteiddio enw Jehofa. (Act. 1:8) Does neb arall wedi gwneud mwy na Iesu fel Tyst i Jehofa, ac rydyn ni’n dilyn ei esiampl. (Dat. 1:5) Ond beth dylai enw Jehofa ei olygu i bob un ohonon ni?
BETH MAE ENW JEHOFA’N EI OLYGU I NI
14. Yn unol â Salm 105:3, sut rydyn ni’n teimlo am enw Jehofa?
14 Rydyn ni’n falch o enw Jehofa. (Darllen Salm 105:3.) Rydyn ni’n plesio Jehofa’n fawr iawn pan ydyn ni’n brolio am ei enw. (Jer. 9:23, 24; 1 Cor. 1:31; 2 Cor. 10:17) Mae ‘brolio am Jehofa’ yn golygu ein bod ni’n falch mai Jehofa yw ein Duw. Mae’n fraint inni anrhydeddu a chefnogi ei enw da. Ddylen ni byth deimlo cywilydd dros ddweud wrth ein cyd-weithwyr, ein cyd-ddisgyblion, ein cymdogion, ac eraill ein bod ni’n Dystion Jehofa! Mae’r Diafol eisiau inni stopio dweud wrth bobl am enw Jehofa. (Jer. 11:21; Dat. 12:17) Mewn gwirionedd, mae Satan a’i gau broffwydi eisiau gwneud i bobl anghofio enw Jehofa. (Jer. 23:26, 27) Ond, mae ein cariad at enw Jehofa yn gwneud inni ‘lawenhau drwy’r dydd.’—Salm 5:11; 89:16.
15. Beth mae’n ei olygu i alw ar enw Jehofa?
15 Rydyn ni’n parhau i alw ar enw Jehofa. (Joel 2:32; Rhuf. 10:13, 14) Mae galw ar enw Jehofa’n cynnwys mwy na gwybod a defnyddio enw personol Duw yn unig. Rydyn ni’n dod i adnabod Duw, i ymddiried ynddo, ac i droi ato am help ac arweiniad. (Salm 20:7; 99:6; 116:4; 145:18) Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi ei enw a’i rinweddau i eraill, gan eu hannog nhw i edifarhau ac i weithredu fel eu bod nhw’n gallu plesio Jehofa.—Esei. 12:4; Act. 2:21, 38.
16. Sut gallwn ni brofi bod Satan yn gelwyddog?
16 Rydyn ni’n barod i ddioddef er mwyn anrhydeddu enw Jehofa. (Iago 5:10, 11) Pan ydyn ni’n aros yn ffyddlon i Jehofa yn wyneb dioddefaint, rydyn ni’n profi bod Satan yn gelwyddog. Yn nyddiau Job, fe wnaeth Satan gyhuddo’r rhai sy’n gwasanaethu Jehofa: “Mae pobl yn fodlon colli popeth i achub eu bywydau!” (Job 2:4) Fe wnaeth Satan honni byddai pobl ond yn gwasanaethu Jehofa pan fyddai hi’n hawdd gwneud hynny a bydden nhw’n cefnu ar Jehofa wrth wynebu anawsterau. Profodd y dyn ffyddlon Job nad oedd hynny’n wir o gwbl. Mae gynnon ninnau hefyd y fraint o brofi na fyddwn ni byth yn cefnu ar Jehofa, ni waeth beth mae Satan yn ei wneud. Gallwn ni fod yn hollol hyderus bydd Jehofa’n gwylio droston ni oherwydd ei enw.—Ioan 17:11.
17. Yn ôl 1 Pedr 2:12, ym mha ffordd arall gallwn ni anrhydeddu enw Jehofa?
17 Rydyn ni’n dangos parch at enw Jehofa. (Diar. 30:9; Jer. 7:8-11) Oherwydd ein bod ni’n cynrychioli Jehofa ac yn dwyn ei enw, gallwn ni naill ai ddod â chlod i’w enw neu ei amharchu. (Darllen 1 Pedr 2:12.) Felly, rydyn ni eisiau gwneud popeth yn ein gallu i ddod â chlod i Jehofa ym mhob gair a gweithred. Er nad ydyn ni’n berffaith, drwy wneud hyn, byddwn ni’n anrhydeddu ei enw.
18. Ym mha ffordd arall gallwn ni brofi bod enw Jehofa’n bwysig inni? (Gweler hefyd y troednodyn.)
18 Mae enw Jehofa’n fwy pwysig inni na’n henw da ein hunain. (Salm 138:2) Pam mae hyn mor bwysig? Oherwydd gall pobl eraill edrych i lawr arnon ni o achos ein cariad at Jehofa.a Pan fu farw Iesu, roedd pobl yn ei drin fel troseddwr ac yn ei gasáu. Ond, roedd yn barod i farw fel hyn er mwyn i enw Jehofa gael ei anrhydeddu. Fe wnaeth hynny “heb deimlo cywilydd,” hynny yw, nad oedd yn poeni gormod am beth roedd eraill yn ei feddwl amdano. (Heb. 12:2-4) Gwneud ewyllys Duw oedd y peth pwysicaf iddo.—Math. 26:39.
19. Sut rwyt ti’n teimlo am enw Jehofa, a pham?
19 Rydyn ni’n prowd iawn o wasanaethu Jehofa ac yn teimlo ei bod hi’n fraint i gael ein galw’n Dystion Jehofa. Oherwydd hynny, rydyn ni’n fodlon wynebu unrhyw gyhuddiad. Mae enw Jehofa’n fwy pwysig inni na hyd yn oed ein henw da ein hunain. Felly, gad inni fod yn benderfynol o barhau i foli enw Jehofa ni waeth beth mae Satan yn ceisio ei wneud i’n stopio ni. Drwy wneud hynny, byddwn ni’n profi mai enw Jehofa yw’r peth pwysicaf inni, yn union fel y mae i Iesu Grist.
CÂN 10 Clodfori Ein Duw Jehofa!
a Gwnaeth hyd yn oed y dyn ffyddlon Job ddechrau poeni gormod am sut roedd eraill yn ei ystyried ar ôl i’w enw da gael ei bardduo gan dri o’i ffrindiau. I gychwyn, ar ôl colli ei blant a’i holl eiddo, “wnaeth Job ddim pechu na rhoi’r bai ar Dduw.” (Job 1:22; 2:10) Ond, pan gafodd ei gyhuddo o wneud rhywbeth anghywir, fe ddechreuodd “siarad yn fyrbwyll.” Fe roddodd flaenoriaeth i amddiffyn ei enw da ei hun yn lle sancteiddio enw da Duw.—Job 6:3; 13:4, 5; 32:2; 34:5.