ERTHYGL ASTUDIO 29
CÂN 87 Dere! Cei Di Dy Adfywio!
Sut i Roi Cyngor
“Gadewch i mi roi cyngor i chi, wyneb yn wyneb.”—SALM 32:8.
PWRPAS
Sut i roi cyngor effeithiol.
1. Pwy sy’n rhaid rhoi cyngor? Esbonia.
SUT rwyt ti’n teimlo am roi cyngor? Mae rhai yn hapus i wneud, ond i eraill mae’n anoddach ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n anghyfforddus. Sut bynnag rydyn ni’n teimlo, mae’n rhaid i bob un ohonon ni roi cyngor o bryd i’w gilydd. Pam? Oherwydd dywedodd Iesu byddai ei wir ddilynwyr yn cael eu hadnabod wrth eu cariad tuag at ei gilydd. (Ioan 13:35) Ac un ffordd rydyn ni’n dangos ein cariad ydy trwy roi cyngor i’n brodyr a’n chwiorydd pan mae’r angen yn codi. Mae Gair Duw yn dweud bod “cyngor ffrind yn gwneud bywyd yn felys.”—Diar. 27:9.
2. Beth mae’n rhaid i henuriaid ei wneud, a pham? (Gweler hefyd y blwch “Rhoi Cyngor yn y Cyfarfod Canol Wythnos.”)
2 Mae’n rhaid i henuriaid yn enwedig roi cyngor effeithiol. Mae Jehofa ac Iesu wedi aseinio’r dynion hyn i fugeilio’r gynulleidfa. (1 Pedr 5:2, 3) Un ffordd maen nhw’n gwneud hynny ydy trwy roi cyngor o’r Beibl yn eu hanerchiadau yn y gynulleidfa. Mae’n rhaid iddyn nhw hefyd roi cyngor i’r defaid unigol, gan gynnwys y rhai sydd wedi crwydro o’r praidd. Sut gall yr henuriaid, a ninnau hefyd, roi cyngor da?
3. (a) Sut gallwn ni ddysgu i fod yn gynghorwyr da? (Eseia 9:6; gweler hefyd y blwch “Efelycha Iesu Wrth Roi Cyngor.”) (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
3 Gallwn ni ddysgu llawer am roi cyngor da drwy astudio esiamplau o’r Beibl, yn enwedig esiampl Iesu. Un o’r teitlau sydd wedi cael ei roi iddo ydy “Cynghorwr rhyfeddol.” (Darllen Eseia 9:6, BCND.) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod beth gallwn ni ei wneud pan mae rhywun yn gofyn am gyngor a beth gallwn ni ei wneud pan mae’n rhaid inni roi cyngor heb i’r person ofyn amdano. Byddwn ni hefyd yn trafod y pwysigrwydd o roi cyngor ar yr amser iawn ac yn y ffordd iawn.
PAN MAE RHYWUN YN GOFYN AM GYNGOR
4-5. Pan mae rhywun yn gofyn am gyngor, pa gwestiwn dylen ni ei ofyn i ni’n hunain? Rho esiampl.
4 Pan mae rhywun yn gofyn am gyngor, sut dylen ni ymateb? Efallai byddwn ni’n hapus ei fod yn ein trystio ni, ac rydyn ni’n awyddus i’w helpu. Ond yn gyntaf, dylen ni ofyn i ni’n hunain, ‘A ydw i’n wir yn gymwys i roi cyngor ar y mater hwn?’ Weithiau, y peth gorau gallwn ni ei wneud i’w helpu ydy ei arwain at rywun sy’n gymwys i roi cyngor ar y pwnc.
5 Er enghraifft, dychmyga fod ffrind agos wedi mynd yn sâl iawn. Mae’n dweud ei fod wedi gwneud ymchwil ar driniaethau gwahanol sydd ar gael, ac wedyn mae’n gofyn iti beth rwyt ti’n meddwl ydy’r driniaeth orau iddo. Efallai fod gen ti deimladau cryf ar y mater, ond dwyt ti ddim yn ddoctor a dwyt ti ddim wedi cael dy hyfforddi i ddelio â’r salwch. Yn yr achos hwnnw, y peth gorau gelli di ei wneud ar gyfer dy ffrind ydy ei helpu i ffeindio rhywun sy’n gymwys i’w helpu.
6. Pam efallai byddwn ni’n dewis aros am gyfnod cyn rhoi cyngor?
6 Hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo ein bod ni’n gymwys i roi cyngor ar bwnc penodol, efallai byddwn ni’n dewis aros am gyfnod byr cyn rhoi ateb i’r person sydd wedi gofyn am y cyngor. Pam? Mae Diarhebion 15:28 yn dweud bod “person cyfiawn yn meddwl cyn ateb.” Beth os ydyn ni’n meddwl ein bod ni’n gwybod yr ateb? Efallai byddwn ni’n dal yn cymryd amser i wneud ymchwil, i weddïo, ac i fyfyrio. Yna, gallwn ni fod yn fwy hyderus bod ein hateb yn cyd-fynd â theimladau Jehofa. Ystyria esiampl y proffwyd Nathan.
7. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad y proffwyd Nathan?
7 Dywedodd y Brenin Dafydd wrth y proffwyd Nathan ei fod eisiau adeiladu teml i Jehofa. Yn syth, gwnaeth Nathan ei annog i wneud hynny. Ond, dylai Nathan fod wedi cymryd amser i siarad â Jehofa yn gyntaf. Pam? Oherwydd doedd Jehofa ddim eisiau i Dafydd adeiladu’r deml. (1 Cron. 17:1-4) Fel mae’r esiampl hon yn dangos, pan mae rhywun yn gofyn am gyngor, mae’n beth doeth inni fod yn “araf i siarad.”—Iago 1:19.
8. Pa reswm arall sydd gynnon ni dros fod yn ofalus wrth roi cyngor?
8 Ystyria reswm arall pam dylen ni fod yn ofalus wrth roi cyngor. Petai’r cyngor rydyn ni’n ei roi yn achosi i rywun wneud penderfyniad sy’n arwain at ganlyniadau drwg, gallen ni rannu’r bai ag ef. Yn sicr, mae gynnon ni resymau da dros feddwl yn ofalus cyn rhoi cyngor.
RHOI CYNGOR HEB I’R PERSON OFYN AMDANO
9. Cyn rhoi cyngor, o beth dylai henuriaid fod yn siŵr? (Galatiaid 6:1)
9 O bryd i’w gilydd, mae’n rhaid i henuriaid roi cyngor i frawd neu chwaer sydd wedi cymryd “cam gwag.” (Darllen Galatiaid 6:1.) Mae nodyn astudio ar yr adnod hon yn dweud bod person o’r fath “wedi dechrau ar hyd llwybr anghywir, er efallai nad ydy ef wedi pechu’n ddifrifol eto.” Nod yr henuriaid yw helpu’r person i aros ar y llwybr sy’n arwain i fywyd tragwyddol. (Iago 5:19, 20) Ond, er mwyn i’w cyngor fod yn effeithiol, mae’n rhaid iddyn nhw yn gyntaf wneud yn siŵr bod y person yn wir wedi cymryd cam gwag. Gall pawb wneud penderfyniadau gwahanol ar sail eu cydwybod, ac mae hynny’n hollol dderbyniol i Jehofa. (Rhuf. 14:1-4) Ond os ydy’r henuriaid yn sylweddoli bod rhywun wedi cymryd cam gwag, sut gallan nhw roi cyngor iddo?
10-12. Wrth roi cyngor i rywun sydd heb ofyn amdano, beth dylai henuriaid ei wneud? Eglura. (Gweler hefyd y lluniau.)
10 Dydy hi ddim yn hawdd i henuriaid roi cyngor i rywun sydd heb ofyn amdano. Pam felly? Dywedodd yr apostol Paul gall person gymryd cam gwag cyn iddo fod yn ymwybodol o’r peth. Felly yn gyntaf, dylai’r henuriaid feddalu’r person i dderbyn y cyngor.
11 Gall rhoi cyngor i rywun heb iddyn nhw ofyn amdano fod fel ceisio tyfu planhigyn mewn pridd caled. Cyn i ffermwr ddechrau hau, mae’n trin y pridd. Mae hyn yn gwneud y tir yn feddal ac yn ei baratoi i dderbyn yr hedyn. Wedyn, mae’n plannu’r hedyn. Yn olaf, mae’n dyfrio’r hedyn i’w helpu i dyfu. Mewn ffordd debyg, mae ’na rai pethau gall henuriaid eu gwneud er mwyn paratoi rhywun i dderbyn cyngor. Er enghraifft, ar amser priodol, gall henuriad ddweud wrth y person ei fod yn ceisio’r gorau iddo. Os oes gan henuriad enw da am fod yn gariadus byddai’n haws i eraill dderbyn ei gyngor.
12 Yn ystod y sgwrs, gall yr henuriad barhau i feddalu’r tir drwy gydnabod bod rhaid i bawb gael cyngor o bryd i’w gilydd oherwydd ein bod ni i gyd yn gwneud camgymeriadau. (Rhuf. 3:23) Trwy siarad yn gynnes ac yn barchus â’r unigolyn, mae’r henuriad yn dangos yn glir o’r Ysgrythurau sut mae wedi cymryd cam gwag. Ar ôl iddo gydnabod ei fod wedi gwneud camgymeriad, mae’r henuriad yn “plannu’r hedyn” drwy esbonio iddo, mewn geiriau syml, beth mae’n rhaid iddo ei wneud er mwyn cywiro’r sefyllfa. Yn olaf, mae’r henuriad yn “dyfrio’r hedyn” drwy roi canmoliaeth ddiffuant a thrwy weddïo gydag ef.—Iago 5:15.
Mae rhoi cyngor heb i’r person ofyn amdano yn gofyn am gariad a sgìl (Gweler paragraffau 10-12)
13. Sut gall henuriaid wneud yn siŵr bod y person wedi deall y cyngor?
13 Weithiau, mae ’na wahaniaeth rhwng beth mae’r person sy’n rhoi cyngor yn ei ddweud a beth mae’r person sy’n derbyn y cyngor yn ei glywed. Sut gall henuriaid fod yn glir ac yn ddealladwy? Gallan nhw bwysleisio’r pwyntiau allweddol drwy ofyn cwestiynau gyda thact a pharch. (Preg. 12:11) Bydd yr atebion yn eu helpu nhw i wneud yn siŵr bod y person wedi deall y cyngor.
RHOI CYNGOR AR YR AMSER IAWN AC YN Y FFORDD IAWN
14. A ddylen ni roi cyngor pan ydyn ni’n grac? Esbonia.
14 Rydyn ni i gyd yn amherffaith, felly rydyn ni’n dweud ac yn gwneud pethau sy’n ypsetio eraill ar adegau. (Col. 3:13) Mae’r Beibl yn dweud byddwn ni’n gwylltio ein gilydd ar adegau. (Eff. 4:26) Ond, dylen ni fod yn ofalus i beidio â rhoi cyngor pan ydyn ni’n grac. Pam? “Oherwydd dydy dicter dyn ddim yn arwain i gyfiawnder Duw.” (Iago 1:20) Petasen ni’n rhoi cyngor pan ydyn ni’n grac, gallen ni wneud y sefyllfa’n waeth. Dydy hynny ddim yn golygu na ddylen ni fynegi ein meddyliau na’n teimladau i’r un sydd wedi ein hypsetio ni. Ond, gallwn ni gyfathrebu’n fwy effeithiol os ydyn ni’n aros nes bod ein hemosiynau wedi tawelu. Gallwn ni ddysgu o Elihu, a roddodd gyngor da i Job.
15. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl Elihu? (Gweler hefyd y llun.)
15 Am sawl diwrnod, gwrandawodd Elihu ar Job yn amddiffyn ei hun rhag cyhuddiadau ei ffrindiau gwael. Teimlodd Elihu dosturi dros Job, ond fe wnaeth wylltio oherwydd bod Job wedi dweud pethau a oedd yn anghywir am Jehofa a chanolbwyntio gormod ar ei hun. Er hynny, arhosodd Elihu am ei gyfle i siarad ac wedyn fe roddodd gyngor mewn ffordd dyner a gyda pharch dwfn. (Job 32:2; 33:1-7) Rydyn ni’n dysgu gwers bwysig o esiampl Elihu: Y ffordd orau i roi cyngor ydy ar yr amser iawn ac yn y ffordd iawn—gyda pharch a chariad.—Preg. 3:1, 7.
Er bod Elihu wedi gwylltio’n gynharach, fe roddodd gyngor mewn ffordd dyner a pharchus (Gweler paragraff 15)
PARHA I ROI AC I DDERBYN CYNGOR
16. Pa wers rwyt ti’n ei dysgu o Salm 32:8?
16 Mae prif adnod yr erthygl hon yn dweud bod Jehofa’n ‘rhoi cyngor i ni, wyneb yn wyneb.’ (Darllen Salm 32:8.) Mae hyn yn awgrymu ei fod yn parhau i ofalu amdanon ni drwy gadw llygad arnon ni. Mae’n addo rhoi cyngor inni, ond hefyd ein helpu ni i’w roi ar waith. Am esiampl dda inni! Pan mae gynnon ni’r fraint o roi cyngor i eraill, gallwn ni efelychu Jehofa drwy gadw golwg arnyn nhw a thrwy roi unrhyw gefnogaeth a allwn ni i’w helpu nhw i lwyddo.
17. Sut mae henuriaid yn gwneud inni deimlo pan maen nhw’n rhoi cyngor ar sail y Beibl? Esbonia. (Eseia 32:1, 2)
17 Yn fwy nag erioed, mae’n rhaid inni roi a derbyn cyngor da. (2 Tim. 3:1) Mae henuriaid sy’n rhoi cyngor penodol ar sail y Beibl “fel nentydd o ddŵr mewn tir sych.” (Darllen Eseia 32:1, 2.) Mae ffrindiau sy’n gwybod beth rydyn ni eisiau ei glywed ond sy’n dweud wrthon ni beth mae’n rhaid inni ei glywed yn rhoi anrheg inni sydd mor werthfawr â “gemwaith aur mewn tlws arian.” (Diar. 25:11) Gad inni i gyd barhau i ddatblygu’r doethineb sydd ei angen er mwyn rhoi a derbyn cyngor da.
CÂN 109 Carwch o Ddyfnder Calon