LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Medi tt. 20-25
  • Bydd y Rhai â’r “Agwedd Gywir” yn Ymateb

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Bydd y Rhai â’r “Agwedd Gywir” yn Ymateb
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • PAN FYDD POBL YN BAROD I YMATEB
  • PAN FYDDI DI’N DECHRAU ASTUDIAETH FEIBLAIDD
  • PAN FYDD RHAI NEWYDD YN DOD I’R CYFARFODYDD
  • Gwrandewch am yr Atebion i’r Cwestiynau Hyn
    Rhaglen Cynulliad y Gylchdaith Gydag Arolygwr y Gylchdaith 2025-2026
  • Penderfyniadau Sy’n Dangos Ein Bod Ni’n Dibynnu ar Jehofa
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Sut i Gael Mwy o Lawenydd yn y Weinidogaeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Bydda’n Ostyngedig Pan Nad Wyt Ti’n Deall Rhywbeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Medi tt. 20-25

ERTHYGL ASTUDIO 39

CÂN 54 “Dyma’r Ffordd”

Bydd y Rhai â’r “Agwedd Gywir” yn Ymateb

“Fe wnaeth yr holl rai a oedd â’r agwedd gywir ar gyfer cael bywyd tragwyddol ddod yn gredinwyr.”—ACT. 13:48.

PWRPAS

Pryd i gynnig astudiaethau Beiblaidd a gwahodd pobl i’n cyfarfodydd.

1. Sut mae rhai pobl yn ymateb i’r newyddion da? (Act. 13:​47, 48; 16:​14, 15)

GWNAETH llawer o bobl yn y ganrif gyntaf dderbyn y gwir yn fuan ar ôl iddyn nhw ei glywed. (Darllen Actau 13:​47, 48; 16:​14, 15.) Mae’r un peth yn digwydd heddiw, mae rhai wrth eu boddau yn clywed ein neges am y tro cyntaf. Gall hyd yn oed rhai sydd ddim yn dangos llawer o ddiddordeb ar y cychwyn agor eu calonnau i’r neges yn nes ymlaen. Beth dylen ni ei wneud pan fyddwn ni’n dod o hyd i’r rhai sydd â’r “agwedd gywir” yn ein gweinidogaeth?

2. Pam gallwn ni gymharu ein gwaith pregethu â gwaith garddwr?

2 Gallwn ni gymharu ein gwaith pregethu â gwaith garddwr. Os ydy ffrwyth un planhigyn yn barod, mae’n debyg bydd y garddwr yn ei gasglu, ond fe fydd yn dal ati i ddyfrio a gofalu am y planhigion eraill sydd ddim yn barod eto. Mewn ffordd debyg, pan ydyn ni’n dod o hyd i rywun sy’n barod i dderbyn ein neges, rydyn ni eisiau ei helpu i fod yn un o ddilynwyr Crist cyn gynted â phosib. Ond yn y cyfamser, rydyn ni’n dal ati i feithrin diddordeb pobl eraill sydd angen mwy o amser i werthfawrogi ein neges. (Ioan 4:​35, 36) Bydd deall ein gwrandawyr yn ein helpu ni i ddewis y ffordd orau i’w helpu. Gad inni ystyried beth gallwn ni ei wneud yn ystod y sgwrs gyntaf i helpu pobl sy’n barod i ymateb. Byddwn ni hefyd yn ystyried sut gallwn ni helpu’r rhai hynny i wneud cynnydd.

PAN FYDD POBL YN BAROD I YMATEB

3. Beth dylen ni ei wneud pan fydd rhywun yn dangos diddordeb? (1 Corinthiaid 9:26)

3 Pan fyddwn ni’n dod o hyd i rywun sy’n dangos diddordeb yn ein neges, rydyn ni eisiau ei helpu i ddysgu am Jehofa a dechrau nesáu ato ar unwaith. Mewn achosion o’r fath, ddylen ni ddim dal yn ôl rhag cynnig astudiaeth Feiblaidd a’i wahodd i’n cyfarfodydd yn ystod y sgwrs gyntaf.—Darllen 1 Corinthiaid 9:26.

4. Adrodda hanes rhywun a oedd yn barod am astudiaeth Feiblaidd o’r cychwyn.

4 Cynnig astudiaeth. Mae rhai pobl yn barod i dderbyn astudiaeth Feiblaidd ar unwaith. Er enghraifft, ar un dydd Iau yng Nghanada, aeth dynes ifanc at droli llenyddiaeth a chymryd copi o’r llyfryn Mwynhewch Fywyd am Byth! Gwnaeth y chwaer wrth y troli esbonio bod y llyfryn yn dod ag astudiaeth Feiblaidd yn rhad ac am ddim. Roedd gan y ddynes ifanc ddiddordeb, felly gwnaeth hi rannu ei manylion cyswllt. Yn hwyrach ymlaen y diwrnod hwnnw, dyma’r ddynes ifanc yn tecstio’r chwaer am yr astudiaeth. Pan gynigiodd y chwaer ei chyfarfod hi ar y penwythnos, gofynnodd y ddynes ifanc “Beth am fory? Dw i’n rhydd.” Felly cawson nhw’r astudiaeth y dydd Gwener hwnnw. Aeth y ddynes ifanc i’w chyfarfod cyntaf y penwythnos hwnnw ac aeth ymlaen i wneud cynnydd yn gyflym.

5. Sut gallwn ni wybod y ffordd orau i gynnig astudiaeth Feiblaidd? (Gweler hefyd y lluniau.)

5 Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn disgwyl i bawb sy’n gwrando ar ein neges fod mor awyddus â’r ddynes ifanc honno. Efallai bydd angen i rai gael mwy o amser i feithrin diddordeb. Gallwn ni ddechrau drwy drafod pwnc sydd o ddiddordeb i’r person hwnnw. Os byddwn ni’n cadw agwedd bositif ac yn dal ati i ddangos diddordeb personol, efallai byddwn ni’n gallu dechrau astudiaeth cyn bo hir. Sut gallwn ni wneud hynny? Gad inni weld beth mae rhai brodyr a chwiorydd sy’n dda iawn am ddechrau astudiaethau Beiblaidd yn ei awgrymu.

Collage: 1. Dau frawd yn siarad â dyn hŷn sy’n eistedd y tu allan i’w dŷ. 2. Dwy chwaer yn rhannu’r llyfryn “Mwynhewch Fywyd am Byth!” â mam wrth ddrws ei fflat. Mae hi’n dal ei mab ifanc yn ei breichiau tra bod ei mab arall yn sefyll yn agos.

Sut gallwn ni wneud i astudiaeth apelio at y bobl hyn? (Gweler paragraff 5)a


6. Sut gallwn ni barhau â’r sgwrs pan fydd rhywun yn dangos diddordeb?

6 Wrth sôn am gychwyn astudiaethau Beiblaidd, dywedodd brodyr a chwiorydd mewn rhai llefydd ei bod hi’n well osgoi termau fel “astudiaeth,” “cwrs Beiblaidd,” neu “eich dysgu chi” wrth ddisgrifio astudiaeth. Gwnaethon nhw sylweddoli bod termau fel “sgwrs,” “trafodaeth,” a “dod i adnabod y Beibl” yn llawer mwy effeithiol. Gelli di gyflwyno’r syniad o barhau â’r sgwrs drwy ddweud, “Mae’n ddiddorol sut mae’r Beibl yn ateb cwestiynau pwysig bywyd,” neu “mae’r Beibl yn fwy na llyfr crefyddol yn unig; mae’n ein helpu ni mewn ffyrdd ymarferol hefyd.” Gelli di hyd yn oed ychwanegu: “Dydy hi ddim yn cymryd llawer o amser; mewn dim ond ychydig o funudau gallwch chi ddysgu rhywbeth gwerthfawr.” Mae’n bosib dweud hynny heb ddefnyddio termau fel “apwyntiad” neu “bob wythnos” a all wneud i bobl deimlo eu bod nhw’n gorfod ymrwymo i rywbeth.

7. Pryd mae rhai wedi deall eu bod nhw wedi dod o hyd i’r gwir? (1 Corinthiaid 14:​23-25)

7 Gwahodda nhw i gyfarfod. Yn nyddiau’r apostol Paul, sylweddolodd rhai eu bod nhw’n dysgu’r gwir unwaith iddyn nhw fynd i gyfarfod. (Darllen 1 Corinthiaid 14:​23-25.) Gall yr un peth fod yn wir heddiw. Mae’r rhan fwyaf o rai newydd yn gwneud cynnydd yn gyflymach unwaith iddyn nhw ddechrau mynd i’n cyfarfodydd. Pryd dylet ti eu gwahodd nhw? Mae ’na wahoddiad yng ngwers 10 y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! ond does dim rhaid iti ddisgwyl tan y wers honno. Gelli di gynnig gwahoddiad i’r cyfarfod penwythnos yn ystod y sgwrs gyntaf, efallai drwy sôn am deitl yr anerchiad cyhoeddus neu ryw bwynt o Astudiaeth y Tŵr Gwylio yr wythnos honno.

8. Wrth wahodd rhywun, beth gallwn ni ei ddweud am ein cyfarfodydd? (Eseia 54:13)

8 Wrth wahodd rhywun sydd â diddordeb, esbonia sut mae ein cyfarfodydd yn wahanol i wasanaethau crefyddol eraill. Pan aeth un ddynes a oedd yn astudio’r Beibl i’w chyfarfod cyntaf, gofynnodd i’w hathrawes yn ystod yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio, “Ydy’r dyn ar y llwyfan yn gwybod enwau pawb?” Esboniodd y chwaer ein bod ni’n ceisio dod i adnabod pawb yn y gynulleidfa oherwydd ein bod ni fel un teulu mawr. Dywedodd y ddynes fod pethau’n wahanol iawn yn ei heglwys hi. Rhywbeth arall sy’n wahanol iawn ydy pwrpas ein cyfarfodydd. (Darllen Eseia 54:13.) Rydyn ni’n cyfarfod i addoli Jehofa, i ddysgu oddi wrtho ef, ac i annog ein gilydd. (Heb. 2:12; 10:​24, 25) O ganlyniad, mae ein cyfarfodydd yn drefnus ac yn ymarferol, heb gynnwys unrhyw ddefodau neu seremonïau. (1 Cor. 14:40) Mae ein neuaddau yn syml ac wedi eu dylunio i’w gwneud hi’n haws i ddysgu. Dydyn ni byth yn cefnogi un blaid wleidyddol dros y llall oherwydd ein bod ni’n niwtral. Dydyn ni ddim chwaith yn ffraeo nac yn dadlau. Efallai bydd yn helpu i ddangos y fideo Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas? i’r myfyriwr o flaen llaw. Yna fe fydd yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

9-10. Wrth wahodd rhywun i gyfarfod, beth gallwn ni ei wneud a fydd yn tawelu ei feddwl? (Gweler hefyd y llun.)

9 Mae rhai yn dal yn ôl rhag dod i’n cyfarfodydd am eu bod nhw’n poeni y byddan nhw’n gorfod dod yn un o Dystion Jehofa. Esbonia iddyn nhw ein bod ni’n croesawu ymwelwyr a does ’na ddim pwysau arnyn nhw i ymuno nac i gymryd rhan. Mae ’na groeso i deuluoedd, gan gynnwys rhai sydd â phlant ifanc. Dydy plant ddim yn cael eu dysgu ar wahân yn ein cyfarfodydd. Yn hytrach, mae rhieni a phlant yn eistedd gyda’i gilydd ac yn dysgu fel teulu. Oherwydd hynny, mae rhieni yn wastad yn gwybod lle mae eu plant a beth maen nhw’n ei ddysgu. (Deut. 31:12) Dydyn ni ddim yn cymryd casgliadau. Yn hytrach rydyn ni’n dilyn gorchymyn Iesu: “Gwnaethoch chi dderbyn heb dâl, rhowch heb dâl.” (Math. 10:8) Efallai ei bod hi hefyd yn werth sôn wrth yr unigolyn nad oes angen iddo wisgo dillad crand i fynd i gyfarfod. Mae Duw yn edrych ar beth sydd yn ei galon, nid ar ei olwg.—1 Sam. 16:7.

10 Os ydy’r unigolyn yn dod i gyfarfod, gwna beth fedri di i wneud iddo deimlo’n gyffyrddus. Cyflwyna ef i’r henuriaid ac i frodyr a chwiorydd eraill. Os ydy ef yn teimlo’n gartrefol, fe fydd yn fwy tebygol o ddod yn ôl. Yn ystod y cyfarfod, os nad oes ganddo Feibl, rhanna dy un di ag ef a’i helpu i ddilyn yr anerchiad neu’r deunydd sy’n cael ei drafod.

Y fam o’r llun blaenorol yn mwynhau’r croeso cynnes mae hi’n ei gael gan frodyr a chwiorydd yn Neuadd y Deyrnas. Mae hi’n dal ei mab ieuengaf tra bod ei mab hynaf yn siarad â bachgen ifanc.

Bydd mynychu cyfarfodydd yn helpu unigolion i nesáu at Jehofa yn gyflymach (Gweler paragraffau 9-10)


PAN FYDDI DI’N DECHRAU ASTUDIAETH FEIBLAIDD

11. Sut gelli di ddangos dy fod ti’n parchu amser y myfyriwr a’i amserlen?

11 Beth dylen ni ei gadw mewn cof pan fyddwn ni’n astudio â rhywun? Dangosa dy fod ti’n parchu amser y deiliad a’i amserlen. Er enghraifft, os wyt ti wedi trefnu i gwrdd am amser penodol, bydda’n brydlon, ni waeth sut mae pobl yn dy ardal di yn ystyried prydlondeb. Ar ben hynny, efallai bydd yn syniad da i gadw’r sesiwn gyntaf yn weddol fyr. Mae rhai cyhoeddwyr profiadol yn awgrymu gorffen yn fuan hyd yn oed os ydy’r unigolyn eisiau gwybod mwy. Mae hi hefyd yn bwysig i beidio â siarad gormod. Gad i’r deiliad fynegi ei hun.—Diar. 10:19.

12. Beth ddylai fod ein nod o’r cychwyn?

12 O’r cychwyn cyntaf, dylen ni gael y nod o helpu’r myfyriwr i ddod i adnabod Jehofa ac Iesu, a’u caru nhw. Er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, tynna ei sylw at Air Duw, yn hytrach nag atat ti dy hun a’r hyn rwyt ti’n ei feddwl neu’n ei wybod. (Act. 10:​25, 26) Wrth ddysgu eraill, roedd yr apostol Paul yn canolbwyntio ar Iesu, yr un a gafodd ei anfon er mwyn ein helpu ni i ddod i adnabod Jehofa a’i garu. (1 Cor. 2:​1, 2) Gwnaeth Paul hefyd egluro pa mor bwysig ydy hi i helpu disgyblion newydd i ddatblygu rhinweddau da sydd fel aur, arian, a gemau gwerthfawr. (1 Cor. 3:​11-15) Mae rhinweddau o’r fath yn cynnwys ffydd, doethineb, dealltwriaeth, ac ofn Jehofa. (Salm 19:​9, 10, BCND; Diar. 3:​13-15; 1 Pedr 1:7) Efelycha ffordd Paul o ddysgu drwy helpu dy fyfyrwyr i feithrin ffydd gref a pherthynas bersonol â’u Tad nefol cariadus.—2 Cor. 1:24.

13. Sut gallwn ni fod yn amyneddgar ac yn rhesymol wrth inni helpu’r rhai sydd â diddordeb? (2 Corinthiaid 10:​4, 5) (Gweler hefyd y llun.)

13 Efelycha ffordd Iesu o ddysgu drwy fod yn amyneddgar ac yn rhesymol. Paid â gofyn cwestiynau a all wneud i’r unigolyn deimlo’n anghyfforddus. Os ydy ef yn cael trafferth deall rhywbeth, symuda’r astudiaeth ymlaen ac adolyga’r pwynt hwnnw yn nes ymlaen. Yn hytrach na rhoi pwysau arno i dderbyn rhywbeth cyn iddo fod yn barod, rho amser i’r gwir wreiddio yn ei galon. (Ioan 16:12; Col. 2:​6, 7) Mae’r Beibl yn cymharu gau ddysgeidiaethau â chadarnleoedd sydd angen eu dinistrio. (Darllen 2 Corinthiaid 10:​4, 5; gweler y nodyn astudio ar “overturning strongly entrenched things.”) Yn hytrach na chwalu credoau dy fyfyriwr, helpa ef i feddwl am Jehofa fel ei Gaer.—Salm 91:9.

Mae’r dyn hŷn o’r llun blaenorol yn astudio’r llyfr “Mwynhewch Fywyd am Byth!” â dau frawd. Mae ’na gasgliad o fedalau milwrol ar silff agos.

Rho amser i’r gwir wreiddio yng nghalon dy fyfyriwr (Gweler paragraff 13)


PAN FYDD RHAI NEWYDD YN DOD I’R CYFARFODYDD

14. Sut dylen ni drin rhai newydd sy’n dod i’n cyfarfodydd?

14 Mae Jehofa’n disgwyl inni fod yn garedig i bawb, ni waeth beth yw eu diwylliant, eu cefndir, neu eu statws yn y gymdeithas. (Iago 2:​1-4, 9) Felly sut gallwn ni ddangos cariad at y rhai sy’n dod i’n cyfarfodydd?

15-16. Sut gallwn ni estyn croeso i rai newydd sy’n dod i’n cyfarfodydd?

15 Mae rhai pobl yn dod i’n cyfarfodydd am eu bod nhw’n chwilfrydig, neu efallai fod eraill yno oherwydd bod rhywun mewn ardal arall wedi eu hannog nhw i fynd. Felly paid â dal yn ôl rhag siarad â rhywun newydd sy’n dod i’n cyfarfodydd. Rho groeso cynnes iddyn nhw heb fynd dros ben llestri. Beth am gynnig eistedd gyda nhw? Rhanna dy Feibl a chyhoeddiadau eraill â nhw, neu roi copi personol iddyn nhw. Ar ben hynny, ystyria eu teimladau. Pan aeth un dyn i Neuadd y Deyrnas, fe ddywedodd wrth y brawd a wnaeth ei groesawu ei fod yn nerfus oherwydd nad oedd ef yn gwisgo dillad smart. Gwnaeth y brawd dawelu ei feddwl ac esbonio bod pobl Jehofa yn bobl normal. Yn y pen draw, cafodd y dyn hwnnw ei fedyddio, ond ni wnaeth ef erioed anghofio ymateb y brawd. Ond cofia, wrth siarad â rhai newydd sy’n dod i’n cyfarfodydd, paid â gofyn cwestiynau rhy bersonol a all godi cywilydd arnyn nhw.—1 Pedr 4:15.

16 Gallwn ni hefyd wneud i’n hymwelwyr deimlo’n gyffyrddus drwy siarad yn barchus am rai sydd ddim yn Dystion ac am eu credoau wrth sgwrsio, wrth roi sylwadau, ac wrth gael rhan yn y cyfarfod. Paid â defnyddio geiriau neu ymadroddion a all eu baglu nhw neu eu pechu nhw. (Titus 2:8; 3:2) Er enghraifft, fydden ni ddim eisiau bychanu credoau’r rhai sydd ddim yn rhannu ein ffydd. (2 Cor. 6:3) Mae hyn yn enwedig o berthnasol i frodyr sy’n rhoi anerchiadau cyhoeddus. Gallan nhw hefyd ddangos eu bod nhw’n meddwl am ymwelwyr sydd ddim yn Dystion drwy esbonio geiriau neu syniadau sydd efallai yn anghyfarwydd i’r cyhoedd.

17. Beth yw ein nod pan ydyn ni’n dod o hyd i rai sydd â’r “agwedd gywir” yn ein gweinidogaeth?

17 Gyda phob diwrnod sy’n mynd heibio, mae ein gwaith o wneud disgyblion yn mynd yn bwysicach byth. Rydyn ni’n dal i ddod o hyd i rai sydd â’r “agwedd gywir ar gyfer cael bywyd tragwyddol.” (Act. 13:48) Ni ddylen ni ddal yn ôl rhag cynnig astudiaeth Feiblaidd iddyn nhw a’u gwahodd nhw i’n cyfarfodydd. Drwy wneud hynny, gallwn ni eu helpu nhw i gymryd eu camau cyntaf ar hyd y “ffordd sy’n arwain i fywyd.”—Math. 7:14.

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Sut gallwn ni helpu’r rhai sydd â’r “agwedd gywir” yn ystod y sgwrs gyntaf?

  • Pa awgrymiadau gallwn ni eu rhoi ar waith wrth ddechrau astudiaeth Feiblaidd?

  • Sut gallwn ni wneud i rai newydd deimlo’n gyffyrddus pan fyddan nhw’n dod i’n cyfarfodydd?

CÂN 64 Cydweithio yn Llawen yn y Cynhaeaf

a DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae dau frawd yn siarad â chyn-filwr sy’n ymlacio tu allan i’w dŷ; dwy chwaer yn rhoi tystiolaeth fer i fam brysur.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu