ERTHYGL ASTUDIO 40
CÂN 111 Rhesymau Dros Ein Llawenydd
Jehofa Sy’n Ein Gwneud Ni “Mor Hapus”
“Bydda i’n cael mynd at . . . y Duw sy’n fy ngwneud i mor hapus.”—SALM 43:4.
PWRPAS
I’n helpu ni i gydnabod beth all ddwyn ein llawenydd a sut gallwn ni ei gael yn ôl os ydyn ni’n ei golli.
1-2. (a) Pa sefyllfa mae llawer yn ei hwynebu heddiw? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
MAE llawer o bobl yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fod yn hapus. Ond, mae hapusrwydd hirdymor y tu hwnt i’w cyrraedd. Mae llawer yn cael eu llethu oherwydd eu bod nhw’n teimlo’n wag ac yn drist. Mae pobl Jehofa yn gallu teimlo fel hyn hefyd. Oherwydd ein bod ni’n byw yn “y dyddiau olaf,” rydyn ni’n disgwyl wynebu sefyllfaoedd ac emosiynau sy’n “hynod o anodd” delio â nhw.—2 Tim. 3:1.
2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pa bethau all ddwyn ein llawenydd a sut gallwn ni ei gael yn ôl os ydyn ni’n ei golli. Ond yn gyntaf, mae’n rhaid inni gydnabod o le mae gwir hapusrwydd a llawenydd yn dod.
FFYNHONNELL GWIR HAPUSRWYDD A LLAWENYDD
3. Beth mae’r greadigaeth yn ei ddysgu inni am Jehofa? (Gweler hefyd y lluniau.)
3 Mae Jehofa’n wastad wedi bod yn hapus, ac mae eisiau i ninnau fod yn hapus ac yn llawen hefyd. Felly does dim syndod ein bod ni’n gweld ei lawenydd yn cael ei adlewyrchu yn ei greadigaeth—ein planed brydferth, yr amrywiaeth ddiddiwedd o liwiau o’n cwmpas, natur chwareus anifeiliaid, a’r holl fwyd blasus. Mae Duw yn wir yn ein caru ni ac eisiau inni fwynhau bywyd!
Baby elephant: Image © Romi Gamit/Shutterstock; penguin chicks: Vladimir Seliverstov/500px via Getty Images; baby goats: Rita Kochmarjova/stock.adobe.com; two dolphins: georgeclerk/E+ via Getty Images
Mae natur chwareus anifeiliaid yn adlewyrchu llawenydd Jehofa (Gweler paragraff 3)
4. (a) Sut gall Jehofa fod yn hapus er gwaetha’r holl ddioddefaint mae’n ei weld yn y byd? (b) Pa rodd mae Jehofa wedi ei rhoi inni? (Salm 16:11)
4 Er mai Jehofa yw’r “Duw hapus,” mae’n hollol ymwybodol o’r dioddefaint a’r tristwch yn y byd. (1 Tim. 1:11) Ond nid ydy ef wedi gadael i’r ffaith honno leihau ei lawenydd oherwydd ei fod yn gwybod mai dros dro ydy ein dioddefaint. Mae wedi gosod y dyddiad i ddod ag ef i ben, ac mae’n dyfalbarhau yn amyneddgar tan y dydd pan fydd yn dad-wneud ein holl ddioddefaint a galar am byth. Yn y cyfamser, mae Jehofa’n deall beth rydyn ni’n ei wynebu ac mae eisiau ein helpu ni. Sut mae’n ein helpu ni? Am un peth, mae wedi rhoi llawenydd fel rhodd inni. (Darllen Salm 16:11.) Ystyria sut rhannodd y rhodd honno â’i Fab, Iesu.
5-6. Pam mae Iesu’n llawen?
5 O blith holl greadigaeth Jehofa, Iesu ydy’r hapusaf. Pam? Ystyria ddau reswm. (1) “Ef yw delw’r Duw anweledig” ac mae’n adlewyrchu pob agwedd ar bersonoliaeth ei Dad yn berffaith. (Col. 1:15; gweler y nodyn astudio “happy” ar 1 Timotheus 6:15.) (2) Mae Iesu wedi treulio llawer iawn o amser gyda’i Dad, Ffynhonnell llawenydd.
6 Mae Iesu yn wastad wedi bod yn llawen wrth wneud beth bynnag mae ei Dad yn gofyn iddo ei wneud. (Diar. 8:30, 31; Ioan 8:29) O ganlyniad i’w ffyddlondeb, mae ganddo ffafr a chymeradwyaeth Jehofa.—Math. 3:17.
7. Sut gallwn ni gael hyd i wir hapusrwydd?
7 Gallwn ninnau hefyd ddod o hyd i wir lawenydd drwy nesáu at Jehofa, Ffynhonnell hapusrwydd. Bydd ein hapusrwydd yn cynyddu pan ydyn ni’n treulio mwy o amser yn dysgu am Jehofa ac yn ei efelychu. Byddwn ni hefyd yn cael llawenydd drwy wneud ewyllys Duw a thrwy wybod ein bod ni’n ei blesio.a (Salm 33:12) Ond beth os oes gynnon ni ddiffyg llawenydd ar adegau, neu yn barhaol? A ydy hyn yn golygu nad oes gynnon ni gymeradwyaeth Duw? Nac ydy! Rydyn ni’n amherffaith ac ar adegau yn dioddef poen, tristwch, ac iselder. Mae Jehofa’n deall hynny. (Salm 103:14) Gad inni drafod pa bethau a all dwyn ein llawenydd a sut gallwn ni ei gael yn ôl.
PAID Â GADAEL I UNRHYW BETH DDWYN DY LAWENYDD
8. Sut gall problemau bywyd effeithio arnon ni?
8 Lleidr #Rhif 1: Problemau bywyd. A wyt ti’n profi effeithiau erledigaeth, trychineb naturiol, tlodi, salwch, neu henaint? Pan ydyn ni’n wynebu problemau o’r fath, mae’n hawdd iddyn nhw ddwyn ein llawenydd, yn enwedig pan nad oes gynnon ni reolaeth dros y sefyllfa. Mae’r Beibl yn cydnabod bod “calon drist yn llethu’r ysbryd.” (Diar. 15:13) Dywedodd henuriad o’r enw Babis, a gollodd ei frawd a’i rieni mewn marwolaeth o fewn cyfnod o bedair blynedd: “Roeddwn i’n teimlo ar fy mhen fy hun a heb unrhyw help. Ar adegau, roeddwn i’n teimlo fy mod wedi fy rhwygo’n ddau oherwydd fy mod i’n delio â chymaint o bethau a doeddwn i ddim yn gallu treulio amser gyda fy rhieni a fy mrawd cyn iddyn nhw farw.” Gall problemau bywyd ein gwagio ni yn gorfforol ac yn emosiynol.
9. Beth all ein helpu ni i gael ein llawenydd yn ôl? (Jeremeia 29:4-7, 10)
9 Beth all ein helpu ni i gael ein llawenydd yn ôl? Gallwn ni gael ein llawenydd yn ôl drwy fod yn realistig ac yn ddiolchgar. Mae’r byd yn hyrwyddo’r syniad bod rhaid i’n bywyd fod yn berffaith er mwyn bod yn hapus. Ond dydy hynny ddim yn wir. Er enghraifft, dywedodd Jehofa wrth yr alltudion Iddewig ym Mabilon am iddyn nhw dderbyn eu sefyllfa fel caethion mewn gwlad estron ac i wneud eu gorau o dan yr amgylchiadau anodd hynny. (Darllen Jeremeia 29:4-7, 10.) Beth yw’r wers? Ceisia dderbyn dy amgylchiadau a bydda’n ddiolchgar am y pethau da yn dy fywyd. Cofia bydd Jehofa’n dy helpu di pob cam o’r ffordd. (Salm 63:7; 146:5) Dywedodd Effie, a gafodd ei pharlysu ar ôl damwain: “Fe ges i lawer o help a chymorth oddi wrth Jehofa, fy nheulu, a’r gynulleidfa. Felly roeddwn i’n teimlo na fyddwn i’n dangos fy niolchgarwch petaswn i’n rhoi’r gorau iddi. Rydw i eisiau dangos fy niolchgarwch i Jehofa ac i’r brodyr a’r chwiorydd am eu help anhygoel.”
10. Pam gallwn ni fod yn llawen hyd yn oed yn wyneb problemau?
10 Hyd yn oed pan mae ein bywyd yn bell o berffaith neu mae pethau ofnadwy yn digwydd i ni neu i’n teulu, gallwn ni’n dal i fod yn llawen.b (Salm 126:5) Pam? Oherwydd nad ydy ein llawenydd yn dibynnu ar ein hamgylchiadau. Mae arloeswraig o’r enw Maria yn dweud: “Wrth wynebu problemau, dydy aros yn llawen ddim yn golygu gwthio dy deimladau i lawr. Yn hytrach, mae’n golygu dy fod ti heb anghofio addewidion Jehofa. Bydd ein Tad yn ein helpu ni i amddiffyn ein llawenydd.” Cofia, ni waeth pa mor anodd ydy pethau nawr, dros dro ydy ein holl broblemau—fel olion traed ar draeth. Yn fuan iawn byddan nhw’n cael eu golchi i ffwrdd heb adael unrhyw beth ar ôl.
11. Sut mae esiampl yr apostol Paul yn dy galonogi di?
11 Beth os ydyn ni’n dechrau cwestiynu a ydy ein problemau yn golygu ein bod ni wedi colli cymeradwyaeth Jehofa? Efallai bydd meddwl am weision ffyddlon Jehofa sydd wedi wynebu sefyllfaoedd anodd yn dy helpu di. Ystyria esiampl yr apostol Paul. Fe gafodd ei ddewis gan Iesu ei hun i ddod â’r gwir i’r “cenhedloedd yn ogystal â brenhinoedd a meibion Israel.” (Act. 9:15) Am fraint! Ond doedd bywyd Paul ddim heb ei drafferthion. (2 Cor. 11:23-27) A oedd yr holl broblemau roedd Paul yn eu hwynebu yn golygu ei fod wedi colli cymeradwyaeth Jehofa? Wrth gwrs ddim! I’r gwrthwyneb, roedd ei ddyfalbarhad yn dangos bod Jehofa’n ei fendithio. (Rhuf. 5:3-5) Nawr meddylia am dy sefyllfa dy hun. Rwyt ti’n dyfalbarhau’n ffyddlon er gwaethaf dy holl dreialon. Felly, gelli di fod yn sicr dy fod ti’n plesio Jehofa.
12. Sut gallai gobeithion sydd heb eu gwireddu ddwyn ein llawenydd?
12 Lleidr #Rhif 2: Gobeithion sydd heb eu gwireddu. (Diar. 13:12) Mae ein cariad a’n diolchgarwch at Jehofa yn ein hysgogi ni i osod amcanion yn ei wasanaeth. Ond, os nad ydy’r amcanion rydyn ni’n eu gosod yn realistig ac yn unol â’n hamgylchiadau, gallwn ni ddigalonni. (Diar. 17:22) Dywedodd arloeswraig o’r enw Holly: “Roeddwn i eisiau mynychu’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas, i wasanaethu tramor, neu i weithio ar brosiect adeiladu Ramapo. Ond newidiodd fy amgylchiadau, a doeddwn i ddim yn gallu estyn allan am yr amcanion hynny bellach. Roeddwn i’n teimlo’n siomedig. Mae mor rhwystredig pan nad wyt ti’n gallu gwneud y pethau rwyt ti eisiau eu gwneud.” Mae llawer yn teimlo’r un fath.
13. Pa amcanion realistig gallwn ni eu gosod os ydy ein hamgylchiadau yn cyfyngu arnon ni?
13 Beth all ein helpu ni i gael ein llawenydd yn ôl? Cofia, dydy Jehofa byth yn gofyn gormod gynnon ni nac yn mesur ein gwerth ar sail faint rydyn ni’n ei wneud yn ei wasanaeth. Mae Jehofa eisiau inni fod yn wylaidd ac yn ffyddlon. (Mich. 6:8; 1 Cor. 4:2) Mae’r hyn rydyn ni ar y tu mewn yn fwy pwysig iddo na’r hyn rydyn ni’n ei wneud. A fyddai’n rhesymol inni ddisgwyl mwy gynnon ni’n hunain nag y mae Jehofa’n ei ddisgwyl?c Yn bendant ddim! Felly os ydy dy amgylchiadau yn cyfyngu ar beth rwyt ti’n gallu ei wneud wrth wasanaethu Jehofa, canolbwyntia ar beth sydd o fewn dy gyrraedd. A allet ti helpu i hyfforddi rhai ifanc neu i galonogi rhai hŷn? Neu beth am osod y nod o roi anogaeth i rywun mewn person, dros y ffôn, neu drwy anfon neges ato? Bydd Jehofa’n dy fendithio di â llawenydd wrth iti weithio tuag at amcanion o’r fath! Cofia, bydd gynnon ni gyfleoedd diddiwedd yn fuan ym myd newydd Jehofa i’w wasanaethu mewn ffyrdd na allwn ni eu dychmygu! Dywedodd Holly, a ddyfynnwyd ynghynt: “Rydw i’n eistedd yn ôl ac yn meddwl, ‘Mae tragwyddoldeb o fy mlaen.’ Gyda help Jehofa, bydda i’n gallu cyrraedd rhai o fy amcanion yn y byd newydd.”
14. Beth arall a all ddwyn ein llawenydd?
14 Lleidr #Rhif 3: Pleserau hunanol. Mae rhai yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r syniad bod plesio ein hunain yn dod â gwir hapusrwydd a boddhad. Mae pobl yn cael eu hannog i flaenoriaethu pethau fel eu diddordebau, teithio, a siopa. Dydy pleserau o’r fath ddim yn anghywir. Mae Jehofa wedi ein creu ni i fwynhau pethau prydferth. Ond mae llawer wedi sylwi bod y pethau roedden nhw’n meddwl oedd am eu gwneud nhw’n hapus wedi dwyn eu llawenydd. Mae arloeswraig o’r enw Eva yn dweud, “Os plesio dy hun ydy canolbwynt dy fywyd, fydd dim byd yn dy fodloni.” Gall ceisio bodloni pleserau hunanol wneud inni deimlo’n wag ac yn siomedig.
15. Pa wers gallwn ni ei dysgu o’r Brenin Solomon?
15 Gallwn ni ddysgu o brofiad y Brenin Solomon ynglŷn â’r canlyniadau trist sy’n dod yn sgil bodloni pleserau hunanol. Fe geisiodd ddod o hyd i hapusrwydd drwy fodloni ei chwantau personol. Roedd yn mwynhau bwyd da, cerddoriaeth hyfryd, a’r pethau drutaf roedd yn bosib i’w prynu. Ond doedd y pethau hyn byth yn ddigon iddo. Fe ddywedodd: “Dydy’r llygad byth wedi gweld digon, na’r glust wedi clywed nes ei bod yn fodlon.” (Preg. 1:8; 2:1-11) Mae safbwynt y byd ynglŷn â beth sy’n dod â llawenydd yn debyg i arian ffug. Mae’n ymddangos yn werthfawr; ond mewn gwirionedd, mae’n dda i ddim.
16. Sut gall rhoi i eraill ein helpu ni i gael ein llawenydd yn ôl? (Gweler hefyd y lluniau.)
16 Beth all ein helpu ni i gael ein llawenydd yn ôl? Dywedodd Iesu: “Mae mwy o hapusrwydd yn dod o roi nag o dderbyn.” (Act. 20:35) Dywedodd henuriad o’r enw Alekos: “Rydw i’n canolbwyntio ar wneud pethau bach ar gyfer eraill. Wrth imi roi mwy, dwi’n meddwl llai amdana i fy hun, ac mae hynny’n fy ngwneud i’n hapus.” Beth gelli di ei wneud ar gyfer eraill? Os wyt ti’n gweld rhywun yn stryglo, ceisia ei annog. Efallai na fyddi di’n gallu datrys ei broblemau, ond gelli di ei gysuro drwy wrando â chydymdeimlad, drwy fod yn dosturiol, a thrwy ei atgoffa i fwrw ei faich ar Jehofa. (Salm 55:22; 68:19) Gelli di hefyd ei atgoffa nad ydy Jehofa wedi cefnu arno. (Salm 37:28; Esei. 59:1) Gelli di hyd yn oed cynnig gwneud rhywbeth ymarferol ar ei gyfer, fel paratoi pryd o fwyd neu fynd am dro gyda’ch gilydd. Rho wahoddiad iddo bregethu â ti. Bydd mynd ar y weinidogaeth yn codi ei galon. Gad i Jehofa dy ddefnyddio di. Bydd canolbwyntio ar eraill yn hytrach nag arnon ni’n hunain yn dod â gwir lawenydd inni!—Diar. 11:25.
Yn lle canolbwyntio ar beth rwyt ti eisiau ei wneud, canolbwyntia ar anghenion pobl eraill (Gweler paragraff 16)d
17. Beth mae’n rhaid inni ei wneud er mwyn bod yn wirioneddol hapus? (Salm 43:4)
17 Gallwn ni fod yn wirioneddol hapus os ydyn ni’n parhau i nesáu at ein Tad nefol. Mae’r Beibl yn cadarnhau mai Jehofa sy’n ein gwneud ni “mor hapus.” (Darllen Salm 43:4.) Felly ni waeth beth rydyn ni’n ei wynebu yn ein bywydau, gallwn ni deimlo’n saff. Gad inni ddal ati i ganolbwyntio ar Jehofa, Ffynhonnell gwir hapusrwydd!—Salm 144:15.
CÂN 155 Ein Llawenydd Tragwyddol
a Gweler y blwch “Tro at Jehofa am Lawenydd.”
b Fel esiampl, gweler cyfweliad Dennis ac Irina Christensen yn Diweddariad #5 2023 gan y Corff Llywodraethol.
c Am fwy o wybodaeth, gweler yr erthygl “Cultivate Reasonable Expectations, and Be Joyful” yn rhifyn Gorffennaf 15, 2008, y Tŵr Gwylio.
d DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae chwaer yn prynu llawer o bethau iddi hi ei hun ond mae hi’n cael mwy o lawenydd yn prynu blodau i chwaer hŷn sydd angen anogaeth.