LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Hydref tt. 12-17
  • Mae Cariad Duw yn Ddiddiwedd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Mae Cariad Duw yn Ddiddiwedd
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • YSTYRIA GARIAD JEHOFA YN DDYSGEIDIAETH SYLFAENOL Y BEIBL
  • MYFYRIA AR Y FFAITH BOD JEHOFA’N ‘DY GARU DI’
  • DEALL O LE MAE AMHEUON YN DOD
  • DEWISA I AROS YN FFYDDLON
  • Mae Jehofa’n Dangos Tosturi Tuag Atat Ti
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Bydda’n Siŵr o Gariad Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Sut i Ddod Dros Amheuon
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Beth Mae Cariad Ffyddlon Jehofa yn ei Olygu i Ti?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Hydref tt. 12-17

ERTHYGL ASTUDIO 41

CÂN 108 Cariad Ffyddlon Duw

Mae Cariad Duw yn Ddiddiwedd

“Diolchwch i’r ARGLWYDD am mai da yw, oherwydd mae ei gariad hyd byth.”—SALM 136:​1, BCND.

PWRPAS

I esbonio sut gall gweld cariad Jehofa o safbwynt y Beibl ein helpu ni i beidio â digalonni wrth wynebu treialon.

1-2. Pa her y mae llawer o Gristnogion yn ei hwynebu?

DYCHMYGA gwch yng nghanol storm ddychrynllyd, y môr yn corddi o’i gwmpas ac yn ei daflu o un cyfeiriad i’r llall. Bydd y cwch yn mynd lle bynnag bydd y tonnau’n ei gymryd, oni bai bod rhywun yn defnyddio angor. Bydd angor yn sefydlogi’r cwch ac yn ei gadw rhag drifftio wrth i’r storm ruo.

2 Pan wyt ti’n wynebu treial ofnadwy, gelli di deimlo fel y cwch hwnnw. Gall dy emosiynau newid mewn eiliad. Un diwrnod, rwyt ti’n hyderus bod Jehofa’n dy garu ac yn dy gefnogi di; y diwrnod nesaf, dwyt ti ddim yn siŵr os ydy ef yn cymryd sylw o dy sefyllfa di. (Salm 10:1; 13:1) Efallai bydd ffrind yn dy gysuro di a byddi di’n teimlo’n well am ychydig. (Diar. 17:17; 25:11) Ond yna, mae’r amheuon yn dod yn ôl. Efallai byddi di hyd yn oed yn teimlo fel bod Jehofa wedi dy adael di. Sut gelli di gael dy angori, fel petai, wrth wynebu treial? Mewn geiriau eraill, sut gelli di fod yn siŵr o gariad a chefnogaeth Jehofa, ac aros yn siŵr o’r ffaith honno?

3. Yn y Beibl, beth ydy ystyr y geiriau “cariad ffyddlon,” a pham gallwn ni ddweud mai Jehofa ydy’r esiampl orau ohono? (Gweler hefyd y llun.)

3 Un ffordd gelli di gael dy angori yn ystod treial ydy drwy gofio am gariad ffyddlon Jehofa. (Darllen Salmau 31:7; 136:​1, BCND.) Pan mae’r Beibl yn sôn am “gariad ffyddlon,” mae’n cyfleu’r syniad o gariad dwfn a pharhaol sy’n gwneud i rywun lynu’n agos at rywun arall. Jehofa yw’r esiampl orau o gariad ffyddlon. Mae’r Beibl yn dweud ei fod yn “llawn cariad ffyddlon.” (Ex. 34:​6, 7) Mae’r Beibl hefyd yn dweud bod “cariad yr ARGLWYDD mor ffyddlon.” (Salm 130:7) Meddylia am beth mae hynny’n ei olygu: Dydy Jehofa byth yn cefnu ar ei weision ffyddlon! Gall cofio ffyddlondeb Jehofa dy angori di pan wyt ti’n wynebu treialon ofnadwy.—Salm 23:4.

Angor môr ynghlwm wrth long hwylio, yn helpu i gadw’r cwch rhag drifftio yn ystod storm.

Yn union fel angor sy’n cadw cwch rhag drifftio yn ystod storm ddychrynllyd, mae ein hyder yng nghariad Jehofa yn ein sefydlogi ni yn wyneb treialon (Gweler paragraff 3)


YSTYRIA GARIAD JEHOFA YN DDYSGEIDIAETH SYLFAENOL Y BEIBL

4. Rho enghreifftiau o rai dysgeidiaethau sylfaenol y Beibl, a pham rydyn ni’n eu credu nhw.

4 Ffordd arall gelli di gael dy angori yn ystod treial ydy drwy ystyried cariad Jehofa yn ddysgeidiaeth sylfaenol y Beibl. Beth mae’r ymadrodd “dysgeidiaeth sylfaenol y Beibl” yn ei olygu iti? Efallai dy fod ti’n meddwl am y gwirioneddau rwyt ti wedi eu dysgu yng Ngair Duw. Er enghraifft, rwyt ti wedi dysgu mai enw Duw ydy Jehofa, mai Iesu ydy Mab unig-anedig Duw, bod y meirw yn ymwybodol o ddim, ac yn y dyfodol bydd y ddaear yn baradwys lle bydd pobl yn byw am byth. (Ex. 6:2; Preg. 9:5; Ioan 3:16; Dat. 21:​3, 4) Ar ôl iti dderbyn y dysgeidiaethau hynny, doedd neb yn gallu dy berswadio di fel arall. Pam? Oherwydd dy fod ti wedi sylweddoli eu bod nhw wedi eu gwreiddio yn y gwir. Gad inni weld sut gall ystyried cariad Jehofa yn ddysgeidiaeth sylfaenol y Beibl dy helpu di i stopio amau’r ffaith ei fod yn gofalu amdanat ti ac yn cymryd sylw o dy sefyllfa.

5. Disgrifia sut mae gau ddysgeidiaethau yn cael eu chwalu.

5 Pan ddechreuaist ti astudio’r Beibl, beth a wnaeth dy helpu di i wrthod gau ddysgeidiaethau? Mae’n debyg dy fod ti wedi cymharu dysgeidiaethau’r Ysgrythurau â dy hen ddaliadau. Ystyria un esiampl: Efallai dy fod ti wedi credu mai Iesu yw’r Duw Hollalluog. Ond wrth iti astudio’r Beibl, fe wnest ti ofyn, ‘A ydy’r ddysgeidiaeth hon yn wir?’ Fe ddest ti i’r casgliad nad oedd yn wir ar ôl ystyried y dystiolaeth yn y Beibl. Yna fe wnest ti chwalu’r gau ddysgeidiaeth drwy adael i’r gwirionedd hwn gymryd ei lle: Iesu yw “cyntaf-anedig yr holl greadigaeth,” “Mab unig-anedig Duw.” (Col. 1:15; Ioan 3:18) Wrth gwrs, mae rhai gau ddysgeidiaethau “wedi ymwreiddio’n ddwfn” ac maen nhw’n anodd eu chwalu. (2 Cor. 10:​4, 5) Ond ar ôl iti wneud hynny, ni wnest ti fynd yn ôl i dy hen ddaliadau.—Phil. 3:13.

6. Pam gelli di fod yn siŵr bod cariad ffyddlon Jehofa yn para “hyd byth”?

6 Gelli di wneud rhywbeth tebyg wrth ystyried beth mae’r Beibl yn ei ddweud ynglŷn â chariad Jehofa. Os wyt ti’n dechrau amau cariad Jehofa yn wyneb treial, gelli di ofyn i ti dy hun, ‘A ydw i’n meddwl yn glir?’ Cymhara dy amheuon â geiriau Salm 136:1—yr adnod sy’n thema i’r erthygl hon. Pam mae Jehofa’n dweud bod ei gariad “hyd byth,” neu’n ffyddlon? Pam mae’r salm hon yn ailadrodd y geiriau “mae ei gariad hyd byth” drosodd a throsodd? Fel rydyn ni wedi gweld, mae cariad ffyddlon Jehofa tuag at ei bobl yn wirionedd sylfaenol y Beibl, yn union fel y gwirioneddau eraill o’r Beibl roeddet ti’n barod i’w derbyn. Mae’r syniad bod Jehofa’n dy ystyried di yn ddi-werth yn gelwydd pur. Gwrthoda’r celwydd hwnnw, yn union fel byddi di’n gwrthod unrhyw gau ddysgeidiaeth arall!

7. Rho enghreifftiau o rai adnodau sy’n cadarnhau bod Jehofa’n ein caru ni

7 Mae’r Beibl yn llawn tystiolaeth sy’n dangos bod Jehofa’n ein caru ni. Er enghraifft, dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr: “Rydych chithau’n werth mwy na llawer o adar y to.” (Math. 10:31) Dywedodd Jehofa ei hun wrth ei bobl: “Dw i’n dy nerthu di ac yn dy helpu di, dw i’n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde.” (Esei. 41:10) Ystyri a pa mor gadarn ydy’r geiriau hynny. Ni ddywedodd Iesu, ‘Efallai dy fod ti’n werth mwy,’ ac ni ddywedodd Jehofa, ‘Efallai bydda i’n dy helpu di.’ Yn hytrach, fe ddywedon nhw: “Rydych chithau’n werth mwy” ac ‘rydw i’n dy helpu di.’ Os wyt ti’n amau cariad Jehofa wrth wynebu treial, gall ysgrythurau o’r fath wneud iti deimlo’n well ond hefyd dy helpu di i wybod ei fod yn dy garu di. Maen nhw wedi eu seilio ar ffeithiau. Os wyt ti’n gweddïo ar Jehofa ac yn myfyrio ar yr ysgrythurau hyn, yna byddi di’n gallu dweud: “Rydyn ni wedi dod i adnabod a chredu’r cariad sydd gan Dduw tuag aton ni.”a—1 Ioan 4:16.

8. Beth gelli di ei wneud os wyt ti’n amau cariad Jehofa ar adegau?

8 Ond beth os wyt ti’n dal i amau cariad Jehofa ar adegau? Cymhara sut rwyt ti’n teimlo â beth rwyt ti’n ei wybod. Dydy teimladau ddim mor ddibynadwy â ffeithiau, ond mae cariad Jehofa, fel sy’n cael ei dysgu yn yr Ysgrythurau, yn ffaith. Byddai meddwl yn wahanol i hynny yn anwybyddu rhinwedd fwyaf pwysig Jehofa—ei gariad.—1 Ioan 4:8.

MYFYRIA AR Y FFAITH BOD JEHOFA’N ‘DY GARU DI’

9-10. Beth ydy cyd-destun geiriau Iesu “Mae’r Tad ei hun yn eich caru chi,” yn Ioan 16:​26, 27? (Gweler hefyd y llun.)

9 Gallwn ni ddysgu mwy am gariad Jehofa drwy ystyried geiriau Iesu i’w ddilynwyr: “Mae’r Tad ei hun yn eich caru chi.” (Darllen Ioan 16:​26, 27.) Ni ddywedodd Iesu’r geiriau hynny dim ond i godi calon ei ddisgyblion. Mewn gwirionedd, mae’r cyd-destun yn dangos nad oedd yn trafod eu teimladau ar yr adeg honno. Yn hytrach, roedd yn trafod rhywbeth arall—gweddi.

10 Roedd Iesu wedi dweud wrth ei ddisgyblion y dylen nhw weddïo trwyddo ef ond nid arno ef. (Ioan 16:​23, 24) Roedd yn bwysig iddyn nhw wybod hynny. Ar ôl atgyfodiad Iesu, efallai roedd y disgyblion eisiau gweddïo arno. Wedi’r cwbl, roedden nhw wedi dod i adnabod Iesu fel ffrind. Gallen nhw fod wedi rhesymu byddai ei gariad yn ei gymell i wrando ar eu gweddïau a’u cyflwyno nhw i’r Tad. Ond, dywedodd Iesu na ddylen nhw feddwl felly. Pam? Meddai Iesu: “Mae’r Tad ei hun yn eich caru chi.” Mae’r ffaith honno yn un o ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl am weddi. Ystyria beth mae hynny’n ei olygu i ti: Drwy astudio’r Beibl, rwyt ti wedi dod i adnabod ac i garu Iesu. (Ioan 14:21) Ond yn debyg i ddisgyblion y ganrif gyntaf, gelli di weddïo ar Jehofa yn hyderus, gan wybod bod ef ‘ei hun yn dy garu di.’ Rwyt ti’n dangos dy ffydd yn y geiriau hynny pob tro rwyt ti’n gweddïo ar Jehofa.—1 Ioan 5:14.

Collage: Brawd yn gweddïo yn llawn hyder am dri pheth pwysig yn ei fywyd tra ei fod yn eistedd ar fainc tu allan. 1. Mae ei wraig yn gorwedd yn sâl yn ei gwely wrth iddo ddod â bwyd iddi. 2. Mae ei ferch ifanc yn mwynhau astudio’r Beibl gydag ef. 3. Mae’n edrych dros bentwr o gyfriflenni.

Gelli di weddïo ar Jehofa yn llawn hyder gan wybod ei fod ef ‘ei hun yn y garu di’ (Gweler paragraffau 9-10)b


DEALL O LE MAE AMHEUON YN DOD

11. Pam byddai amau cariad Jehofa yn gwneud Satan yn hapus?

11 O le mae amheuon am gariad Jehofa yn dod? Efallai byddi di’n dweud Satan, ac mae ’na rywfaint o wirionedd i hynny. Mae’r Diafol yn “chwilio am rywun i’w lyncu” a byddai’n wrth ei fodd petasen ni’n amau cariad Jehofa. (1 Pedr 5:8) Wedi’r cwbl, gwnaeth cariad Jehofa Ei gymell i dalu’r pris ar ein cyfer ni—rhywbeth byddai Satan eisiau inni deimlo nad ydyn ni’n ei haeddu. (Heb. 2:9) Ond pwy sy’n elwa os ydyn ni’n amau cariad Jehofa? Satan. Pwy fyddai’n gorfoleddu petasen ni’n gadael i dreialon wneud inni stopio addoli Jehofa? Satan. Mae Satan eisiau inni amau’r ffaith fod Jehofa’n ein caru ni. Ond yn hollol i’r gwrthwyneb, Satan ydy’r un sydd wedi colli cariad Jehofa. Er hynny, un o’i weithredoedd mwyaf “cyfrwys” ydy ceisio gwneud inni deimlo ein bod ninnau wedi colli cariad Jehofa a chael ein condemnio ganddo. (Eff. 6:11) Pan ydyn ni’n sylweddoli beth ydy cynllwyn ein gelyn, gallwn ni fod yn benderfynol o ‘wrthwynebu’r Diafol.’—Iago 4:7.

12-13. Sut gall y cyflwr pechadurus rydyn ni wedi ei etifeddu wneud inni amau cariad Jehofa?

12 O le arall mae amheuon am gariad Jehofa yn dod? Y cyflwr pechadurus rydyn ni wedi ei etifeddu. (Salm 51:5; Rhuf. 5:12) Mae pechod wedi difetha ein perthynas â’n Creawdwr. Mae hefyd wedi niweidio ein meddyliau, ein calonnau, a’n cyrff.

13 Mae pechod yn cael effaith negyddol ar ein hemosiynau ac yn gwneud inni deimlo euogrwydd, pryder, ansicrwydd, a chywilydd. Gallwn ni brofi teimladau o’r fath pan ydyn ni’n pechu. Gallan nhw hefyd godi oherwydd ein bod ni’n wastad yn ymwybodol o’n cyflwr pechadurus—cyflwr sy’n hollol groes i’r ffordd cawson ni ein creu. (Rhuf. 8:​20, 21) Yn union fel mae teiar fflat yn stopio car rhag rhedeg yn iawn, mae amherffeithrwydd yn ein stopio ni rhag cyrraedd ein llawn botensial. Felly does dim syndod ein bod ni’n amau cariad Jehofa ar adegau. Os ydy hynny’n digwydd, dylen ni gofio mai Jehofa ydy’r “Duw mawr a rhyfeddol sy’n . . . dangos cariad ffyddlon tuag at y rhai sy’n ei garu ac sy’n cadw ei orchmynion.”—Neh. 1:5.

14. Sut gall myfyrio ar aberth Iesu ein helpu ni i stopio amau cariad Jehofa? (Rhufeiniaid 5:8) (Gweler hefyd y blwch “Bydda’n Effro i ‘Rym Twyllodrus Pechod.’”)

14 Wrth gwrs, ar adegau gallwn ni deimlo nad ydyn ni’n haeddu cariad Jehofa. A dweud y gwir, dydyn ni ddim yn ei haeddu—dyna beth sy’n gwneud ei gariad mor rhyfeddol. Dydyn ni ddim yn ennill cariad Jehofa drwy beth rydyn ni’n ei wneud. Er hynny, rhoddodd Jehofa ei Fab er mwyn inni gael maddeuant am ein pechodau oherwydd Ei fod yn ein caru ni. (1 Ioan 4:10) Cofia, hefyd, fe ddaeth Iesu i achub pechaduriaid, nid pobl berffaith. (Darllen Rhufeiniaid 5:8.) Dydy Jehofa ddim yn disgwyl inni wneud pethau’n berffaith, byddai hynny’n amhosib inni. Pan ydyn ni’n deall bod ein cyflwr pechadurus yn gallu gwneud inni amau cariad Jehofa, gallwn ni fod yn fwy penderfynol o beidio â gadael i hynny ddigwydd.—Rhuf. 7:​24, 25.

Bydda’n Effro i “Rym Twyllodrus Pechod”

Mae’r Beibl yn sôn am “rym twyllodrus pechod.” (Heb. 3:13) Yn ogystal â’n denu ni i wneud pethau anghywir, gall ein cyflwr pechadurus achosi inni amau cariad Jehofa drwy’r adeg. Yn wir, mae gan bechod “rym twyllodrus.”

Mae’n gyffredin inni feddwl na fydden ni byth yn cael ein twyllo. Er enghraifft, efallai byddwn ni’n credu na fydden ni’n cael ein dal allan gan sgamiau sy’n ceisio dwyn oddi arnon ni. Ond, os nad ydyn ni’n effro i’r math hwn o drosedd, gall gostio llawer inni.

Mewn ffordd debyg, mae’n rhaid inni fod yn effro i adegau pan mae ein cyflwr pechadurus yn ceisio ein “sgamio” ni gan wneud inni gredu nad ydy Jehofa’n ein caru ni. Gall ein cyflwr pechadurus achosi inni feddwl gormod am ein gwendidau, ein gwallau, a’n camgymeriadau. Ond, “rym twyllodrus pechod” sy’n achosi hyn, ac mae’n rhaid inni ei wrthod.

DEWISA I AROS YN FFYDDLON

15-16. Os ydyn ni’n aros yn ffyddlon i Jehofa, o beth gallwn ni fod yn siŵr, a pham? (2 Samuel 22:26)

15 Mae Jehofa eisiau inni wneud y penderfyniad cywir drwy “aros yn ffyddlon iddo.” (Deut. 30:​19, 20) Os ydyn ni’n gwneud hynny, gallwn ni fod yn siŵr bydd ef yn aros yn ffyddlon i ninnau. (Darllen 2 Samuel 22:26.) Cyn belled â’n bod ni’n aros yn ffyddlon i Jehofa, gallwn ni ddibynnu arno’n llwyr i’n helpu ni drwy unrhyw sefyllfa sy’n codi yn ein bywyd.

16 Fel rydyn ni wedi trafod, mae ’na lawer o bethau a all fod yn angor inni wrth wynebu treialon. Rydyn ni’n gwybod bod Jehofa’n ein caru ni ac yn ein cefnogi ni. Dyna beth mae’r Beibl yn ei ddysgu. Os ydyn ni’n amau ei gariad, gallwn ni fyfyrio ar beth rydyn ni’n gwybod sy’n wir yn hytrach nag ar beth rydyn ni’n teimlo sy’n wir. Gad inni barhau i roi ein hyder yn y gwirionedd hwn o’r Beibl: Mae cariad ffyddlon Jehofa yn para hyd byth.

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Sut gallwn ni elwa o ystyried cariad Jehofa yn ddysgeidiaeth sylfaenol y Beibl?

  • Sut gall ein cyflwr pechadurus wneud inni amau cariad Jehofa?

  • Sut gallwn ni ddod dros ein hamheuon am gariad Jehofa?

CÂN 159 Anrhydeddwch Jehofa

a Mae esiamplau eraill yn cynnwys Deuteronomium 31:​8, Salm 94:​14, ac Eseia 49:15.

b DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn gweddïo am help i ofalu am ei wraig sy’n sâl, i ddefnyddio ei arian yn ddoeth, ac i hyfforddi ei ferch i garu Jehofa.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu