LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Hydref tt. 24-29
  • Cofia Weddïo Dros Eraill

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cofia Weddïo Dros Eraill
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • PAM GWEDDÏO DROS ERAILL?
  • MAE ANGEN ARNYN NHW AM EIN GWEDDÏAU
  • WRTH WEDDÏO DROS UNIGOLION
  • AGWEDD GYTBWYS TUAG AT EIN GWEDDÏAU
  • Closio at Dduw Drwy Weddi
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Sut i Wella Dy Weddïau
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Y Fraint o Weddïo
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Nesáu at Dduw Drwy Weddïo
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Hydref tt. 24-29

ERTHYGL ASTUDIO 43

CÂN 41 Plîs Gwrando ar Fy Ngweddi

Cofia Weddïo Dros Eraill

“Gweddïwch dros eich gilydd . . . Mae erfyniad dyn cyfiawn yn cael effaith bwerus.”—IAGO 5:16.

PWRPAS

Pam mae’n bwysig inni weddïo dros eraill a sut gallwn ni wneud hynny.

1. Sut rydyn ni’n gwybod bod ein gweddïau yn bwysig i Jehofa?

MAE gweddi yn rhodd arbennig. Meddylia amdani: Mae Jehofa wedi rhoi aseiniadau penodol i’r angylion. (Salm 91:11) Mae ef hefyd wedi rhoi cyfrifoldebau mawr i’w Fab. (Math. 28:18) Ond pwy sy’n gwrando ar ein gweddïau? Mae Jehofa wedi dewis gwneud hynny ei hun. Mae Jehofa, yr un “sy’n gwrando gweddïau,” yn gwrando arnon ni’n bersonol.—Salm 65:2.

2. Pa esiampl a osododd yr apostol Paul ynglŷn â gweddïo dros eraill?

2 Gallwn ni siarad â Jehofa heb ddal yn ôl wrth sôn am y pethau sy’n bwysig inni, ond dylen ni hefyd weddïo dros eraill. Dyna a wnaeth yr apostol Paul. Er enghraifft, ysgrifennodd at y gynulleidfa yn Effesus, gan ddweud: “Rydw i’n parhau i sôn amdanoch chi yn fy ngweddïau.” (Eff. 1:16) Gweddïodd Paul dros unigolion hefyd. Er enghraifft, fe ddywedodd wrth Timotheus: “Rydw i’n ddiolchgar i Dduw, . . . a dydw i byth yn anghofio sôn amdanat ti yn fy erfyniadau nos a dydd.” (2 Tim. 1:3) Roedd gan Paul ei bryderon ei hun i weddïo amdanyn nhw. (2 Cor. 11:23; 12:​7, 8) Ond, er hynny, fe gymerodd yr amser i weddïo dros eraill.

3. Beth all achosi inni anghofio gweddïo dros eraill?

3 Efallai weithiau byddwn ni’n anghofio gweddïo dros eraill. Pam? Mae un chwaer o’r enw Sabrinaa yn dweud: “Mae bywyd yn y system hon yn hynod o brysur. Gall ein problemau personol dynnu ein sylw gymaint nes ein bod ni’n gweddïo am ein hanghenion ein hunain yn unig.” A wyt ti wedi sylwi ar y tueddiad hwnnw ynot ti dy hun? Os felly, bydd yr erthygl hon yn dy helpu di. Fe fydd (1) yn esbonio pam mae’n bwysig inni weddïo dros eraill, a (2) yn cynnig syniadau ar sut gallwn ni wneud hynny.

PAM GWEDDÏO DROS ERAILL?

4-5. Sut gall ein gweddïau dros eraill gael “effaith bwerus”? (Iago 5:16)

4 Mae gweddïo dros eraill yn cael “effaith bwerus.” (Darllen Iago 5:16.) A all ein gweddïau dros eraill gael unrhyw effaith ar eu sefyllfa? Yn bendant. Gan wybod y byddai’r apostol Pedr yn ei wadu’n fuan, dywedodd Iesu: “Rydw i wedi erfyn drostot ti er mwyn i dy ffydd di beidio â gwanhau.” (Luc 22:32) Roedd Paul hefyd yn gwybod bod gweddi’n gallu gwneud gwahaniaeth. Pan gafodd ei garcharu’n annheg yn Rhufain, ysgrifennodd at Philemon: ‘Rydw i’n gobeithio y bydda i, drwy gyfrwng eich gweddïau, yn gallu dod yn ôl atoch chi.’ (Philem. 22; gweler y nodyn astudio “for I am hoping that through your prayers.”) A dyna ddigwyddodd, yn fuan wedyn cafodd Paul ei ryddhau ac roedd yn gallu ailafael yn ei waith pregethu.

5 Wrth gwrs, dydy gweddïo ar Jehofa ddim yn golygu ein bod ni’n gallu rhoi pwysau arno i weithredu. Mae’n sylwi ar sut mae ei weision yn teimlo, ac ar adegau mae’n dewis gwneud yr hyn maen nhw’n gofyn amdano. Gall gwybod hyn ein helpu ni i weddïo’n daer ar Jehofa ynglŷn ag unrhyw sefyllfa ac i adael y mater yn ei ddwylo ef yn hyderus.—Salm 37:5; gweler 2 Corinthiaid 1:11 a’r nodiadau astudio.

6. Sut gall gweddïo dros eraill effeithio ar sut rydyn ni’n teimlo amdanyn nhw? (1 Pedr 3:8)

6 Mae gweddïo dros eraill yn ein helpu ni i feithrin “tosturi tyner.” (Darllen 1 Pedr 3:8.) Mae rhywun tosturiol yn sylwi ar ddioddefaint rhywun arall ac eisiau gwneud rhywbeth i’w helpu. (Marc 1:​40, 41) Dywedodd henuriad o’r enw Michael: “Pan ydw i’n gweddïo dros eraill a’u hanghenion, rydw i’n fwy ymwybodol o’r heriau maen nhw’n eu hwynebu, ac mae hynny’n gwneud imi eu caru nhw’n fwy byth. Rydw i’n teimlo’n agosach atyn nhw, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gwybod hynny.” Gwnaeth henuriad o’r enw Richard sôn am fantais arall. Dywedodd: “Pan ydyn ni’n gweddïo dros rywun, rydyn ni’n fwy tebygol o wneud rhywbeth i’w helpu.” Aeth ymlaen i ddweud: “Pan ydyn ni’n cynnig help ymarferol i’r person rydyn ni’n gweddïo drosto, rydyn ni, mewn ffordd, yn helpu i ateb ein gweddi.”

7. Sut gall gweddïo dros eraill ein helpu i gael agwedd gytbwys tuag at ein problemau ein hunain? (Philipiaid 2:​3, 4) (Gweler hefyd y lluniau.)

7 Mae gweddïo dros eraill yn ein helpu i weld ein problemau ein hunain o’r safbwynt cywir. (Darllen Philipiaid 2:​3, 4.) Mae pob un ohonon ni’n wynebu heriau am ein bod ni’n byw mewn byd sydd o dan reolaeth y Diafol. (1 Ioan 5:19; Dat. 12:12) Pan fyddwn ni’n gweddïo dros eraill yn aml, byddwn ni’n cofio “bod yr holl frawdoliaeth drwy’r byd i gyd yn dioddef yr un math o bethau.” (1 Pedr 5:9) Dywedodd arloeswraig o’r enw Katherine: “Mae gweddïo dros eraill yn fy atgoffa bod eraill yn wynebu heriau hefyd. Mae cofio hyn yn fy helpu i beidio â chanolbwyntio gormod ar fy mhroblemau fy hun.”

Collage: Brodyr a chwiorydd yn gweddïo dros eraill er bod ganddyn nhw eu problemau eu hunain. 1. Mae merch fach yn eistedd lan yn ei gwely ac yn gweddïo; mae’r llun bach yn dangos teulu mewn cwch yn ffoi oddi wrth eu tŷ sydd wedi ei ddifetha gan lifogydd. 2. Mae’r teulu o’r llun cynt yn gweddïo gyda’i gilydd; mae’r llun bach yn dangos brawd yn y carchar. 3. Mae’r brawd yn y carchar o’r llun cynt yn gweddïo mewn cell; mae’r llun bach yn dangos chwaer hŷn yn gorwedd mewn gwely yn yr ysbyty. 4. Mae’r chwaer o’r llun cynt yn gweddïo; mae’r llun bach yn dangos y ferch fach o’r llun cyntaf yn eistedd ar ei phen ei hun mewn dosbarth wrth i’r plant eraill ddathlu parti pen blwydd.

Mae gweddïo dros eraill yn ein helpu i weld ein problemau ein hunain o’r safbwynt cywir (Gweler paragraff 7)d


MAE ANGEN ARNYN NHW AM EIN GWEDDÏAU

8. Pwy gallwn ni ei gynnwys yn ein gweddïau? Rho enghreifftiau.

8 Pwy gallwn ni ei gynnwys yn ein gweddïau? Gallwn ni weddïo dros grwpiau o bobl—er enghraifft, y rhai sydd â phroblemau iechyd, y rhai ifanc sy’n cael eu gwawdio yn yr ysgol ac yn wynebu pwysau gan gyfoedion, neu’r rhai sy’n dioddef oherwydd henaint. Mae llawer o’n brodyr a’n chwiorydd yn profi gwrthwynebiad, naill ai gan aelodau o’r teulu neu gan lywodraethau. (Math. 10:​18, 36; Act. 12:5) Mae rhai o’n brodyr wedi gorfod ffoi o’u cartrefi oherwydd gwrthdaro gwleidyddol. Mae eraill yn dioddef o ganlyniad i drychinebau naturiol. Efallai nad ydyn ni’n adnabod y brodyr a’r chwiorydd hyn yn bersonol, ond pan ydyn ni’n gweddïo drostyn nhw, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n dilyn gorchymyn Iesu i ‘garu ein gilydd.’—Ioan 13:34.

9. Pam dylen ni weddïo dros y rhai sy’n cymryd y blaen yng nghyfundrefn Jehofa yn ogystal â’u gwragedd?

9 Gallwn ni hefyd weddïo dros y rhai sy’n cymryd y blaen yng nghyfundrefn Jehofa. Mae hyn yn cynnwys y Corff Llywodraethol a’i helpwyr, Pwyllgorau Cangen, arolygwyr mewn swyddfeydd cangen, arolygwyr cylchdaith, henuriaid y gynulleidfa, a gweision y gynulleidfa. Mae llawer o’r brodyr hyn yn delio â’u pryderon eu hunain wrth iddyn nhw weithio’n galed i’n helpu ni. (2 Cor. 12:15) Er enghraifft, dywedodd arolygwr cylchdaith o’r enw Mark: “Mae bod ymhell i ffwrdd o fy rhieni oedrannus yn un o’r heriau mwyaf i mi. Mae gan y ddau ohonyn nhw broblemau iechyd. Er bod fy chwaer a’i gŵr yn gofalu amdanyn nhw, mae’n gas gen i nad ydw i’n gallu bod yno i’w helpu nhw’n fwy.” P’un a ydyn ni’n gwybod pa bryderon mae’r brodyr gweithgar hyn yn eu hwynebu neu beidio, mae’n beth da inni eu cadw nhw yn ein gweddïau. (1 Thes. 5:​12, 13) Gallwn ni hefyd weddïo dros wragedd y brodyr hyn, oherwydd bod eu cariad ffyddlon nhw yn helpu eu gwŷr i ddal ati yn eu haseiniadau.

10-11. A ydy gweddïo dros grwpiau o frodyr a chwiorydd yn plesio Jehofa? Esbonia.

10 Fel rydyn ni wedi trafod, rydyn ni’n aml yn gweddïo dros grwpiau o frodyr a chwiorydd. Er enghraifft, heb feddwl am unrhyw un yn benodol, gallwn ni ofyn am i Jehofa helpu’r rhai sydd yn y carchar, neu iddo gysuro’r rhai sydd wedi colli anwylyn. Mae henuriad o’r enw Donald yn dweud, “Mae cymaint o’n brodyr a’n chwiorydd yn wynebu heriau, ac weithiau rydyn ni’n gofyn gweddi sydd fel ‘ymbarél’ i gynnwys pawb sy’n dioddef.”

11 A ydy gweddïau o’r fath yn plesio Jehofa? Wrth gwrs eu bod nhw! Wedi’r cwbl, dydyn ni ddim yn gwybod am anghenion penodol ein brodyr a’n chwiorydd i gyd, felly mae’n addas inni weddïo dros grwpiau o’n brodyr a’n chwiorydd. (Ioan 17:20; Eff. 6:18) Mae gweddïau o’r fath yn dangos ein bod ni’n ‘caru’r holl frawdoliaeth.’—1 Pedr 2:17.

WRTH WEDDÏO DROS UNIGOLION

12. Sut gall talu sylw ein helpu ni i fod yn fwy penodol yn ein gweddïau?

12 Tala sylw. Yn ogystal â gweddïo dros grwpiau o frodyr a chwiorydd, mae’n briodol i ddefnyddio enwau unigolion wrth weddïo. A ydy rhywun yn dy gynulleidfa di yn brwydro salwch hir dymor? A ydy rhywun ifanc yn ddigalon, efallai oherwydd pwysau mae’n ei wynebu yn yr ysgol? A ydy rhiant sengl yn gweithio’n galed i fagu plentyn “yn nisgyblaeth a hyfforddiant Jehofa”? (Eff. 6:4) Drwy fod yn effro i bethau o’r fath, gelli di feithrin mwy o gariad a chydymdeimlad tuag at eraill, a bydd hynny’n dy gymell di i weddïo drostyn nhw.b—Rhuf. 12:15.

13. Sut gallwn ni weddïo dros y rhai nad ydyn ni’n eu hadnabod yn bersonol?

13 Wrth iti weddïo dros eraill, defnyddia eu henwau. Gallwn ni wneud hyn hyd yn oed os nad ydyn ni wedi cwrdd â nhw. Er enghraifft, meddylia am y brodyr a’r chwiorydd sydd wedi eu carcharu mewn llefydd fel Crimea, Eritrea, Rwsia, a Singapore. Gelli di ddod o hyd i enwau’r brodyr a’r chwiorydd hyn ar jw.org.c Dywedodd arolygwr cylchdaith o’r enw Brian: “Rydw i’n gwneud nodyn o enw brawd neu chwaer sydd yn y carchar ac yn ei ddweud yn uchel er mwyn cofio’r person hwnnw a sôn amdano yn fy ngweddïau personol.”

14-15. Sut gallwn ni fod yn benodol yn ein gweddïau?

14 Bydda’n benodol yn dy weddïau. Mae Michael, a gafodd ei ddyfynnu ynghynt, yn awgrymu: “Wrth imi ddarllen ar jw.org am ein brodyr sydd wedi eu carcharu, rydw i’n trio dychmygu sut byddwn i’n teimlo petaswn i yn eu sefyllfa nhw. Rydw i’n gwybod y byddwn i’n poeni am fy ngwraig, ac eisiau sicrhau bod rhywun yn gofalu amdani. Felly mae hynny’n rhoi rhywbeth penodol imi sôn amdano pan ydw i’n gweddïo dros ein brodyr priod sydd yn y carchar.”—Heb. 13:​3, tdn.

15 Os ydyn ni’n dychmygu’r heriau mae ein brodyr sydd yn y carchar yn eu hwynebu, gallwn ni feddwl am fwy o bethau i weddïo amdanyn nhw. Er enghraifft, gallwn ni weddïo y bydd swyddogion y carchar yn eu trin nhw’n garedig, a gweddïo y bydd y rhai mewn awdurdod yn rhoi i’n brodyr mwy o ryddid i addoli. (1 Tim. 2:​1, 2) Gallwn ni weddïo y bydd cynulleidfa brawd sydd yn y carchar yn cael ei chalonogi gan ei esiampl ffyddlon. Neu gallwn ni weddïo y bydd un o swyddogion y carchar yn sylwi ar ymddygiad da’r carcharor ac yn gwrando ar ein neges. (1 Pedr 2:12) Wrth gwrs, bydd yr un egwyddorion yn ein helpu ni wrth inni weddïo dros ein brodyr a’n chwiorydd sy’n wynebu heriau gwahanol. Drwy dalu sylw, defnyddio enwau personol wrth weddïo, a bod yn benodol yn ein gweddïau, gallwn ni ddangos ein bod ni’n ‘gorlifo yn ein cariad tuag at ein gilydd.’—1 Thes. 3:12.

AGWEDD GYTBWYS TUAG AT EIN GWEDDÏAU

16. Sut gallwn ni gadw agwedd gytbwys tuag at ein gweddïau? (Mathew 6:8)

16 Fel rydyn ni wedi gweld, gall ein gweddïau gael effaith ar sefyllfa rhywun arall. Ond mae’n rhaid inni gadw agwedd gytbwys. Pan ydyn ni’n gweddïo am rywbeth, dylen ni gofio bod Jehofa’n ymwybodol o bopeth yn barod. Hefyd, dylen ni beidio ag awgrymu’r ffordd orau iddo ddelio â’r sefyllfa. Mae Jehofa’n gwybod beth sydd ei angen ar ei weision, hyd yn oed cyn iddyn nhw—neu ni—fod yn ymwybodol ohono. (Darllen Mathew 6:8.) Felly pam dylen ni weddïo dros eraill o gwbl? Yn ogystal â’r rhesymau rydyn ni wedi eu trafod yn yr erthygl hon, mae’n ffordd inni ddangos ein cariad tuag at eraill. Mae cariad yn ein cymell ni i weddïo dros ein gilydd, ac mae Jehofa wrth ei fodd yn gweld ei weision yn efelychu ei gariad.

17-18. Eglura effaith ein gweddïau dros ein cyd-addolwyr.

17 Hyd yn oed os nad yw’n ymddangos bod ein gweddïau wedi effeithio ar sefyllfa un o’n brodyr neu’n chwiorydd, mae’n dangos faint rydyn ni’n ei garu, ac mae Jehofa’n sylwi ar hynny. Gallwn ni ei egluro fel hyn: Dychmyga deulu sydd â dau blentyn bach—mab a merch. Mae’r bachgen yn sâl yn ei wely. Mae’r ferch yn erfyn ar ei thad: “Plîs gwna rywbeth i helpu fy mrawd, mae’n hynod o sâl!” Mae’r tad yn delio â’r sefyllfa yn barod; mae’n caru ei fab ac yn gofalu’n dda amdano. Ond dychmyga pa mor hapus ydy’r tad o weld bod ei ferch fach yn caru ei brawd gymaint nes ei bod hi’n erfyn ar ei thad i’w helpu.

18 Dyna beth mae Jehofa’n ein hannog ni i’w wneud—i garu ein gilydd a gweddïo dros eraill. Wrth inni wneud hyn, bydd ein gweddïau’n dangos ein cariad anhunanol tuag at eraill, ac mae Jehofa’n sylwi ar hynny. (2 Thes. 1:3; Heb. 6:10) Hefyd, fel rydyn ni wedi trafod, mewn rhai achosion gall ein gweddïau wneud gwahaniaeth i sefyllfa rhywun arall. Felly gad inni wneud ein gorau glas i gofio gweddïo dros eraill.

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Ym mha ffordd gall ein gweddïau gael “effaith bwerus”?

  • Pam dylen ni weddïo dros grwpiau o frodyr a chwiorydd?

  • Sut gallwn ni fod yn fwy penodol wrth weddïo dros unigolion?

CÂN 101 Cydweithio Mewn Undod

a Newidiwyd rhai enwau.

b Gweler y fideo ar jw.org Takeshi Shimizu: Jehofa Sy’n “Gwrando Gweddïau.”

c I ddod o hyd i enwau ein brodyr a’n chwiorydd sydd yn y carchar, chwilia am “Jehovah’s Witnesses Imprisoned for Their Faith—By Location” ar jw.org.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brodyr a chwiorydd sy’n wynebu eu problemau eu hunain yn gweddïo dros eraill.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu