ERTHYGL ASTUDIO 42
CÂN 44 Gweddi’r Un Mewn Angen
Sut i Wella Dy Weddïau
“Dw i’n gweiddi arnat ti o waelod calon! ‘Ateb fi, ARGLWYDD.’”—SALM 119:145.
PWRPAS
Dysgu o weddïau sydd wedi eu cofnodi yn y Beibl, er mwyn ein helpu ni i wella ein gweddïau.
1-2. (a) Beth all ein dal ni’n ôl rhag agor i fyny i Jehofa? (b) Sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa’n gwrando’n astud ar ein gweddïau?
A WYT ti weithiau’n teimlo bod dy weddïau wedi troi’n ailadroddus ac yn arwynebol? Os felly, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Rydyn ni’n byw bywydau prysur, felly mae’n ddigon hawdd inni ruthro trwy ein gweddïau. Neu efallai ein bod ni’n ei chael hi’n anodd agor i fyny i Jehofa oherwydd nad ydyn ni’n teimlo’n ddigon da i droi ato.
2 Mae’r Beibl yn dangos nad ydy gweddïau hirwyntog a blodeuog yn bwysig i Jehofa, ond gweddïau sy’n dod o galon ostyngedig. Mae’n clywed “cais y rhai addfwyn.” (Salm 10:17, NWT) Mae’n gwrando’n astud ar bob gair am fod ganddo wir ddiddordeb ynon ni.—Salm 139:1-3.
3. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hystyried yn yr erthygl hon?
3 Gallwn ni ofyn: Pam gallwn ni weddïo’n hyderus? Sut gallwn ni wella ein gweddïau? Sut gall myfyrio ar weddïau yn y Beibl ein helpu ni i wella ein gweddïau? A beth gallwn ni ei wneud os ydyn ni mor ddigalon fel na allwn ni leisio ein teimladau? Gad inni drafod yr atebion.
GWEDDÏA’N HYDERUS AR JEHOFA
4. Beth all ein helpu ni i fod yn hyderus wrth droi at Jehofa mewn gweddi? (Salm 119:145)
4 Unwaith inni ddeall bod Jehofa’n ffrind ffyddlon sydd eisiau inni lwyddo, byddwn ni’n teimlo’n ddigon cyfforddus i droi ato mewn gweddi. Dyna’r math o berthynas agos roedd ysgrifennwr Salm 119 yn ceisio ei gael â Jehofa. Doedd ei fywyd ddim yn hawdd. Roedd dynion twyllodrus yn lledu celwyddau amdano. (Salm 119:23, 69, 78) Ac roedd rhaid iddo hefyd wynebu ei amherffeithion ei hun. (Salm 119:5) Er hynny, roedd yn teimlo’n ddigon cyfforddus i agor ei galon i Jehofa.—Darllen Salm 119:145.
5. Pam na ddylen ni ganiatáu i deimladau negyddol ein rhwystro ni rhag gweddïo? Eglura.
5 Mae Jehofa’n gwahodd pawb i weddïo arno, hyd yn oed rhai sydd wedi gwneud camgymeriadau difrifol. (Esei. 55:6, 7) Felly ni ddylen ni adael i deimladau negyddol ein dal ni’n ôl rhag gweddïo. Er enghraifft: Mae peilot yn gwybod ei fod yn gallu cyfathrebu â rheolwyr traffig awyr os oes angen help arno. A ddylai ddal yn ôl rhag cysylltu â nhw oherwydd teimlo cywilydd am fynd ar goll neu am wneud camgymeriad? Wrth gwrs ddim! Mewn ffordd debyg, hyd yn oed os ydyn ni weithiau’n teimlo ein bod ni ar goll neu wedi pechu, gallwn ni fod yn hyderus wrth droi at Jehofa mewn gweddi.—Salm 119:25, 176.
SUT I WELLA DY WEDDÏAU
6-7. Sut gall myfyrio ar rinweddau Jehofa ein helpu ni i fynegi ein teimladau iddo? Rho enghraifft. (Gweler hefyd y troednodyn.)
6 Pan fyddwn ni’n siarad yn agored â Jehofa ac yn rhannu ein gwir feddyliau a’n teimladau dyfnaf, byddwn ni’n agosáu ato. Felly sut gallwn ni wneud hynny?
7 Myfyria ar rinweddau Jehofa.a Mwya’n y byd rydyn ni’n myfyrio ar ei rinweddau, mwya’n y byd byddwn ni’n gallu mynegi ein teimladau heb ddal yn ôl. (Salm 145:8, 9, 18) Ystyria esiampl Kristine, chwaer a oedd â thad treisgar. Dywedodd hi: “Doedd meddwl am Jehofa fel Tad ddim yn hawdd imi. Roeddwn i’n meddwl byddai fy amherffeithion yn gwneud iddo gefnu arna i.” Pa un o rinweddau Jehofa wnaeth ei helpu? Dywedodd hi: “Mae cariad ffyddlon Jehofa yn gwneud imi deimlo’n saff. Rydw i’n gwybod bydd ef yn wastad yn gafael yn fy llaw. Hyd yn oed os ydw i’n syrthio, bydd ef yn dal i fy ngharu i a fy nghodi i’n ôl ar fy nhraed. Mae hyn yn fy helpu i fynegi fy llawenydd mwyaf iddo, yn ogystal â fy mhryderon dyfnaf.”
8-9. Beth yw rhai o’r manteision o feddwl am beth i’w ddweud cyn gweddïo? Eglura.
8 Meddylia am beth i’w ddweud. Cyn gweddïo, gallet ti ofyn cwestiynau fel hyn i ti dy hun: ‘Pa broblemau penodol rydw i’n eu hwynebu ar hyn o bryd? A oes ’na rywun mae angen imi faddau iddo? A ydw i’n wynebu her newydd na alla i ei threchu heb help Jehofa?’ (2 Bren. 19:15-19) Gallwn ni hefyd ddilyn esiampl Iesu drwy feddwl am beth gallwn ni ei ddweud ynglŷn ag enw Jehofa, Ei Deyrnas, a’i ewyllys.—Math. 6:9, 10.
9 Pan ddysgodd chwaer o’r enw Aliska na fyddai ei gŵr yn byw yn hir oherwydd canser yr ymennydd, roedd yn anodd iddi weddïo. Wrth gofio’n ôl, meddai hi: “Roeddwn i mewn cymaint o helbul roedd hi’n anodd imi feddwl yn glir, heb sôn am weddïo.” Beth helpodd hi? Mae hi’n dweud: “Rydw i’n cymryd eiliad cyn gweddïo i gael trefn ar fy meddyliau, ac mae hyn yn fy helpu i wneud yn siŵr nad ydw i’n canolbwyntio arna i fy hun yn unig wrth weddïo. Trwy wneud hynny, rydw i’n teimlo bod gen i heddwch mewnol a meddwl cliriach wrth weddïo.”
10. Pam dylen ni gymryd ein hamser wrth weddïo? (Gweler hefyd y lluniau.)
10 Paid â rhuthro wrth weddïo. Er gall gweddïau byr fod yn werthfawr, rydyn ni’n fwy tebygol o fynegi ein teimladau pan fyddwn ni’n cymryd ein hamser.b Mae Elijah, gŵr Aliska, yn dweud: “Rydw i’n trio gweddïo’n aml yn ystod y dydd, ac rydw i wedi agosáu at Jehofa drwy gymryd yr amser i siarad â Jehofa’n hirach. Rydw i’n teimlo y galla i wneud hynny oherwydd dydy Jehofa ddim yn disgwyl yn ddiamynedd imi orffen gweddïo.” Tria hyn, ceisia ddod o hyd i amser a lleoliad sy’n caniatáu iti weddïo, efallai hyd yn oed yn uchel, heb i unrhyw beth dynnu dy sylw. Tria ddod i’r arfer o gymryd dy amser wrth weddïo.
Ceisia ddod o hyd i amser a lleoliad sy’n caniatáu iti weddïo heb i unrhyw beth dynnu dy sylw (Gweler paragraff 10)
MYFYRIA AR WEDDÏAU TAER O’R BEIBL
11. Pa fanteision sy’n dod o fyfyrio ar weddïau taer o’r Beibl? (Gweler hefyd y blwch “A Wyt Ti’n Teimlo’r Un Fath?”)
11 Beth am fyfyrio ar weddïau taer, caneuon o fawl, neu salmau o’r Beibl? Wrth iti ystyried sut mae gweision Duw wedi mynegi eu meddyliau dyfnaf, bydd hyn yn dy gymell di i agor dy galon i Jehofa. Efallai byddi di hefyd yn dod ar draws ffyrdd newydd o fynegi dy hun mewn gweddi. Ac mae’n debyg byddi di hefyd yn dod ar draws gweddïau sy’n berthnasol i dy amgylchiadau di.
12. Pa gwestiynau gallwn ni eu gofyn i ni’n hunain wrth inni fyfyrio ar weddïau o’r Beibl?
12 Wrth iti ddarllen gweddïau o’r Beibl, gofynna i ti dy hun: ‘Pwy sy’n siarad ac o dan ba amgylchiadau? A alla i uniaethu â’r hyn maen nhw’n ei ddweud? Pa wersi galla i eu dysgu o’r weddi hon?’ Efallai bydd rhaid iti wneud mwy o ymchwil i ateb y cwestiynau hyn, ond mae’n werth yr ymdrech. Ystyria rai enghreifftiau.
13. Beth gallwn ni ei ddysgu o weddi Hanna? (1 Samuel 1:10, 11) (Gweler hefyd y llun.)
13 Darllen 1 Samuel 1:10, 11. Pan ofynnodd Hanna y weddi hon, roedd hi’n wynebu dwy broblem fawr yn ei bywyd. Roedd hi’n methu cael plant ac roedd gwraig arall ei gŵr yn ei phryfocio’n ddi-baid. (1 Sam. 1:4-7) Os wyt ti hefyd yn wynebu her sy’n gwneud bywyd yn anodd iti, beth gelli di ei ddysgu o weddi Hanna? Cymerodd hi’r amser i agor ei chalon i Jehofa, a chafodd hi gysur o wneud hynny. (1 Sam. 1:12, 18) Gallwn ninnau hefyd gael cysur o ‘roi ein beichiau trwm i’r ARGLWYDD’ drwy ddisgrifio yn union sut rydyn ni’n teimlo am y problemau rydyn ni’n eu hwynebu.—Salm 55:22.
Doedd Hanna ddim yn gallu cael plant, ac roedd gwraig arall ei gŵr yn ei gwawdio’n ddi-baid. Felly, tywalltodd ei chalon o flaen Jehofa. (Gweler paragraff 13)
14. (a) Beth arall gallwn ni ei ddysgu o esiampl Hanna? (b) Sut gallwn ni gyfoethogi ein gweddïau drwy fyfyrio ar Air Duw? (Gweler y troednodyn.)
14 Rai blynyddoedd ar ôl i’w mab Samuel gael ei eni, aeth Hanna ag ef at yr archoffeiriad Eli. (1 Sam. 1:24-28) Mewn gweddi daer, gwnaeth hi fynegi pa mor sicr oedd hi fod Jehofa’n gofalu am ei weision ffyddlon.c (1 Sam. 2:1, 8, 9) Efallai nad oedd y problemau roedd hi’n eu hwynebu yn ei chartref wedi diflannu, ond gwnaeth Hanna ganolbwyntio ar sut roedd Jehofa wedi ei bendithio. Beth yw’r wers i ni? Os ydyn ni’n canolbwyntio ar sut mae Jehofa eisoes wedi ein helpu ni, fe fydd hi’n haws inni wynebu heriau bywyd.
15. Pan ydyn ni’n wynebu anghyfiawnder, beth gallwn ni ei ddysgu o weddi’r proffwyd Jeremeia? (Jeremeia 12:1)
15 Darllen Jeremeia 12:1. Ar un adeg yn ei fywyd, roedd y proffwyd Jeremeia yn digalonni oherwydd iddo weld y rhai drwg yn llwyddo. Roedd y ffordd roedd yr Israeliaid eraill yn ei drin hefyd yn effeithio arno. (Jer. 20:7, 8) Rydyn ninnau hefyd wedi bod yn destun sbort ac wedi gweld pobl ddrwg yn llwyddo, felly gallwn ni gydymdeimlo â Jeremeia. Ond er iddo fynegi ei rwystredigaeth, ni wnaeth gwestiynu gyfiawnder Duw. Wrth iddo weld Jehofa’n disgyblu Ei bobl wrthryfelgar, mae’n debyg bod hynny wedi codi ei hyder yng nghyfiawnder Duw. (Jer. 32:19) Gallwn ninnau hefyd siarad yn gwbl agored â Jehofa mewn gweddi, yn hollol hyderus y bydd ef, yn ei amser ei hun, yn cywiro unrhyw anghyfiawnder rydyn ni’n ei wynebu nawr.
16. Beth gallwn ni ei ddysgu o weddi’r Lefiad? (Salm 42:1-4) (Gweler hefyd y lluniau.)
16 Darllen Salm 42:1-4. Cafodd y gân hon ei hysgrifennu gan Lefiad nad oedd yn gallu mynd i’r deml i addoli gyda’r Israeliaid eraill. Mae ei salm yn datgelu sut roedd yn teimlo ac efallai gallwn ni gydymdeimlo ag ef os ydyn ni’n gaeth i’n cartref neu yn y carchar oherwydd ein ffydd. Efallai bydd ein hemosiynau yn mynd i fyny ac i lawr, ond mae’n beth da inni weddïo ar Jehofa ni waeth sut rydyn ni’n teimlo. Gall hyn ein helpu ni i ddeall ein meddyliau ein hunain a chael ychydig o bersbectif. Er enghraifft, sylweddolodd y Lefiad fod ei amgylchiadau yn rhoi cyfleoedd newydd iddo foli Jehofa. (Salm 42:5) Gwnaeth ef hefyd fyfyrio ar sut roedd Jehofa’n gofalu amdano. (Salm 42:8) Drwy weddïo’n daer ar Dduw, gallwn ni ddeall ein teimladau yn well a chael heddwch mewnol unwaith eto, yn ogystal â’r nerth i ddyfalbarhau.
Fe wnaeth y Lefiad a ysgrifennodd Salm 42 dywallt ei galon o flaen Jehofa. Pan ydyn ni’n mynegi ein teimladau mewn gweddi, gallwn ni gael safbwynt gwell o’n sefyllfa. (Gweler paragraff 16)
17. (a) Beth gallwn ni ei ddysgu o weddi’r proffwyd Jona? (Jona 2:1, 2) (b) Sut gall y Salmau ein helpu ni yn ystod cyfnodau anodd? (Gweler y troednodyn.)
17 Darllen Jona 2:1, 2. Gofynnodd Jona’r weddi hon pan oedd ym mol pysgodyn mawr. Er iddo fod yn anufudd i Jehofa, roedd Jona yn sicr y byddai Duw’n clywed ei lais. Yn ei weddi, cyfeiriodd Jona yn aml iawn at y Salmau.d Mae’n debyg ei fod yn gyfarwydd iawn â nhw. Drwy fyfyrio arnyn nhw, roedd yn gwbl hyderus y byddai Jehofa’n ei helpu. Mewn ffordd debyg, os ydyn ni’n gwneud ymdrech i gofio rhai adnodau o’r Beibl, efallai byddan nhw’n dod i’r meddwl ac yn ein cysuro ni wrth inni weddïo ar Jehofa yn ystod cyfnodau anodd.
DAL ATI I AGOSÁU AT JEHOFA MEWN GWEDDI
18-19. Os ydyn ni weithiau yn cael trafferth lleisio ein teimladau mewn gweddi, pa gysur gallwn ni ei gael o Rhufeiniaid 8:26, 27? Rho enghraifft.
18 Darllen Rhufeiniaid 8:26, 27. Pan fydd pryderon yn ein llethu, gall fod yn anodd mynegi sut rydyn ni’n teimlo. Ond dydyn ni ddim ar ein pennau’n hunain. Ar adegau o’r fath, mae ysbryd glân Duw yn “ymbil droston ni.” Sut felly? Defnyddiodd Jehofa ei ysbryd i wneud yn siŵr bod llawer o weddïau wedi eu cofnodi yn ei Air. Pan nad ydyn ni’n gallu mynegi ein teimladau, mae Jehofa’n gallu derbyn ymadroddion o’r gweddïau hynny fel petasen nhw’n dod oddi wrthon ni, ac yna eu hateb nhw.
19 Gwnaeth hyn helpu chwaer o Rwsia o’r enw Yelena. Cafodd Yelena ei harestio am weddïo a darllen y Beibl, ac roedd hi o dan gymaint o straen nes ei bod hi’n ei chael hi’n anodd gweddïo. Mae hi’n dweud: “Pan oeddwn i wedi fy llethu a heb y geiriau i weddïo, cofiais fod Jehofa’n derbyn gweddïau ei weision o’r gorffennol fel petasen nhw’n dod oddi wrtho i. Roedd hyn yn gysur mawr imi yn ystod cyfnod hynod o anodd.”
20. Sut gallwn ni baratoi ein meddwl i weddïo pan ydyn ni o dan straen?
20 Pan ydyn ni’n bryderus neu o dan straen, gall fod yn anodd inni ganolbwyntio wrth weddïo. Er mwyn paratoi ein meddwl, gallwn ni wrando ar recordiadau sain o’r Salmau, neu eu darllen yn uchel. Gallwn ni hefyd drio rhoi ein teimladau i lawr ar bapur, fel gwnaeth y Brenin Dafydd. (Salm. 18, 34, 142; uwchysgrifau.) Wrth gwrs, does ’na ddim rheolau pendant ar sut dylen ni baratoi ein hunain cyn gweddïo. (Salm 141:2) Gwna beth sydd orau i ti.
21. Pam gallwn ni weddïo o waelod calon?
21 Mae’n gysur i wybod bod Jehofa’n deall ein teimladau cyn inni hyd yn oed ddweud gair. (Salm 139:4) Ond eto, mae wrth ei fodd yn gwrando arnon ni’n mynegi ein hyder ynddo. Felly paid â dal yn ôl rhag gweddïo ar dy Dad nefol. Defnyddia ymadroddion o’r gweddïau sydd yn ei Air. Gweddïa o waelod calon. Rhanna dy lawenydd a dy bryderon ag ef. Bydd Jehofa, dy Ffrind gorau, yno iti bob amser!
CÂN 45 Myfyrdod Fy Nghalon
a Ystyria “Rhai o rinweddau arbennig Jehofa” sy’n cael eu sôn amdanyn nhw yn Adnodau ar Gyfer Bywyd Cristnogol o dan y pwnc “Jehofa.”
b Fel arfer, mae gweddïau sy’n cael eu gofyn ar ran y gynulleidfa yn weddol fyr.
c Yn ei gweddi, dywedodd Hanna bethau tebyg i’r hyn roedd Moses wedi eu hysgrifennu. Mae’n amlwg ei bod hi wedi cymryd yr amser i fyfyrio ar yr Ysgrythurau. (Deut. 4:35; 8:18; 32:4, 39; 1 Sam. 2:2, 6, 7) Ganrifoedd wedyn, dywedodd Mair, mam Iesu, bethau tebyg i Hanna.—Luc 1:46-55.
d Er enghraifft, cymhara Jona 2:3-9 â Salm 69:1; 16:10; 30:3; 142:2, 3; 143:4, 5; 18:6; a 3:8 yn yr un drefn a ddefnyddiodd Jona.