Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol
Annwyl Frodyr a Chwiorydd
Cydnabyddodd y proffwyd Eseia fod yr unig reswm i Deyrnas Jwda lwyddo oedd iddi gael ei bendithio gan Jehofa. Fel y darllenwn yn Eseia 26:12, datganodd: “O ARGLWYDD! Ti wedi rhoi heddwch perffaith i ni; ti sydd wedi cyflawni’r cwbl ar ein rhan!” Pan edrychwn yn ôl ar bopeth sydd wedi cael ei gyflawni yn ystod y flwyddyn wasanaeth ddiwethaf, down i’r un casgliad. Mae Jehofa yn gwneud “pethau rhyfeddol does neb yn unman wedi eu dychmygu o’r blaen.” (Ex. 34:10) Atgoffwch eich hunain o’r bendithion sydd wedi dod ganddo.
Mae ein gwefan, jw.org, wedi cael ei defnyddio mewn ffordd ryfeddol. Erbyn hyn mae’r wefan ar gael mewn dros 600 o ieithoedd, ac mae’n bosibl darllen cyhoeddiadau a’u lawrlwytho mewn dros 750 o ieithoedd. Pa mor effeithiol yw’r wefan fel ffordd o gyflwyno’r gwirionedd i bobl ddiffuant? Ystyriwch: Roedd cwpl priod wedi cael eu dadrithio gan grefydd oherwydd y rhagrith a welon nhw. Wrth iddyn nhw chwilio am arweiniad ysbrydol, daethon nhw ar draws ein gwefan. Ymwelon nhw’n gyson â’r wefan i ddarllen erthyglau o’n cyhoeddiadau ac i wylio fideos. Fe wnaethon nhw hyd yn oed lawrlwytho’r llyfryn Chwilio’r Ysgrythurau a dechreuon nhw ddarllen testun y dydd gyda’u plant, y ddau yn eu harddegau. Ac roedden nhw wrthi’n gwneud hynny y bore y galwodd Tystion Jehofa ar eu drws. Dysgodd y Tystion fod y teulu wedi ymweld â’r wefan ac o ganlyniad i hynny roedd y teulu wedi gwneud llawer o newidiadau. Roedden nhw wedi cael gwared o’u tatŵs, rhoi’r gorau i dyllu’r croen, cael gwared â’u lluniau crefyddol, rhoi’r gorau i ddathlu gwyliau’r byd, a stopio gwylio ffilmiau amhriodol—a hyn i gyd cyn iddyn nhw gyfarfod â’r Tystion am y tro cyntaf! Erbyn hyn, mae’r ddau riant ac un o’r plant yn gyhoeddwyr ac mae’r rhieni’n bwriadu cael eu bedyddio cyn bo hir.
Rydyn ni wedi derbyn llawer o lythyrau yn diolch inni am ddarpariaeth hyfryd arall: JW Broadcasting. Mae’r rhaglen fisol nawr ar gael mewn dros 70 o ieithoedd, gyda mwy o ieithoedd i ddod. Mae llawer o deuluoedd yn gwylio’r rhaglen yn ystod eu noson Addoliad Teuluol. Yn ôl geiriau un brawd, “Dydy cyfundrefn Jehofa erioed wedi bod mor fawr, ac eto, teimlwn ein bod yn agosach fyth at y pencadlys!”
Mae cynadleddau bob amser yn uchafbwynt i bobl Jehofa, a doedd y gyfres a gafodd ei chynnal yn ystod blwyddyn wasanaeth 2015 ddim yn eithriad o bell ffordd. Roedd rhaglen y gynhadledd yn cynnwys 42 fideo, cyfres o luniau, a chwe rhagarweiniad cerddorol, un ar ddechrau pob sesiwn. Wrth sôn am y rhaglen, dywedodd un brawd profiadol, “Doedd neb eisiau gadael eu seddi yn ystod y rhaglen, am nad oedden eisiau colli unrhyw beth.” Dywedodd un cenhadwr am gynhadledd llynedd, “Roedd y fideos yn gwneud y gwirionedd a’r Deyrnas yn fwy real imi.”
Mae Jehofa wedi ein bendithio gyda sawl cân y Deyrnas newydd yn ystod y flwyddyn. Ysgrifennodd un cwpl: “Mae’r caneuon newydd fel cofleidiad mawr gan Jehofa. Maen nhw wedi goleuo llawer o adegau tywyll inni.” Mae ein cynadleddau yn ein hatgoffa o lafur cariadus cerddorfa a chôr y Watchtower ar ein rhan, a hyn i gyd yn pentyrru mawl i Jehofa!
Ydy’ch cynulleidfa chi wedi bod yn defnyddio’r trolïau tystiolaethu cyhoeddus? Dyna ichi fendith i’n gwaith tystiolaethu! Maen nhw wedi bod yn fodd i rai unigolion glywed y gwirionedd am y tro cyntaf. Mae unigolion o gymunedau y tu ôl i giatiau caeedig neu mewn blociau o fflatiau, a llawer o bobl eraill, gan gynnwys Tystion anweithredol, nawr yn derbyn help oherwydd y trolïau. Yn Ionawr 2015, aeth dyn yn Ne Corea at un o’r trolïau tystiolaethu. Esboniodd ei fod wedi dechrau meddwl o ddifrif am bethau ysbrydol. Dechreuodd astudio’r Beibl. Yn Chwefror, daeth i un o gyfarfodydd y gynulleidfa am y tro cyntaf; ym mis Mawrth, rhoddodd y gorau i ysmygu. Ym mis Ebrill, ymwelodd â swyddfa’r gangen yn Ne Corea, ac mae’r dyn yn dal i wneud cynnydd ysbrydol anhygoel. Un yn unig ydy hwn o brofiadau rhif y gwlith a dderbyniwn yma yn y pencadlys.
Ein gweddi yw bydd y wybodaeth a gawn yn y gynhadledd yn annog llawer a oedd yn gwasanaethu’n selog ar un adeg i ddod yn ôl i fynwes Jehofa cyn iddi fynd yn rhy hwyr! Anogwn bob un ohonoch i efelychu Jehofa drwy groesawu’n gynnes y rhai sy’n dod yn eu holau.—Esec. 34:16.
Mae Jehofa wedi bendithio ei bobl yn fawr iawn yn ystod y flwyddyn wasanaeth ddiwethaf. Oes yna fwy i ddod? Bydd rhaid inni aros a gweld. Yn y cyfamser, hoffwn ichi wybod bod y Corff Llywodraethol yn caru pob un ohonoch yn fawr iawn a gweddïwn yn aml drostoch chi.
Gyda’n dymuniadau gorau,
Eich brodyr,
Corff Llywodraethol Tystion Jehofa