LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 4/13 tt. 3-4
  • Gwrando a Dysgu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gwrando a Dysgu
  • Ein Gweinidogaeth—2013
  • Erthyglau Tebyg
  • “Cynnull y Bobl”
    Ein Gweinidogaeth—2014
  • Ein Cynadleddau Rhanbarth—Tystiolaeth Rymus i’r Gwir
    Ein Gweinidogaeth—2012
Ein Gweinidogaeth—2013
km 4/13 tt. 3-4

Gwrando a Dysgu

1. Pam mae’n cymryd mwy o ymdrech i wrando a dysgu mewn cynhadledd?

1 Cyn bo hir bydd cynadleddau rhanbarth 2013 yn dechrau. Mae llawer o waith wedi’i wneud i baratoi rhaglen bwrpasol sy’n cwrdd ag anghenion presennol y maes ym mhob rhan o’r byd. Ydych chi wedi trefnu i fod yn bresennol bob dydd? Mewn cynadleddau mawr, mae llawer o bethau a all dynnu ein sylw, felly mae’n gofyn am fwy o ymdrech i ganolbwyntio ar y rhaglen. Gan fod y sesiynau yn hirach na chyfarfodydd arferol, mae angen canolbwyntio am gyfnodau hirach. Ar ben hynny, gall teithio a phethau eraill gymryd ein hegni. Beth all ein helpu ni i aros yn effro er mwyn gwrando a dysgu?—Deut. 31:12.

2. Sut gallwn ni baratoi ein calonnau ar gyfer y gynhadledd?

2 Cyn y Gynhadledd: Bydd rhaglen y gynhadledd i’w gweld ar ein Gwefan swyddogol, www.pr2711.com. Mae’r rhaglen yn rhestru teitlau’r anerchiadau ac un neu ddwy adnod allweddol ar gyfer pob un. Os gallwch ddefnyddio’r Rhyngrwyd, bydd y wybodaeth hon yn eich helpu i baratoi eich calon ar gyfer y gynhadledd. (Esra 7:10, BC) Yn ystod eich Addoliad Teuluol, a allwch chi drafod y rhaglen er mwyn helpu pawb yn y teulu i edrych ymlaen at y gynhadledd?

3. Beth fydd yn ein helpu ni i wrando’n astud?

3 Yn Ystod y Rhaglen: Os yw’n bosibl, ewch i’r tŷ bach cyn i’r sesiynau gychwyn. Diffoddwch eich ffôn symudol fel na fydd galwadau na negeseuon testun yn tynnu eich sylw. Os oes rhaid ichi gadw eich ffôn ymlaen, peth da fyddai ei osod fel na fydd unrhyw alwadau yn aflonyddu ar bobl eraill. Os ydych chi’n defnyddio dyfais tabled, gwnewch yn siŵr nad yw’n tarfu ar bobl eraill. Gwnewch eich gorau i beidio â bwyta nac yfed yn ystod y rhaglen. (Preg. 3:1) Canolbwyntiwch ar y siaradwr. Darllenwch yr adnodau yn eich Beibl a chymerwch nodiadau byr.

4. Sut gall rhieni helpu eu plant i wrando a dysgu?

4 Rydyn ni eisiau i’n plant wrando a dysgu hefyd. Dywed Diarhebion 29:15: “Y mae plentyn afreolus yn dwyn gwarth ar ei fam.” Felly, mae’n bwysig i deuluoedd eistedd gyda’i gilydd er mwyn i’r rhieni sicrhau bod y plant yn gwrando ar y rhaglen yn hytrach na siarad, tecstio, neu gerdded o gwmpas. Er na fydd plant ifanc yn medru deall pob peth, fe ellir eu hyfforddi i aros yn effro ac i eistedd yn llonydd.

5. Pam mae’n dda inni adolygu’r rhaglen, a sut medrwn ni wneud hynny?

5 Ar Ddiwedd Rhaglen y Dydd: Peidiwch ag aros allan yn hwyr. Sicrhewch eich bod chi’n cael digon o gwsg. Bydd adolygu’r rhaglen yn eich helpu chi i’w chofio. Felly, peth da fyddai dreulio ychydig o amser bob nos yn trafod y rhaglen. Os ydych chi’n mynd am bryd o fwyd gyda ffrindiau, beth am fynd â’ch nodiadau er mwyn trafod uchafbwyntiau’r dydd? Ar ôl mynd adref, efallai y byddwch chi eisiau trafod y gynhadledd yn ystod eich noson Addoliad Teuluol i weld sut y gallwch roi’r wybodaeth ar waith. Gellir hefyd treulio ychydig o amser bob wythnos yn darllen unrhyw gyhoeddiadau newydd.

6. A yw bod yn bresennol yn y gynhadledd yn ddigon? Eglurwch.

6 Does dim pwynt cynnal gwledd os nad yw neb yn bwyta’r bwyd a’i dreulio. Mae’r un peth yn wir yn achos y wledd ysbrydol y byddwn ni’n ei chael yn y gynhadledd. Gadewch inni sicrhau ein bod ni’n bresennol bob dydd er mwyn gwrando’n astud a rhoi’r wybodaeth ar waith.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu