LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mrt erthygl 45
  • Rwsia yn Ymosod ar Wcráin

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Rwsia yn Ymosod ar Wcráin
  • Pynciau Eraill
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Pa arwyddocâd sydd gan ddigwyddiadau fel hyn yn ôl y Beibl?
  • Pam gallwch chi fod yn obeithiol am y dyfodol?
  • Pwy Yw “Brenin y Gogledd” Heddiw?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Crefydd a’r Rhyfel yn Wcráin—Beth Mae’r Beibl yn Ei Ddweud?
    Pynciau Eraill
  • Blwyddyn Ers Dechrau’r Rhyfel yn Wcráin—Pa Obaith Mae’r Beibl yn ei Gynnig?
    Pynciau Eraill
  • “Brenin y Gogledd” yn Amser y Diwedd
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
Gweld Mwy
Pynciau Eraill
mrt erthygl 45
Map o Wcráin a’r gwledydd o’i chwmpas.

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Rwsia yn Ymosod ar Wcráin

Yn oriau mân y bore ar Chwefror 24, 2022, dechreuodd Rwsia ymosod yn filwrol ar Wcráin, er gwaethaf ymdrechion arweinwyr y byd i osgoi rhyfel. Sut gallai’r frwydr effeithio ar y byd? Ychydig o ddyddiau yn ôl, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres: “Allen ni ddim hyd yn oed ddychmygu’r dioddefaint a’r dinistr bydd y frwydr yn ei achosi a’r effaith bydd hyn yn ei gael ar ddiogelwch yn Ewrop a’r byd i gyd.”

Pa arwyddocâd sydd gan ddigwyddiadau fel hyn yn ôl y Beibl?

  • Rhagfynegodd Iesu amser pan fydd “gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd.” (Mathew 24:7) Darllenwch yr erthygl “Beth Yw Arwyddion y ‘Dyddiau Diwethaf’ neu’r ‘Cyfnod Olaf’?” i weld sut mae’r Beibl yn dangos bod rhyfeloedd heddiw yn cyflawni proffwydoliaeth Iesu.

  • Mae llyfr Datguddiad yn y Beibl yn darlunio rhyfela fel marchog ar gefn “ceffyl . . . fflamgoch” sy’n dwyn “heddwch o’r byd.” (Datguddiad 6:4) Darllenwch yr erthygl “The Four Horsemen—Who Are They?” i weld sut mae’r broffwydoliaeth yn berthnasol i ryfela heddiw.

  • Rhagfynegodd llyfr Daniel elyniaeth rhwng “brenin y gogledd” a “brenin y de.” (Daniel 11:25-45) Gwyliwch y fideo Fulfilled Prophecy—Daniel Chapter 11 i ddysgu pam y gall Rwsia a’i chynghreiriaid gael eu hadnabod fel brenin y gogledd.a

  • Mae Datguddiad hefyd yn disgrifio’r ‘rhyfel ar ddydd mawr Duw, yr Hollalluog.’ (Datguddiad 16:14, 16, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Ond, nid rhyfel rhwng gwledydd, fel yr un a welwn nawr, yw hwn. Darllenwch yr erthygl “Beth yw Rhyfel Armagedon?” i gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad hwnnw sydd eto i ddod.

Pam gallwch chi fod yn obeithiol am y dyfodol?

  • Mae’r Beibl yn dweud y bydd Duw yn “dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan.” (Salm 46:9) Darllenwch yr erthygl “Gobaith Go Iawn am Ddyfodol Gwell” i ddysgu mwy am y dyfodol mae Duw yn ei addo.

  • Dysgodd Iesu ei ddilynwyr i weddïo am i Deyrnas Dduw ddod. (Mathew 6:9, 10) Mae’r Deyrnas honno yn llywodraeth nefol a fydd yn cyflawni ewyllys Duw ar y ddaear, ac mae ewyllys Duw yn cynnwys heddwch byd-eang. I ddysgu sut gall y deyrnas fod o fudd ichi, gwyliwch y fideo Beth Yw Teyrnas Dduw?

Mae ’na fwy na 129,000 o Dystion Jehofa yn byw yn Wcráin. Fel Tystion Jehofa ym mhob gwlad arall, maen nhw’n efelychu Iesu drwy aros yn niwtral yn wleidyddol ac yn gwrthod cymryd rhan mewn rhyfeloedd. (Ioan 18:36) Ym mhob rhan o’r byd, mae Tystion Jehofa yn dal ati i gyhoeddi “y newyddion da am deyrnasiad Duw” fel yr ateb i broblemau dynolryw, gan gynnwys rhyfeloedd. (Mathew 24:14) Croeso cynnes ichi gysylltu â ni i ddysgu mwy am neges obeithiol y Beibl.

a Am drafodaeth lawn o’r broffwydoliaeth hon, gweler yr erthyglau “‘Brenin y Gogledd’ yn Amser y Diwedd” a “Pwy Yw ‘Brenin y Gogledd’ Heddiw?”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu