BYDDWCH WYLIADWRUS!
Crefydd a’r Rhyfel yn Wcráin—Beth Mae’r Beibl yn Ei Ddweud?
Ystyriwch y ffeithiau canlynol ynglŷn ag arweinwyr crefyddol blaenllaw a’r rhyfel yn Wcráin:
“Nid yw pennaeth Eglwys Uniongred Rwsia, y Patriarch Kirill, wedi dweud gair yn erbyn ymosodiad Rwsia. . . . Mae ymgyrch bropaganda systematig ei Eglwys wedi cael ei defnyddio gan Putin i gyfiawnhau’r rhyfel.”—EUobserver, Mawrth 7, 2022.
“Mae’r Patriarch Kirill . . . wedi anfon ei neges gryfaf eto yn cyfiawnhau ymosodiad ei wlad ef ar Wcráin—gan ddisgrifio’r rhyfel fel rhan o ryw frwydr yn erbyn pechod.”—AP News, Mawrth 8, 2022.
“Ar ddydd Llun, aeth arweinydd Eglwys Uniongred Wcráin, y Metropolitan Epiphanius I o Kyiv, ati i fendithio ei bobl er mwyn iddyn nhw allu ‘ymladd yn erbyn yr ymosodwyr Rwsaidd’ . . . Dywedodd [ef] hefyd nad oedd lladd milwyr Rwsaidd yn bechod.”—Jerusalem Post, Mawrth 16, 2022.
“Rydyn ni [Cyngor Eglwysi ac Enwadau Crefyddol Wcráin (UCCRO)] yn cefnogi lluoedd arfog Wcráin a phob un o’n hamddiffynwyr, yn bendithio eu hymdrechion i amddiffyn Wcráin rhag yr ymosodwr, ac yn gweddïo drostyn nhw.”—Datganiad UCCROa, Chwefror 24, 2022.
Beth yw eich barn chi? A ddylai crefyddau sy’n honni dilyn Iesu Grist annog eu haelodau i fynd i ryfel? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?
Hanes crefydd mewn rhyfeloedd
Mae hanes yn dangos bod crefydd yn aml wedi esgusodi, cyfiawnhau, neu hyd yn oed hyrwyddo rhyfel, gan geisio rhoi’r argraff eu bod nhw’n gweithio dros heddwch. Ers degawdau, mae Tystion Jehofa wedi helpu eraill i weld pa mor rhagrithiol ydy hyn. Ystyriwch rai enghreifftiau o’n cyhoeddiadau.
Dangosodd “The Crusades—A ‘Tragic Illusion’” sut roedd yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn gyfrifol am ladd llawer iawn o bobl yn enw Duw a Christ.
Mae “The Catholic Church in Africa” yn disgrifio enghraifft o sut gwnaeth crefydd fethu rhwystro rhyfela rhwng llwythau, a hil-laddiad hyd yn oed.
Mae’r erthyglau “Is Religion to Blame?,” “Religion’s Role in Man’s Wars,” a “Religion Takes Sides” yn esbonio sut mae clerigwyr Catholig, Uniongred, a Phrotestannaidd wedi cefnogi’r ddwy ochr mewn llawer o ryfeloedd.
A ddylai crefyddau Cristnogol gefnogi rhyfeloedd?
Yr hyn a ddysgodd Iesu: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.” (Mathew 22:39) “Carwch eich gelynion.”—Mathew 5:44-47.
Ystyriwch: A all crefydd honni ei bod hi’n ufuddhau i orchmynion Iesu ynglŷn â chariad ond, ar yr un pryd, annog ei haelodau i ladd eraill mewn rhyfel? I weld yr ateb, darllenwch yr erthyglau “True Christians and War” ac “Is It Possible to Love One’s Enemies?”
Yr hyn a ddysgodd Iesu: “Dydy nheyrnas i ddim yn dod o’r byd yma. Petai hi, byddai fy ngweision wedi ymladd yn galed i’m cadw i rhag cael fy arestio.” (Ioan 18:36) “Bydd pawb sy’n trin y cleddyf yn cael eu lladd â’r cleddyf.”—Mathew 26:47-52.
Ystyriwch: Os nad oedd Cristnogion i fod i frwydro i amddiffyn Iesu, a ddylen nhw frwydro am unrhyw reswm arall? Darllenwch yr erthygl “Is War Compatible With Christianity?” i weld sut gwnaeth y Cristnogion cynnar lwyddo i ddilyn esiampl Iesu a’i ddysgeidiaethau yn ffyddlon.
Beth fydd yn digwydd i grefyddau sy’n hyrwyddo rhyfeloedd?
Mae’r Beibl yn dysgu bod Duw yn gwrthod crefyddau sy’n honni cynrychioli Iesu, ond eto sydd ddim yn dilyn ei ddysgeidiaethau.—Mathew 7:21-23; Titus 1:16.
Yn ôl llyfr Datguddiad, mae Duw yn ystyried bod crefyddau o’r fath yn gyfrifol am farwolaethau ‘pawb a laddwyd ar y ddaear.’ (Datguddiad 18:21, 24, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) I ddysgu mwy, darllenwch yr erthygl “What Is Babylon the Great?”
Eglurodd Iesu y byddai pob crefydd sydd wedi ei gwrthod gan Dduw yn cael ei dinistrio am ei gweithredoedd drwg, yn union fel mae coeden wael sy’n cynhyrchu ffrwyth drwg “yn cael ei thorri i lawr a’i llosgi.” (Mathew 7:15-20) Darllenwch yr erthygl “Mae Diwedd Gau Grefydd yn Agos!” i ddysgu mwy am sut bydd hyn yn digwydd.
Cydnabod ffotograffau, o’r chwith i’r dde: Llun gan Sefa Karacan/Anadolu Agency/Getty Images; Maxym Marusenko/NurPhoto via Getty Images
a Mae’r UCCRO, neu Cyngor Eglwysi ac Enwadau Crefyddol Wcráin, yn cynnwys 15 eglwys sy’n cynrychioli enwadau Uniongred, Catholig Groegaidd a Rhufeinig, Protestannaidd, ac Efengylaidd, yn ogystal ag Iddewon a Mwslimiaid.