Rui Almeida Fotografia/Moment via Getty Images
BYDDWCH YN WYLIADWRUS!
Trais Gwleidyddol—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
Mae trais yn erbyn swyddogion cyhoeddus wedi mynd yn llawer mwy cyffredin!
Pam mae ’na gymaint o drais gwleidyddol? A fydd yn dod i ben ryw ddydd? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?
Rhaniadau gwleidyddol yn cael eu proffwydo
Rhagfynegodd y Beibl, yn “y dyddiau olaf,” sef ein hamser ni, y bydd llawer o bobl yn dreisgar ac yn methu cyd-dynnu.
“Yn y dyddiau olaf bydd y sefyllfa’n hynod o anodd ac yn beryglus. Oherwydd bydd dynion . . . yn anniolchgar, yn anffyddlon, . . . yn ffyrnig, . . . yn fradwyr, yn ystyfnig, yn llawn balchder.”—2 Timotheus 3:1-4.
Mae’r Beibl hefyd yn proffwydo y bydd gwrthryfel a phroblemau gwleidyddol yn gyffredin yn y dyddiau olaf hyn. (Luc 21:9) Serch hynny, ni fydd trais a rhaniadau gwleidyddol yn para am byth.
Diwedd ar drais gwleidyddol
Mae’r Beibl yn dweud y bydd Teyrnas Dduw yn y nefoedd yn cymryd lle llywodraethau dynol.
“Bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu teyrnas. Bydd yn chwalu’r teyrnasoedd eraill, ac yn dod â nhw i ben. Ond bydd y deyrnas hon yn aros am byth.”—Daniel 2:44.
Bydd Teyrnas Dduw yn uno pobl a bydd y byd yn le heddychlon.
Bydd y Brenin Iesu Grist, y “Tywysog heddychlon,” yn sicrhau “ni bydd diwedd ar . . . ei heddwch.”—Eseia 9:6, 7, Beibl Cymraeg Diwygiedig.
Hyd yn oed nawr, mae’r rhai sy’n byw o dan Deyrnas Dduw yn dysgu sut i fyw mewn heddwch. Mae’r Beibl yn dweud: “Byddan nhw’n curo eu cleddyfau yn sychau aradr a’u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.”—Eseia 2:3, 4.
I ddysgu mwy, darllenwch yr erthygl “Beth Fydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?” a gwyliwch y fideo Beth Yw Teyrnas Dduw?