LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 24
  • Heddwch Byd-Eang—Pam Mae Wastad yn Llithro o’n Gafael?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Heddwch Byd-Eang—Pam Mae Wastad yn Llithro o’n Gafael?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Pam Na All Pobl Greu Heddwch?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
    Pynciau Eraill
  • Heddwch—Sut Gelli Di Ddod o Hyd Iddo?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Heddwch ar y Ddaear—Sut Bydd yn Cael ei Sefydlu?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 24
Jet ryfel

Heddwch Byd-Eang​—Pam Mae Wastad yn Llithro o’n Gafael?

Ateb y Beibl

Mae ymdrechion dynion i ddod â heddwch i’r byd wedi methu ac y byddan nhw’n parhau i fethu am sawl reswm:

  • Mae’r Beibl yn dweud “na all pobl reoli eu bywydau. Dŷn nhw ddim yn gallu trefnu beth sy’n mynd i ddigwydd.” (Jeremeia 10:23) Chafodd bodau dynol mo’u creu gyda’r gallu na’r hawl i reoli eu hunain, felly mae heddwch parhaol y tu hwnt i’w cyrraedd.

  • “Paid trystio’r rhai sy’n teyrnasu—dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub. Mae’r anadl yn mynd allan ohono, ac mae’n mynd yn ôl i’r pridd; a’r diwrnod hwnnw mae ei holl bolisïau yn dod i ben!” (Salm 146:3, 4) Er bod gan rai arweinwyr llywodraeth gymhellion diffuant, hyd yn oed wedyn, maen nhw’n methu’n lân â chael ateb hirdymor i ddatrys y problemau sy’n achosi rhyfeloedd.

  • “Bydd adegau ofnadwy o anodd yn y cyfnod olaf hwn. Bydd pobl yn . . . anwaraidd, ac yn casáu daioni. Yn bradychu eraill, yn poeni dim am neb, ac yn llawn ohonyn nhw’u hunain.” (2 Timotheus 3:1-4) Rydyn ni’n byw yn “y cyfnod olaf” o’r hen fyd drygionus hwn. Mae agweddau llawer o bobl yn y cyfnod hwn yn ei gwneud hi’n anodd cael heddwch.

  • “Gwae chi’r ddaear a’r môr, oherwydd mae’r diafol wedi dod i lawr atat, ac wedi gwylltio’n gandryll, am ei fod yn gwybod mai ychydig amser sydd ganddo ar ôl.” (Datguddiad 12:12) Mae’r Diafol, gelyn Duw, wedi cael ei gyfyngu i gyffiniau’r ddaear ac mae wrthi’n cymell pobl i feithrin ysbryd ffyrnig. Cyn belled ag y caiff y diafol “sy’n rheoli’r byd hwn,” barhau mewn grym, fyddwn ni byth yn cael heddwch.—Ioan 12:31.

  • “Bydd [Teyrnas Dduw] yn chwalu’r teyrnasoedd eraill [sy’n gwrthwynebu Duw], ac yn dod â nhw i ben. Ond bydd y deyrnas hon yn aros am byth.” (Daniel 2:44) Teyrnas Dduw, ac nid unrhyw lywodraeth ddynol, fydd yn diwallu ein dymuniad am heddwch byd-eang.—Salm 145:16.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu