LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 32
  • Ydy’r Beibl yn Gallu Fy Helpu i Ddelio ag Iselder?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ydy’r Beibl yn Gallu Fy Helpu i Ddelio ag Iselder?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Beth mae Duw yn ei roi i helpu delio ag iselder
  • Sut Galla i Ymdopi ag Iselder?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 32

Ydy’r Beibl yn Gallu Fy Helpu i Ddelio ag Iselder?

Ateb y Beibl

Ydy, oherwydd mae’r help gorau yn dod oddi wrth ‘Dduw, sy’n cysuro’r rhai digalon.’​—2 Corinthiaid 7:6.

Beth mae Duw yn ei roi i helpu delio ag iselder

  • Nerth. Mae Duw yn eich adfywio a’ch calonogi, nid drwy gymryd eich holl broblemau i ffwrdd, ond drwy ateb eich gweddïau pan fyddwch chi’n gofyn am y nerth i ymdopi. (Philipiaid 4:13) Gallwch chi fod yn hyderus ei fod yn barod i wrando, gan fod y Beibl yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e’n achub y rhai sydd wedi anobeithio.” (Salm 34:18) Mewn gwirionedd, mae Duw yn gallu clywed eich cri am help hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu mynegi eich teimladau mewn geiriau.—Rhufeiniaid 8:26, 27.

  • Esiamplau da. Gweddïodd un salmydd ar Dduw: “Dw i mewn dyfroedd dyfnion, ARGLWYDD, a dw i’n galw arnat ti!” Deliodd y salmydd a’i iselder drwy gofio bod Duw eisiau maddau ein pechodau. Dywedodd wrth Dduw: “Os wyt ti’n cadw golwg ar bechodau, pa obaith sydd i unrhyw un? Ond rwyt ti’n barod i faddau, ac felly mae pobl yn dy addoli di.”—Salm 130:1, 3, 4.

  • Gobaith. Ar ben y cysur mae’n ei roi inni nawr, mae Duw wedi addo cael gwared ar yr holl broblemau sy’n achosi iselder. Unwaith iddo gyflawni’r addewid hwnnw, “bydd pethau’r gorffennol [gan gynnwys iselder] wedi eu hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi’r meddwl.”—Eseia 65:17.

Nodyn: Yn ogystal â chydnabod yr help mae Duw yn ei ddarparu, mae Tystion Jehofa hefyd yn ceisio triniaeth feddygol ar gyfer problemau fel iselder clinigol. (Marc 2:17) Ond dydyn ni ddim yn hyrwyddo unrhyw driniaeth feddygol benodol; gan ein bod ni’n teimlo y dylai bob person wneud ei benderfyniad ei hun mewn materion o’r fath.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu