LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwyp erthygl 65
  • Sut Galla i Ymdopi ag Iselder?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Galla i Ymdopi ag Iselder?
  • Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth fyddet ti’n ei wneud?
  • Ydy hi’n broblem feddygol?
  • Cynllun gweithredu
  • Geiriau o’r Beibl sy’n gallu helpu
  • Ydy’r Beibl yn Gallu Fy Helpu i Ddelio ag Iselder?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
Cwestiynau Pobl Ifanc
ijwyp erthygl 65
Merch isel ei hysbryd yn syllu trwy ffenestr

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Galla i Ymdopi ag Iselder?

Gyda strategaethau ymdopi, gelli di deimlo’n llawer gwell!

  • Beth fyddet ti’n ei wneud?

  • Ydy hi’n broblem feddygol?

  • Cynllun gweithredu

  • Geiriau o’r Beibl sy’n gallu helpu

Beth fyddet ti’n ei wneud?

Ystyria’r sefyllfaoedd canlynol:

Dydy Jennifer ddim yn mwynhau dim y dyddiau yma. Mae hi’n crio bob dydd heb ddeall pam. Mae hi’n osgoi pobl a phrin yn bwyta. Mae’n anodd iddi gysgu a chanolbwyntio. Mae Jennifer yn meddwl: ‘Beth sy’n digwydd imi? A fydda i yn teimlo fel fi fy hun eto?

Roedd Mark yn arfer gwneud yn dda iawn yn yr ysgol. Ond nawr mae’n casáu’r ysgol ac mae ei farciau yn disgyn. Does gan Mark ddim egni ar gyfer y chwaraeon roedd yn arfer eu mwynhau. Mae ei ffrindiau yn methu deall. Mae ei rieni yn poeni. Ai rhywbeth dros dro ydy hyn, neu rywbeth mwy?

A wyt ti’n teimlo fel Jennifer neu Mark? Os felly, beth elli di ei wneud? Dyma ddau opsiwn:

  1. Ceisio ymdopi ar dy ben dy hun

  2. Siarad ag oedolyn rwyt ti’n ei drystio

Gall opsiwn A edrych yn ddeniadol, yn enwedig os nad wyt ti’n teimlo fel siarad. Ond ai dyna’r peth gorau i’w wneud? Mae’r Beibl yn dweud: “‘Mae dau gyda’i gilydd yn well nag un’ . . . os bydd un yn syrthio, bydd y llall yn gallu ei helpu i godi. Ond druan o’r person sydd ar ei ben ei hun, heb neb i’w helpu i godi.”​—Pregethwr 4:​9, 10.

I egluro: Dychmyga dy fod ti ar goll mewn dinas beryglus. Mae’n dywyll, ac mae pobl ddiarth yn llechu ym mhob twll a chornel. Beth fyddet ti’n ei wneud? Fe allet ti geisio cael hyd i’r ffordd allan ar dy ben dy hun. Ond, oni fyddai’n well iti ofyn i rywun rwyt ti’n ei drystio am help?

Mae iselder yn debyg i’r ardal beryglus honno. Wrth gwrs, mae pawb yn teimlo’n isel o bryd i’w gilydd, ac mi all pethau wella ar ben eu hunain. Ond os ydy’r teimladau’n para, mae’n well cael help.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Mae’r un sy’n cadw ar wahân . . . yn gwrthod unrhyw gyngor doeth.”​—Diarhebion 18:1.

Y fantais o opsiwn B​—siarad ag un o dy rieni neu ag oedolyn arall rwyt ti’n ei drystio​—ydy dy fod yn gallu tynnu ar brofiad rhywun sydd wedi dod trwy gyfnodau anodd yn llwyddiannus.

Efallai byddi di’n dweud: ‘Does gan mam a dad ddim clem am sut dw i’n teimlo!’ Ond wyt ti’n siŵr o hynny? Hyd yn oed os oedd pethau yn wahanol pan oedden nhw’n ifanc, mae’n bosib eu bod nhw wedi teimlo’r un fath â ti. Ac efallai byddan nhw’n gwybod yr ateb!

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Onid pobl mewn oed sy’n ddoeth, a’r rhai sydd wedi byw’n hir sy’n deall?”​—Job 12:12.

Y pwynt: Os wyt ti’n siarad ag un o dy rieni neu ag oedolyn arall rwyt ti’n ei drystio, mae’n debyg y byddi di’n cael cyngor sy’n gwneud gwahaniaeth.

Merch ar stryd beryglus liw nos

Mae dioddef o iselder yn debyg i fod ar goll mewn dinas beryglus. I gael hyd i’r ffordd allan, gofynna am help

Ydy hi’n broblem feddygol?

Os wyt ti’n teimlo’n isel bob dydd, mae’n bosib dy fod ti’n dioddef o iselder clinigol. Mae hwn yn gyflwr meddygol sy’n gofyn am driniaeth.

Mewn pobl ifanc, mae symptomau iselder clinigol yn gallu bod yn debyg iawn i’r hwyliau ansefydlog sy’n gyffredin yn yr oedran hynny, ond mi fyddan nhw’n fwy dwys ac yn para’n hirach. Felly os wyt ti’n teimlo’n drist iawn am gyfnod hir, beth am siarad â dy rieni am drefnu i weld y meddyg?

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Does dim angen meddyg ar bobl iach, ond mae angen un ar y rhai sy’n sâl.”​—Mathew 9:​12.

Os ydy’r meddyg yn dweud dy fod ti’n dioddef o iselder dwys, does dim rheswm iti deimlo cywilydd. Mae iselder yn beth cyffredin ymhlith pobl ifanc, ac mae triniaeth ar gael. Fydd ffrindiau da ddim yn edrych i lawr arnat ti.

Awgrym: Bydda’n amyneddgar. Mae dod dros iselder yn cymryd amser, ac fe fyddi di’n cael diwrnodau da a drwg.a

Cynllun gweithredu

P’un a wyt ti angen triniaeth feddygol neu beidio, mae yna bethau y gelli di eu gwneud i ddelio â thristwch parhaus. Er enghraifft, bydd ymarfer corff, bwyta’n iach, a chael digon o gwsg yn helpu i gadw dy emosiynau’n sefydlog. (Pregethwr 4:6; 1 Timotheus 4:8) Efallai bydd cadw dyddiadur lle rwyt ti’n cofnodi dy deimladau, dy amcanion, dy lithriadau, a dy lwyddiannau, yn dy helpu di.

P’un a wyt ti’n dioddef o iselder clinigol neu’n mynd trwy gyfnod anodd yn unig, cofia hyn: Drwy dderbyn help gan bobl eraill, a chymryd camau tuag at wella, fe elli di ddelio ag iselder.

Geiriau o’r Beibl sy’n gallu helpu

  • “Mae’r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e’n achub y rhai sydd wedi anobeithio.”​—Salm 34:18.

  • “Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di. Wnaiff e ddim gadael i’r cyfiawn syrthio.”​—Salm 55:22.

  • “Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di, yn rhoi cryfder i dy law dde di, ac yn dweud wrthot ti: ‘Paid bod ag ofn. Bydda i’n dy helpu di.’”​—Eseia 41:13.

  • “Peidiwch byth â bod yn bryderus am yfory.”​—Mathew 6:​34.

  • “Rhowch wybod i Dduw am y pethau rydych chi’n eu ceisio; a bydd heddwch Duw sydd y tu hwnt i bob deall yn gwarchod eich calonnau.”—Philipiaid 4:​6, 7.

a Os wyt ti’n meddwl am hunanladdiad, gofynna am help yn syth gan oedolyn rwyt ti’n ei drystio. Am fwy o wybodaeth, gweler y pedair erthygl yn y gyfres “Why Go On?” yn rhifyn Ebrill 2014 o’r cylchgrawn Awake!

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu