LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwfq erthygl 19
  • Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Dathlu’r Pasg?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Dathlu’r Pasg?
  • Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Syniadau anghywir
  • Pam nad yw Tystion Jehofa yn dathlu’r Pasg?
  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am y Pasg?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Credoau a Thraddodiadau Nad Ydyn’ nhw’n Boddhau Duw
    Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
  • A Ddylen Ni Ddathlu Gwyliau?
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
ijwfq erthygl 19

Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Dathlu’r Pasg?

Syniadau anghywir

Chwedl: Nid yw Tystion Jehofa yn Gristnogion, dyna pam nad ydyn nhw’n dathlu’r Pasg.

Ffaith: Rydyn ni’n credu mai Iesu yw ein Gwaredwr, ac rydyn ni’n gwneud ein gorau i “ganlyn yn ôl ei draed ef.”—1 Pedr 2:21; Luc 2:11.

Chwedl: Nid ydych chi’n credu bod Iesu wedi ei atgyfodi o’r meirw.

Ffaith: Credwn fod Iesu Grist wedi ei atgyfodi a bod ei atgyfodiad yn hanfodol i’r ffydd Gristnogol, ac rydyn ni’n pwysleisio hyn yn ein gwaith pregethu.—1 Corinthiaid 15:3, 4, 12-15.

Chwedl: Does dim ots gennych fod eich plant ddim yn cael ymuno yn yr hwyl o ddathlu’r Pasg.

Ffaith: Rydyn ni’n caru ein plant ac yn gwneud ein gorau glas i’w hyfforddi a’u helpu nhw i fod yn hapus.—Titus 2:4.

Pam nad yw Tystion Jehofa yn dathlu’r Pasg?

  • Dydy dathliad y Pasg ddim wedi ei seilio ar y Beibl.

  • Gorchmynnodd Iesu i goffáu ei farwolaeth, nid ei atgyfodiad. Rydyn ni’n coffáu ei farwolaeth yn flynyddol gan ddilyn calendr y Beibl, sydd wedi ei sylfaenu ar gylch y lleuad.—Luc 22:19, 20.

  • Credwn fod arferion y Pasg yn ei wneud yn annerbyniol gan Dduw oherwydd bod ei wreiddiau wedi eu sefydlu mewn addoliad paganaidd. Dywed Duw mai “ef yn unig a wasanaethi,” ac mae’n gas ganddo addoliad sy’n cynnwys arferion nad yw’n ei gymeradwyo.—Luc 4:8; 1 Brenhinoedd 18:21.

Mae’r Beibl yn ein hannog ni i ddefnyddio ein doethineb a’n gallu meddyliol yn hytrach na dilyn traddodiadau dynol. Felly, ein penderfyniad ni yw peidio â dathlu’r Pasg. (Diarhebion 3:21, Y Beibl Cysegr-lân; Mathew 15:3) Pan ofynnir, esboniwn ein daliadau ynglŷn â’r Pasg, ond heb farnu’r rhai sy’n ei ddathlu, gan fod yr hawl i ddewis gan bob un.—1 Pedr 3:15.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu