LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • rq gwers 11 tt. 22-23
  • Credoau a Thraddodiadau Nad Ydyn’ nhw’n Boddhau Duw

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Credoau a Thraddodiadau Nad Ydyn’ nhw’n Boddhau Duw
  • Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
  • Erthyglau Tebyg
  • Eich Dewis i Addoli Duw
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Dathlu’r Pasg?
    Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Dathliadau Sy’n Annerbyniol i Dduw
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Dathlu’r Nadolig?
    Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
Gweld Mwy
Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
rq gwers 11 tt. 22-23

Gwers 11

Credoau a Thraddodiadau Nad Ydyn’ nhw’n Boddhau Duw

Pa fath o gredoau a thraddodiadau sy’n anghywir? (1)

’Ddylai Cristnogion gredu fod Duw yn Drindod? (2)

Pam nad yw gwir Gristnogion yn dathlu’r Nadolig, Y Pasg, a phennau blwydd? (3, 4)

’Fedr y meirw niweidio’r byw? (5)

Ai ar groes y bu farw Iesu? (6)

Pa mor bwysig yw boddhau Duw? (7)

1. Nid yw pob credo a thraddodiad yn ddrwg. Ond nid yw Duw yn eu cymeradwyo os mai o gau grefydd y dônt neu os ydyn’ nhw yn groes i athrawiaethau’r Beibl.—Mathew 15:6.

2. Y Drindod: Ai Trindod yw Jehofah—tri pherson mewn un Duw? Nage! Yr “unig wir Dduw” yw Jehofah, y Tad. (Ioan 17:3; Marc 12:29) Iesu yw Ei Fab cyntafanedig, ac mae e’n ddarostyngedig i Dduw. (1 Corinthiaid 11:3) Mae’r Tad yn fwy na’r Mab. (Ioan 14:28) Nid person yw’r ysbryd sanctaidd; grym gweithredol Duw ydyw.—Genesis 1:2; Actau 2:18.

3. Y Nadolig a’r Pasg: Ni aned Iesu ar Ragfyr 25. Fe’i ganed tua Hydref 1, adeg o’r flwyddyn pan gadwai bugeiliaid eu preiddiau yn yr awyr agored yn ystod y nos. (Luc 2:8-12) Ni orchmynnodd Iesu erioed i Gristnogion ddathlu ei eni. Yn hytrach, fe ddywedodd wrth ei ddisgyblion i goffau, neu gofio, ei farw. (Luc 22:19, 20) Daw’r Nadolig a’i ddefodau o hen, hen grefyddau gau. Mae’r un peth yn wir am ddefodau’r Pasg, megis defnyddio wyau a chwningod. ’Doedd y Cristnogion cynnar ddim yn dathlu’r Nadolig na’r Pasg, a ’dyw gwir Gristnogion ddim yn gwneud heddiw chwaith.

4. Pennau blwydd: Dwy waith yn unig yn y Beibl mae sôn am ddathlu penblwydd a hynny gan unigolion nad oeddent yn addoli Jehofah. (Genesis 40:20-22; Marc 6:21, 22, 24-27) ’Doedd y Cristnogion cynnar ddim yn dathlu pennau blwydd. O hen, hen grefyddau gau y daw’r arfer o ddathlu pennau blwydd. Mae gwir Gristnogion yn rhoi anrhegion ac yn mwynhau cwmni ei gilydd ar adegau eraill yn ystod y flwyddyn.

5. Ofn y Meirw: Ni all y meirw wneud dim na theimlo dim. ’Fedrwn ni ddim eu helpu nhw, a ’fedran’ nhw ddim ein brifo ni. (Salmau 146:4; Pregethwr 9:5, 10) Mae’r enaid yn marw; nid yw’n parhau i fyw wedi marwolaeth. (Eseciel 18:4, BCL) Ond weithiau mae angylion drwg, a elwir yn gythreuliaid, yn esgus mai nhw yw ysbrydion y meirw. Mae unrhyw ddefodau sy’n ymwneud ag ofni’r meirw neu eu haddoli yn anghywir.—Eseia 8:19.

6. Y Groes: Nid ar groes y bu farw Iesu. Bu farw ar bren, neu stanc. Ystyr syml y gair Groeg a gyfieithir “croes” mewn llawer o Feiblau oedd un darn o goedyn. O hen, hen grefyddau gau y daw symbol y groes. Ni ddefnyddiwyd y groes gan y Cristnogion cynnar na’i haddoli ganddynt. Felly, ydych chi’n credu y byddai’n iawn defnyddio croes wrth addoli?—Deuteronomium 7:26; 1 Corinthiaid 10:14.

7. Fe all ei bod hi’n anodd iawn cefnu ar rai o’r credoau a’r traddodiadau hyn. Efallai y bydd perthnasau a ffrindiau yn ceisio eich argyhoeddi chi i beidio â newid eich credoau. Ond mae boddhau Duw yn bwysicach na phlesio dynion.—Diarhebion 29:25; Mathew 10:36, 37.

[Llun ar dudalen 22]

Nid Trindod yw Duw

[Llun ar dudalen 23]

Daw’r Nadolig a’r Pasg o hen, hen grefyddau gau

[Llun ar dudalen 23]

’Does dim rheswm dros addoli’r meirw nac i’w hofni nhw

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu