LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwyp erthygl 67
  • Beth Ddylwn i ei Wybod am Rannu Lluniau ar Lein?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Ddylwn i ei Wybod am Rannu Lluniau ar Lein?
  • Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth yw’r manteision?
  • Beth yw’r peryglon?
  • Beth elli di ei wneud?
  • Pa Mor Bwysig Ydy Poblogrwydd Ar Lein?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Perthynas â’ch Ffrindiau?
    Deffrwch!—2021
  • Paid â Meddwl Gormod Ohonot Ti Dy Hun
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Beth os Dydy Pobl Ddim yn Fy Nerbyn I?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
Gweld Mwy
Cwestiynau Pobl Ifanc
ijwyp erthygl 67
Merch yn ei harddegau yn rhannu llun ar lein

CWESTIYNAU POBL IFANC

Beth Ddylwn i ei Wybod am Rannu Lluniau ar Lein?

Rwyt ti’n cael amser gwych ar dy wyliau ac eisiau sôn wrth dy holl ffrindiau amdani! Ond sut? A fyddi di’n

  1. anfon cerdyn post yr un?

  2. ysgrifennu e-bost i dy holl ffrindiau?

  3. postio lluniau ar lein?

Pan oedd dy neiniau a theidiau yn ifanc, mae’n debyg mai “A” oedd yr unig opsiwn.

Pan oedd dy rieni yn ifanc, efallai roedd “B” yn bosib.

Heddiw mae llawer o bobl ifanc sydd â chaniatâd i bostio lluniau ar lein, yn hoff o opsiwn “C.” Wyt ti? Os felly, bydd yr erthygl hon yn dy helpu di i osgoi rhai peryglon.

  • Beth yw’r manteision?

  • Beth yw’r peryglon?

  • Beth elli di ei wneud?

  • Barn dy gyfoedion

Beth yw’r manteision?

Mae’n gyflym. “Os dw i wedi bod ar drip anhygoel, neu wedi cael amser gwych gyda ffrindiau, dw i’n gallu rhannu lluniau tra dw i dal yn llawn cyffro amdano.”​—Melanie.

Mae’n gyfleus. “Mae’n llawer haws cael yr hanes diweddaraf trwy edrych ar luniau fy ffrindiau nag ydy o i anfon e-byst.”​—Jordan.

Mae’n dy helpu di i gadw cysylltiad. “Mae rhai o fy ffrindiau a theulu yn byw yn bell i ffwrdd. Os ydyn nhw’n postio lluniau yn aml a dw i’n edrych yn aml, mae fel ’taswn i’n gweld nhw bob dydd!”​—Karen.

Beth yw’r peryglon?

Gelli di dy roi dy hun mewn peryg. Os ydy dy gamera yn rhoi geotag ar luniau, efallai bydd dy luniau yn datgelu mwy nag yr oeddet ti wedi bwriadu. Mae’r wefan Digital Trends yn dweud: “Mae postio lluniau a chyfryngau eraill sydd wedi’u tagio gyda lleoliad manwl gywir ar y we, yn gadael i bobl ddiarth sydd â’r feddalwedd iawn a bwriadau drwg, ddarganfod lleoliad unigolyn.”

Wrth gwrs, mae gan rai troseddwyr fwy o ddiddordeb yn lle nad wyt ti. Adroddodd Digital Trends am dri lleidr a dorrodd i mewn i 18 cartref tra oedd pawb allan. Sut roedden nhw’n gwybod fyddai neb adref? Aethon nhw ar lein a thracio eu symudiadau​—dull o’r enw cybercasing​—a dwyn gwerth mwy na $100,000 (UDA) o bethau.

Gelli di ddod ar draws pethau ffiaidd. Does gan rai pobl ddim cywilydd dros bostio unrhyw beth i’r byd a’i betws cael gweld. Mae Sarah sydd yn ei harddegau yn dweud: “Mae’r peryg yn codi pan wyt ti’n edrych trwy gyfrifon pobl dwyt ti ddim yn ’nabod. Mae fel cerdded trwy ddinas anghyfarwydd heb fap. Mae’n debygol y byddi di’n cyrraedd rhywle doeddet ti ddim eisiau mynd.”

Mae amser yn hedfan. “Mae’n hawdd ymgolli wrth edrych trwy’r lluniau diweddaraf a darllen sylwadau pawb. Gelli di gyrraedd y pwynt lle mae’n rhaid edrych ar dy ffôn bob munud i weld beth sy’n newydd,” meddai dynes ifanc o’r enw Yolanda.

Merch yn ei harddegau yn edrych ar ei chyfrif rhannu lluniau trwy’r nos

Mae gwir angen hunanreolaeth os wyt ti am gael cyfrif rhannu lluniau

Mae Samantha, sydd yn ei harddegau, yn cytuno. “Mae’n rhaid imi reoli’r amser dw i’n treulio ar y gwefannau hyn,” meddai. “Mae gwir angen hunanreolaeth os wyt ti am gael cyfrif rhannu lluniau.”

Beth elli di ei wneud?

  • Bydda’n benderfynol o osgoi pethau anweddus. Mae’r Beibl yn dweud: “Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth!”​—Salm 119:37.

    “Dw i’n edrych yn aml ar beth mae’r rhai dw i’n eu dilyn yn postio, a dw i’n eu dad-ddilyn nhw os dw i’n teimlo bod y pethau yna’n amhriodol.”​—Steven.

  • Paid â chysylltu â phobl sydd ddim yn rhannu dy werthoedd, maen nhw’n gallu tanseilio dy foesau. Mae’r Beibl yn dweud: “Peidiwch cymryd eich camarwain, achos ‘mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.’”​—1 Corinthiaid 15:33.

    “Paid ag edrych ar luniau ar lein jest oherwydd eu bod nhw’n boblogaidd. Yn aml, dyna le byddi di’n dod ar draws rhegfeydd, noethni, a chynnwys anweddus arall.”​—Jessica.

  • Gosoda derfynau ar faint o amser rwyt ti’n ei dreulio’n edrych ar luniau ac ar ba mor aml rwyt ti’n postio lluniau. Mae’r Beibl yn dweud: “Gwyliwch sut dych chi’n ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl—byddwch yn ddoeth. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni.”​—Effesiaid 5:​15, 16.

    “Dw i wedi dad-ddilyn pobl sy’n postio gormod. Er enghraifft, pan mae rhywun yn mynd i lan y môr ac yn postio 20 llun o’r un gragen. Go wir? Mae’n cymryd gormod o amser i edrych drwy’r holl luniau ’na!”​—Rebekah.

  • Bydda’n siŵr dydy’r lluniau rwyt ti’n eu postio ddim yn rhoi’r argraff bod popeth amdanat ti. Mae Paul, un o ysgrifenwyr y Beibl yn dweud: “Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi, ... peidiwch meddwl eich bod chi’n well nag ydych chi.” (Rhufeiniaid 12:3) Paid â disgwyl y bydd dy ffrindiau yn gwirioni ar weld lluniau ohonot ti a beth rwyt ti’n ei wneud.

    “Does dim diwedd ar selfies rhai pobl. Os ’dyn ni’n ffrindiau, dw i’n gwybod sut wyt ti’n edrych​—dw i ddim angen cael fy atgoffa o hyd!”​—Allison.

Barn dy gyfoedion

Cheyenne

“Dw i’n gwneud fy nghyfrif yn breifat, wedyn dydy pobl ddiarth ddim yn gallu fy nilyn i. Dw i ond yn gadael i bobl fy nilyn i os ydw i’n eu ’nabod nhw’n dda ac yn teimlo’n gyffyrddus yn siarad â nhw wyneb yn wyneb.”​—Cheyenne.

Eliana

“Fel arfer, cyn rhannu lluniau, bydda’ i’n gofyn i fi fy hun gwestiynau fel: ‘Ydy hyn yn rhy bersonol? A fydd hyn yn pechu rhywun? A fydda’ i’n difaru postio’r llun yma?’”​—Eliana.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu