LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwhf erthygl 3
  • Sut i Ddangos Cariad

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut i Ddangos Cariad
  • Help ar Gyfer y Teulu
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth dylech chi ei wybod
  • Beth gallwch chi ei wneud
  • I Gael Priodas Hapus: Dangoswch Hoffter
    Help ar Gyfer y Teulu
  • Dalia Ati i Feithrin Cariad Tyner
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Gwneud Priodas Gristnogol yn Llwyddiannus
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Edrychwch at Dduw am Briodas Hapus
    Sut i Gael Teulu Hapus
Help ar Gyfer y Teulu
ijwhf erthygl 3
Gŵr yn rhoi cwtsh i’w wraig

HELP AR GYFER Y TEULU

Sut i Ddangos Cariad

Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, mae rhai parau priod yn dangos llai a llai o gariad tuag at ei gilydd. A ddylech chi boeni os dyna sy’n digwydd yn eich priodas chi?

  • Beth dylech chi ei wybod

  • Beth gallwch chi ei wneud

Beth dylech chi ei wybod

Mae dangos cariad yn hanfodol er mwyn cadw’r briodas yn gryf. Mae angen maeth rheolaidd i gadw’r corff yn gryf ac yn iach, a chariad yw’r maeth sy’n cadw’r briodas yn gryf. Hyd yn oed ar ôl degawdau gyda’i gilydd, mae gwŷr a gwragedd angen teimlo’n sicr bod eu partneriaid yn eu caru.

Mae gwir gariad yn anhunanol. Mae’n ceisio hapusrwydd y person arall. Yn lle dangos cariad dim ond pan ddaw’r awydd droson ni, bydd cymar caredig yn gweld anghenion y llall ac yn ceisio ymateb i’r anghenion hynny.

Yn gyffredinol, y wraig sydd angen cael mwy o sicrwydd cariad na’r gŵr. Efallai bydd gŵr yn caru ei wraig yn fawr. Ond os yw’n dweud hynny dim ond ar ddechrau neu ddiwedd y dydd neu cyn cael rhyw, efallai na fydd y wraig yn siŵr a yw ei gŵr yn ei charu neu beidio. Llawer gwell yw dangos cariad yn aml bob diwrnod.

Beth gallwch chi ei wneud

Siarad yn gariadus. Bydd geiriau syml fel “Dw i’n dy garu di” neu “Ti’n werth y byd” yn sicrhau eich cymar am eich cariad.

Egwyddor o’r Beibl: “Mae’r hyn mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sy’n eu calonnau nhw.”​—Mathew 12:34.

Gair i gall: Nid oes angen aros nes eich bod chi’n gweld eich gilydd i fynegi eich cariad. Gallwch adael nodyn, anfon e-bost, neu neges destun.

Ymddwyn yn gariadus. Gall rhywbeth mor syml â chusan, cwtsh, neu ddal dwylo ddangos eich bod o ddifri wrth ddweud “Dw i’n dy garu di.” Gallwch ddangos eich cariad hefyd gyda chyffyrddiad ysgafn, cipolwg cariadus, neu anrheg fach o bryd i’w gilydd. A beth am helpu eich gwraig drwy gario bagiau, agor drysau, golchi’r llestri neu’r dillad, neu wneud pryd o fwyd? Mae pethau fel hyn yn fwy na help ymarferol​—cariad ar waith ydyn nhw!

Egwyddor o’r Beibl: “Peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i ddangos eich cariad!”​—1 Ioan 3:​18.

Gair i gall: Byddwch yr un mor garedig ag yr oeddech chi pan oeddech chi’n canlyn.

Rhowch amser i’ch gilydd. Mae treulio amser gyda’ch gilydd yn cryfhau’r briodas ac yn dangos eich bod yn mwynhau cwmni eich gilydd. Wrth gwrs, gall fod yn anodd trefnu hyn os oes gennych chi blant, neu os bydd llawer o faterion i’w trafod bob dydd. Ond efallai gallwch wneud rhywbeth mor syml â mynd am dro yn rheolaidd​—dim ond chi’ch dau.

Egwyddor o’r Beibl: “[Dewiswch] y peth gorau i’w wneud bob amser.”​—Philipiaid 1:​10.

Gair i gall: Mae rhai cyplau prysur yn neilltuo amser i wneud rhywbeth arbennig gyda’r nos neu’n cael penwythnosau i ffwrdd gyda’i gilydd.

Gŵr a gwraig yn cael pryd o fwyd mewn tŷ bwyta

Deall eich cymar. Mae pob person yn wahanol yn ei angen am gariad. Trafodwch beth sy’n well gennych chi’ch dau o ran cael sylw a chariad, ac a oes angen am fwy. Yna, gwnewch eich gorau i wneud yr hyn sydd ei angen. Cofiwch, mae dangos cariad yn hanfodol er mwyn cadw’r briodas yn gryf.

Egwyddor o’r Beibl: “Dydy cariad ddim yn . . . mynnu ei ffordd ei hun drwy’r adeg.”​—1 Corinthiaid 13:4, 5.

Gair i gall: Yn hytrach na mynnu mwy o sylw a chariad, gofynnwch, ‘Beth gallaf innau ei wneud fel y bydd fy nghymar yn teimlo’n fwy cariadus tuag ataf?’

Douglas a Debra

“Ymhen amser, dysgais beidio â chanolbwyntio ar fy anghenion a dymuniadau fy hun. Dechreuais ganmol fy ngŵr am y pethau roedd o eisoes yn eu gwneud ar gyfer y teulu. Mwyaf yn y byd roeddwn i’n ei ganmol, mwyaf yn y byd roedd o’n dangos cariad ata’ i.”​—Debra, gyda’i gŵr, Douglas.

Aron a Flavia

“Rydyn ni’n ceisio cofio beth mae’r person arall yn ei hoffi. Er enghraifft, mae fy ngŵr wrth ei fodd pan fydda’ i’n gwerthfawrogi’r pethau ymarferol mae’n eu gwneud. Dyna sy’n dweud wrtho fe mod i’n ei garu. Ac dw innau wrth fy modd pan fydd fy ngŵr yn gofyn sut ydw i’n teimlo. Dyna sy’n dweud wrtha i ei fod yn fy ngharu.”​—Flavia, gyda’i gŵr, Aron.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu