LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • hf rhan 1 tt. 3-5
  • Edrychwch at Dduw am Briodas Hapus

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Edrychwch at Dduw am Briodas Hapus
  • Sut i Gael Teulu Hapus
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • 1 DERBYNIWCH Y RHAN MAE JEHOFA WEDI EI RHOI ICHI
  • 2 GWIR OFALWCH AM DEIMLADAU EICH CYMAR
  • 3 MEDDYLIWCH FEL TÎM
  • Byddwch yn Ffyddlon i’ch Gilydd
    Sut i Gael Teulu Hapus
  • Sut i Gadw Heddwch â’ch Perthnasau
    Sut i Gael Teulu Hapus
  • Sut i Ddatrys Problemau
    Sut i Gael Teulu Hapus
  • Priodas—Rhodd gan Dduw Cariadus
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
Gweld Mwy
Sut i Gael Teulu Hapus
hf rhan 1 tt. 3-5
Gŵr a’i wraig ar ddiwrnod eu priodas

RHAN 1

Edrychwch at Dduw am Briodas Hapus

“Yn wryw a benyw y gwnaeth y creawdwr hwy o’r dechreuad.”—Mathew 19:4

Trefnodd Jehofaa y briodas gyntaf. Mae’r Beibl yn dweud mai Jehofa greodd y ddynes gyntaf, ac yna ‘ddaeth â hi at y dyn.’ Roedd Adda mor hapus nes iddo ddweud: “Dyma hi! Asgwrn o’m hesgyrn, a chnawd o’m cnawd.” (Genesis 2:22, 23) Dymuniad Jehofa hyd heddiw yw i bobl briod fod yn hapus.

Ar ôl ichi briodi, efallai byddwch yn disgwyl i bopeth fod yn berffaith. Ond, mewn gwirionedd, bydd hyd yn oed gŵr a gwraig sy’n caru ei gilydd yn fawr iawn yn wynebu problemau o dro i dro. (1 Corinthiaid 7:28) Yn y llyfryn hwn, byddwch yn darganfod egwyddorion o’r Beibl sy’n gallu gwneud eich priodas a’ch teulu yn hapus.—Salm 19:8-11.

1 DERBYNIWCH Y RHAN MAE JEHOFA WEDI EI RHOI ICHI

MAE’R BEIBL YN DWEUD: Y gŵr yw pen y teulu.—Effesiaid 5:23.

Os ydych chi’n ŵr, mae Jehofa yn disgwyl ichi ofalu’n dyner am eich gwraig. (1 Pedr 3:7) Creodd Jehofa hi er mwyn eich helpu a’ch cynorthwyo, ac mae’n disgwyl ichi ei thrin hi gyda pharch a chariad. (Genesis 2:18) Dylech chi garu’ch gwraig gymaint nes eich bod yn fodlon rhoi ei hanghenion hi o flaen rhai eich hun.—Effesiaid 5:25-29.

Os ydych chi’n wraig, mae Jehofa yn disgwyl i chi barchu eich gŵr a’i helpu i gyflawni ei gyfrifoldebau. (1 Corinthiaid 11:3; Effesiaid 5:33) Cefnogwch ei benderfyniadau a chydweithiwch gydag ef ym mhob peth. (Colosiaid 3:18) Pan fyddwch yn gwneud hynny, fe fyddwch yn werthfawr yng ngolwg eich gŵr ac yng ngolwg Jehofa.—1 Pedr 3:1-6.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Gofynnwch i’ch cymar sut y gallwch chi wella fel gŵr neu wraig. Gwrandewch yn astud, a gwnewch eich gorau i wella

  • Byddwch yn amyneddgar. Fe fydd hi’n cymryd amser i’r ddau ohonoch ddysgu sut i wneud eich gilydd yn hapus

2 GWIR OFALWCH AM DEIMLADAU EICH CYMAR

MAE’R BEIBL YN DWEUD: Mae angen gofalu am anghenion eich cymar. (Philipiaid 2:3, 4) Cofiwch fod eich cymar yn werthfawr, a bod Jehofa yn gofyn i’w weision fod “yn dirion tuag at bawb.” (2 Timotheus 2:24) Mae geiriau difeddwl “fel brath cleddyf, ond y mae tafod y doeth yn iacháu.” Felly, dewiswch eich geiriau’n ofalus. (Diarhebion 12:18) Bydd ysbryd Jehofa yn eich helpu i siarad yn gariadus.—Galatiaid 5:22, 23; Colosiaid 4:6.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Gweddïwch am help i aros yn dawel ac i gadw meddwl agored cyn trafod materion pwysig gyda’ch cymar

  • Meddyliwch yn ofalus am yr hyn rydych chi am ei ddweud a sut i’w ddweud

3 MEDDYLIWCH FEL TÎM

MAE’R BEIBL YN DWEUD: Wrth ichi briodi, rydych chi a’ch cymar yn dod yn “un cnawd.” (Mathew 19:5) Ond, unigolion ydych chi, ac efallai bydd gennych chi farn wahanol weithiau. Felly, bydd rhaid ichi ddysgu i fod yn unol yn eich meddyliau a’ch teimladau. (Philipiaid 2:2) Mae undod yn hanfodol wrth wneud penderfyniadau. Mae’r Beibl yn dweud: “Sicrheir cynlluniau trwy gyngor.” (Diarhebion 20:18) Wrth ichi wneud penderfyniadau pwysig gyda’ch gilydd, gadewch i egwyddorion y Beibl eich arwain chi.—Diarhebion 8:32, 33.

Cwpl priod yn golchi dillad a llestri gyda’i gilydd

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Rhannwch eich teimladau gyda’ch cymar yn ogystal â gwybodaeth neu farn

  • Siaradwch gyda’ch cymar cyn gwneud penderfyniadau

a Yn ieithoedd gwreiddiol y Beibl, mae’n datgelu mai Jehofa yw enw Duw.

BYDDWCH YN REALISTIG AC YN BOSITIF

Peidiwch â disgwyl i’ch cymar, nac i chi eich hunan, fod yn berffaith. (Salm 103:14; Iago 3:2) Beth am ganolbwyntio ar rinweddau da eich cymar? Byddwch yn hyderus fod egwyddorion y Beibl yn gweithio, a byddwch yn amyneddgar. (2 Timotheus 3:16) Bydd Jehofa yn gwobrwyo eich ymdrechion i ddilyn ei gyngor, a bydd eich priodas yn cryfhau o un flwyddyn i’r llall.—Galatiaid 6:9.

YSTYRIWCH HYN . . .

  • Ydy fy nghymar yn gweld fy mod i’n gofalu amdano ef neu hi yn fwy na fy hun?

  • Beth rydw i wedi ei wneud heddiw sy’n dangos fy nghariad a pharch tuag at fy nghymar?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu