SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO
Darparu Cymorth Ynghanol “Rhyfeloedd a Sôn am Ryfeloedd”
MAI 27, 2022
Yn y dyddiau olaf hyn, dydy “rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd,” ddim yn syndod inni. (Mathew 24:6) A phan mae ein brodyr yn wynebu problemau oherwydd y rhyfeloedd hyn, maen nhw’n cael y gefnogaeth maen nhw’n ei hangen. Rhoddodd Diweddariad #3 2022 gan y Corff Llywodraethol wybodaeth galonogol am y gwaith cymorth sy’n digwydd yn Nwyrain Ewrop ar gyfer y rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y rhyfel yn Wcráin. Sut mae’r cymorth hwn yn cael ei ddarparu hyd yn oed pan fydd pobl yn brwydro gerllaw? Pa effaith mae ein hymdrechion i helpu wedi cael ar ein brodyr yn Wcráin?
Beth Sydd Ei Angen? Sut Mae’n Cael Ei Ddosbarthu?
Ar Chwefror 24, 2022, y diwrnod dechreuodd y rhyfel yn Wcráin, cymeradwyodd Pwyllgor y Cydlynwyr swm o arian i helpu ein brodyr yn Wcráin. Aeth cangen Wcráin ati’n syth i brynu eitemau yn lleol a’u dosbarthu drwy’r 27 o Bwyllgorau Cymorth ar ôl Trychineb a oedd wedi eu penodi gan y gangen.
I gefnogi’r ymdrechion hyn, dechreuodd gwaith yn syth ym Mhencadlys Tystion Jehofa i ddarganfod pa gymorth ymarferol oedd yn bosib i’w ddarparu. Aeth dau o bwyllgorau’r Corff Llywodraethol, sef Pwyllgor y Cydlynwyr a’r Pwyllgor Cyhoeddi, ati i ofyn i’r Adran Brynu Fyd-Eang i weithio gyda chynrychiolwyr o ganghennau Wcráin a Gwlad Pwyl i gyflenwi’r anghenion a datblygu cynllun gweithredu. Daeth brodyr o adrannau Prynu, Cludo a Chyfreithiol y ddwy gangen, aelod o Bwyllgor Cangen Wcráin, ac aelodau o’r Adran Brynu Fyd-Eang at ei gilydd i gydlynu ymdrechion.
Mae pecynnau cymorth yn cynnwys bwyd, eitemau hylendid, a chardiau wedi eu gwneud â llaw gyda negeseuon i godi calon
“Yn gyntaf, roedd rhaid holi i weld beth roedd angen ei gael,” meddai Jay Swinney o’r Adran Brynu Fyd-Eang. “Roedden ni eisiau darparu bwyd ac eitemau hylendid y byddai’r brodyr lleol yn gyfarwydd â nhw. Ond, dim ond un rhan o’r broblem oedd penderfynu beth oedd yr anghenion. Hefyd, roedd rhaid gweithio allan sut i anfon y nwyddau i Wcráin yng nghanol y rhyfel yn y modd mwyaf diogel a chyflym a oedd yn bosib.”
Erbyn Mawrth 9, 2022, roedd y brodyr yn gwybod pa bethau roedd ein brodyr a’n chwiorydd yn Wcráin eu hangen. Byddai bocsys o eitemau bwyd sylfaenol, fel tuniau o gig a physgod, grawn, reis, a ffa yn cael eu darparu, yn ogystal ag eitemau hylendid fel sebon a phapur toiled. Ar y pryd, cafodd ei amcangyfrif y byddai cyflenwad pedair wythnos o nwyddau i un person yn costio tua £50. Gan ei bod yn debyg y byddai miloedd o’n brodyr angen y pethau hyn, cymeradwyodd Pwyllgor y Cydlynwyr gyllid sylweddol er mwyn darparu’r cymorth. Ond sut gallai’r nwyddau hyn gael eu hanfon heb beryglu diogelwch ein brodyr yn ddiangen?
Ar Fawrth 13, gwnaeth dau frawd o Wlad Pwyl arbrawf o anfon nwyddau o swyddfa gangen Gwlad Pwyl i warws yn agos i Lviv, Wcráin. Yn y dyddiau cyn iddyn nhw adael, helpodd staff canghennau Gwlad Pwyl ac Wcráin y ddau wirfoddolwr i baratoi am eu taith. Gwnaeth y gangen drefnu’r gwaith papur cyfreithiol oedd ei angen i groesi’r ffin i ddarparu cymorth dyngarol, gan sicrhau bod cerbydau’r brodyr wedi eu marcio’n glir i ddangos eu bod nhw’n darparu cymorth, a chydlynu gyda’r brodyr lleol yn Wcráin i benderfynu’r ffordd gyflymaf unwaith oedd y brodyr wedi croesi’r ffin. Gyda pharatoi trylwyr a bendith Jehofa, cafodd y nwyddau cymorth eu rhannu ymhlith y Pwyllgorau Cymorth Trychineb o fewn 24 awr ar ôl cyrraedd Lviv, a dychwelodd ein brodyr yn ddiogel i Wlad Pwyl.
Er llwyddiant y daith gyntaf, roedd y brodyr wedi anfon llai na thunnell fetrig o nwyddau. Roedd dal angen cyflenwad o tua 200 tunnell fetrig! Sut gallai cymaint o nwyddau â hyn gael eu cludo a’u dosbarthu mor gyflym â phosib?
Bydd Dy Bobl yn Cynnig Eu Hunain o’u Gwirfodd
Ar ôl darllen adroddiadau ar jw.org ynglŷn â sut mae ein brodyr yn cael eu heffeithio gan y sefyllfa yn Wcráin, mae unigolion o bedwar ban byd eisiau helpu. Gwnaeth llawer oedd yn byw ymhell i ffwrdd gyfranu’n ariannol at waith byd-eang Tystion Jehofa, gan wybod y byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosib. Roedd eraill sy’n byw mewn gwledydd cyfagos yn gallu rhoi o’u hamser, egni, ac adnoddau personol er mwyn helpu. Dyma ychydig o esiamplau.
Yng Ngwlad Pwyl, rhoddodd gwirfoddolwyr ddegau o filoedd o becynnau gofal at ei gilydd, ac roedd plant wedi gwneud lluniau ar gardiau roedden nhw wedi eu gwneud eu hunain. “Lawer tro dw i wedi darllen yr adnod yn Salm 110:3, sy’n cyfeirio at bobl Jehofa yn cynnig eu hunain yn ewyllysgar neu o’u gwirfodd,” meddai Bartosz Kościelniak, aelod o’r Adran Brynu yng nghangen Gwlad Pwyl. “Mae gweld cannoedd o wirfoddolwyr yn barod i helpu’n syth, wedi dangos imi fod geiriau’r adnod yn wir.”
Gwnaeth un o Dystion Jehofa sy’n berchen ar gwmni logisteg rhyngwladol gyfrannu tryciau a thanwydd. Dywedodd: “Imi, mae’n gyfle i ddangos fy nghariad tuag at fy mrodyr a thuag at Jehofa. Dw i mor hapus mod i wedi cynnig helpu.” Amcangyfrifir bod mwy na 7,700 litr (1,694 galwyn) o danwydd wedi cael ei gyfrannu, a defnyddiodd brodyr eu hamser a’u hegni i yrru bron 48,000 cilomedr (30,000 milltir) i anfon y nwyddau!
Oherwydd cariad a gwaith caled ein brodyr a’n chwiorydd, cafodd 100 tunnell fetrig o fwyd, deunyddiau hylendid, a chyflenwadau meddygol eu hanfon i Wcráin erbyn Mawrth 28—dim ond 15 diwrnod ar ôl yr arbrawf dosbarthu cyntaf! A gan fod ein brodyr a’n cyflenwyr wedi cyfrannu mor hael, cafodd y swm oedd angen ei wario ar gyfer y pecynnau cymorth ei gwtogi’n sylweddol. Hyd yma, mae Tystion Jehofa wedi anfon dros 190 tunnell fetrig o nwyddau cymorth i Wcráin. Pa effaith gafodd y nwyddau ar ein brodyr?
‘Roedden Nhw Hefyd yn Cynnwys Eich Cariad!’
Unwaith i’r pecynnau gyrraedd Lviv, gwnaeth Pwyllgorau Cymorth Trychineb drwy gydol Wcráin eu dosbarthu i’r rhai mewn angen. Mae pecynnau cymorth wedi cael eu hanfon i amryw ddinasoedd, rhai mwy na 1,300 cilomedr (800 milltir) o Lviv. Er cafodd y gwaith ei wneud mor effeithlon â phosib, roedd yn dal i gymryd amser.a
Dywedodd Markus Reinhardt, aelod o Bwyllgor Cangen Wcráin: “Yn ystod y creisis, mae llawer o frodyr wedi gweld cariad Jehofa drostyn nhw eu hunain, a’r buddion o lynu’n agos at gyfarwyddyd ei gyfundrefn—hyd yn oed cyn i argyfwng daro. Er enghraifft, mae pawb yn cael eu hannog i gadw cyflenwad sawl wythnos o fwyd a dŵr yn eu tai. Ynglŷn â’r cyfarwyddyd hwnnw, dywedodd Anton, henuriad yn ninas Kyiv: ‘Mae cyfundrefn Jehofa wedi ein paratoi ni am sefyllfaoedd anodd, a ’dyn ni’n ddiolchgar am hynny. Mae’r ffaith fod gynnon ni gyflenwad o fwyd a dŵr yn ogystal â radio wedi achub ein bywydau.’ ’Dyn ni mor ddiolchgar bod y brodyr wedi ufuddhau i’r cyfarwyddyd am fod hynny wedi rhoi amser i swyddfa’r gangen drefnu’r nwyddau cymorth oedd eu hangen.”
Beth oedd ymateb ein brodyr pan gyrhaeddodd y pecynnau cymorth? Mynegodd Mykola a Zinaida, sy’n byw yn ninas Kharkiv, eu teimladau fel hyn: “Mae eich consýrn yn cyffwrdd â’n calonnau. Diolch yn fawr iawn am y bwyd â’r feddyginiaeth. Yn wir i chi, gallwn weld llaw Jehofa yn hyn.” Mae Valentyna yn byw yn yr un ardal. Dywedodd hi: “Ers dechrau’r rhyfel roedd ’na giwiau hir am fwydydd. Doedd hi ddim bob amser yn bosib prynu’r pethau roedden ni eu hangen. Ond roedd Jehofa’n gwybod, mi welodd o’r broblem. Penododd frodyr i ddosbarthu cymorth dyngarol i gartrefi, ac roedd y pecynnau’n cynnwys yn union beth roedd ei angen arnon ni! Yn y fath amgylchiadau anodd, pan mae’r sefyllfa’n ymddangos yn anobeithiol, mae rhywun yn teimlo gofal Jehofa a’i gyfundrefn mewn ffordd arbennig. . . . Mae’n deimlad hyfryd iawn i brofi ei help a’i gefnogaeth, ar adeg pan mae angen mawr amdano.”
Dywedodd Yevhen ac Iryna, oedd wedi ffoi o Mariupol: “’Dyn ni’n hynod o ddiolchgar am eich gofal a chefnogaeth dros ein teulu. Credwch chi ni, roedd hi’n amserol iawn. Wyddoch chi beth, yn y dechrau, roedden ni’n meddwl mai nwyddau’n unig oedd yn y bocsys, ond pan wnaethon ni eu hagor nhw, sylweddolon ni eu bod nhw hefyd yn cynnwys eich cariad!”
Heb amheuaeth, gallwch chi weld sut mae ysbryd a chyfarwyddyd Jehofa yn rhan annatod o ddosbarthu’r cymorth cariadus yng nghanol “rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd.” Mae eich cyfraniadau hael tuag at y gwaith byd-eang, a llawer o’r rheini wedi dod drwy donate.jw.org, hefyd wedi chwarae rôl bwysig. Gwerthfawrogwn eich haelioni yn fawr iawn!
Rhoi Cymorth Mor Gyflym ac Mor Ddiogel â Phosib
Chwefror 24, 2022: Mae Pwyllgor y Cydlynwyr yn cymeradwyo cyllid cymorth ar gyfer Wcráin, sy’n caniatáu i’r gangen ddechrau darparu cymorth
Chwefror 24-Mawrth 8, 2022: Mae cangen Wcráin yn prynu pethau yn lleol ac yn dechrau eu dosbarthu drwy Bwyllgorau Cymorth Trychineb. Mae swyddfa’r gangen hefyd yn paratoi ar gyfer derbyn a dosbarthu nwyddau o Wlad Pwyl
Mawrth 9, 2022: Mae Pwyllgor y Cydlynwyr yn cymeradwyo anfon cymorth dyngarol i Wcráin
Mawrth 10-12, 2022: Gwneud cynlluniau am arbrawf i ddosbarthu bwyd a chyflenwadau o Wlad Pwyl i Lviv, Wcráin
Mawrth 13, 2022: Arbrawf dosbarthu yn cychwyn ac anfonwyd bwyd a chyflenwadau o Wlad Pwyl i Lviv, Wcráin
Mawrth 14-16, 2022: Mewn Neuadd Cynulliad ger Poznan, Gwlad Pwyl, mae gwirfoddolwyr o’r adran Ddylunio ac Adeiladu yn dod i roi pecynnau bwyd a deunyddiau hylendid at ei gilydd
Mawrth 17, 2022: Bedwar diwrnod ar ôl yr arbrawf dosbarthu llwyddiannus, mae’r brodyr yn dechrau cludo 13 tunnell fetrig o becynnau cymorth i’r ffin ag Wcráin
Mawrth 21-27, 2022: Gan ddilyn yr un patrwm, mae gweddill y pecynnau cymorth yn cael eu rhoi at ei gilydd yng Ngwlad Pwyl, eu hanfon i Wcráin, ac yna o fewn 24 awr yn cael eu dosbarthu i’r ardaloedd oedd eu hangen
Mawrth 28, 2022: O fewn 20 diwrnod o gael cymeradwyaeth, roedd 100 tunnell fetrig o fwyd, eitemau hylendid, a deunyddiau cymorth meddygol wedi cael eu dosbarthu i Wcráin
Hyd yma, mae Tystion Jehofa wedi anfon mwy na 190 tunnell fetrig o nwyddau cymorth i Wcráin.
a I ddarllen mwy am sut cafodd y nwyddau cymorth eu dosbarthu, gweler yr erthygl “Brothers Courageously Deliver Aid, Rescue Others in Ukrainian War Zone.”