LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • hdu erthygl 22
  • Mae’r Byddar Heb Eu Hanghofio

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Mae’r Byddar Heb Eu Hanghofio
  • Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut Mae Fideos Iaith Arwyddion yn Cael Eu Gwneud?
  • Sut Mae Fideos Iaith Arwyddion yn Cael Eu Dosbarthu?
  • Dydy Bod yn Fyddar Ddim Wedi Fy Nal yn Ôl Rhag Dysgu Eraill
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
  • Llyfrgell yng Nghledr Eich Llaw
    Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
  • Efallai Bydd Angen Chwilio Cyn Pregethu
    Ein Gweinidogaeth—2012
  • Ffyrdd o Ddefnyddio JW Library
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2016
Gweld Mwy
Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
hdu erthygl 22
Chwaer yn gwylio fideo o adnod mewn iaith arwyddion ar lechen.

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Mae’r Byddar Heb Eu Hanghofio

GORFFENNAF 1, 2022

Mae Jehofa Dduw eisiau i bawb, beth bynnag yw eu hamgylchiadau, ddod i ddysgu amdano a’i Deyrnas nefol. (1 Timotheus 2:3, 4) Am y rheswm hwnnw, mae Tystion Jehofa yn cyhoeddi Beiblau a chymhorthion astudio’r Beibl i gymaint o bobl ag sy’n bosib, gan gynnwys pobl fyddar. Y ffaith amdani yw, mae ein cyfundrefn wedi cynhyrchu miloedd o gyhoeddiadau mewn ffurf fideos iaith arwyddion,a sydd i’w cael mewn dros 100 o ieithoedd arwyddion! Sut rydyn ni’n mynd ati i gynhyrchu’r cyhoeddiadau hyn a’u dosbarthu? A pha welliannau rydyn ni wedi eu cyflwyno dros y blynyddoedd?

Sut Mae Fideos Iaith Arwyddion yn Cael Eu Gwneud?

Tîm iaith arwyddion yn gweithio gyda’i gilydd i gyfieithu cyhoeddiad.

Timau cyfieithu o gwmpas y byd sy’n mynd ati i gynhyrchu cyhoeddiadau iaith arwyddion. Bydd aelodau pob tîm yn astudio’r cyhoeddiad maen nhw angen ei gyfieithu yn ofalus. Nesaf, maen nhw’n penderfynu sut i gyflwyno’r wybodaeth mewn iaith arwyddion yn y ffordd orau. Ar ôl hynny, byddan nhw’n recordio’r cyhoeddiad mewn fideo. Ar hyn o bryd, mae 60 o dimau’n cyfieithu cymhorthion astudio’r Beibl i iaith arwyddion yn rheolaidd, ac mae 40 arall yn gwneud hynny’n achlysurol.

Yn y gorffennol, roedd hi’n gostus i gynhyrchu fideos iaith arwyddion. Roedd camerâu fideo ac offer eraill yn ddrutach nag y maen nhw heddiw. Hefyd, cafodd fideos eu cynhyrchu mewn stiwdio, un yr oedd rhaid inni ei chodi ein hunain, weithiau drwy adnewyddu adeilad oedd yn bodoli yn barod. Byddai cyfanswm y gost yn dod i dros £25,000 i gael popeth wedi ei sefydlu ar gyfer tîm cyfieithu iaith arwyddion.

Er mwyn gwneud y defnydd gorau o gyfraniadau, mae ein cyfundrefn wedi edrych ar ffyrdd i wella a symleiddio’r broses o gyfieithu. Felly, rydyn ni wedi mynd ati i ddefnyddio offer modern sy’n hawdd eu defnyddio ac yn llai drud. Yn lle defnyddio stiwdio, gall timau cyfieithu osod cefndir gwyrdd a elwir sgrin werdd a recordio fideos yn eu swyddfa. Pan fydd angen llawer o wahanol arwyddwyr, gall brodyr a chwiorydd recordio eu rhan nhw o’r cyhoeddiad o’u swyddfa neu o’r cartref; does dim rhaid iddyn nhw fynd i stiwdio bellach.

Tîm cyfieithu yn recordio cyhoeddiad iaith arwyddion. Mae’r arwyddwr yn sefyll o flaen sgrin werdd.

Hefyd, rydyn ni wedi cynhyrchu meddalwedd i helpu arwyddwyr gyda’i gwaith. Mae’r fath welliannau wedi haneru’r amser mae timau cyfieithu ei angen er mwyn cynhyrchu cyhoeddiad iaith arwyddion. Mae ein brodyr yn gwerthfawrogi’r gwelliannau hyn. Dywedodd brawd o’r enw Alexander: “Mae fideos iaith arwyddion yn cael eu rhyddhau yn amlach o lawer nag o’r blaen. Dw i wrth fy modd efo hynny. Byddaf yn gwylio’r fideos bob dydd.”

Y dyddiau hyn, mae’n costio ychydig dros £4,000 i gael y cyfarpar ar gyfer tîm cyfieithu. O ganlyniad i hyn, gallwn ni gynhyrchu fideos iaith arwyddion mewn llawer mwy o ieithoedd.

Sut Mae Fideos Iaith Arwyddion yn Cael Eu Dosbarthu?

Unwaith y bydd tîm yn gorffen recordio cyhoeddiad iaith arwyddion, mae’n rhaid i’r fideos gyrraedd y rhai sydd eu hangen. Yn y gorffennol, gwnaethon ni gynhyrchu casetiau fideo a DVDs, ond roedd hyn yn ddrud, ac yn cymryd llawer o amser a gwaith. Byddai’r recordiadau yn cael eu hanfon i gwmni allanol ar gyfer eu dyblygu. Yn y diwedd, cafodd y casetiau fideo a’r DVDs eu cludo i’r cynulleidfaoedd. Yn 2013 yn unig, gwnaethon ni wario mwy na £1.6 miliwn ar gynhyrchu DVDs iaith arwyddion.

Chwaraewr DVDs cludadwy ac amryw gyhoeddiadau iaith arwyddion ar DVD.

Roedd y byddariaid yn hynod o ddiolchgar am y ddarpariaeth honno. Ond, doedd y fideos ddim bob amser yn hawdd i’w defnyddio, yn enwedig wrth i nifer y casetiau neu’r DVDs gynyddu. Mewn rhai achosion, roedd angen sawl DVD i recordio un llyfr o’r Beibl. Mae Gilnei, brawd ym Mrasil, yn cofio: “Pryd bynnag roedden ni eisiau darllen adnod, byddai’n rhaid inni gael hyd i’r casét fideo iawn ac yna cael hyd i’r adnod. Roedd hi’n anodd iawn.” Dywedodd chwaer o’r enw Rafayane, oedd yn defnyddio DVDs iaith arwyddion: “Roedd hi braidd yn llafurus i wneud astudiaeth bersonol. Mi wnaethon ni dreulio llawer o amser yn chwilio am adnodau neu gyfeiriadau.” A phan oedd ein brodyr a’n chwiorydd yn y gwaith pregethu, bydden nhw’n aml yn cymryd DVDs neu gasetiau fideo gyda nhw. Roedden nhw’n gallu chwarae’r rhain ar set deledu’r person â diddordeb. Byddai rhai brodyr hyd yn oed yn mynd â’u chwaraewyr DVDs eu hunain. Ond, cyn bo hir, daeth chwaraewyr DVDs gyda sgrin ar y farchnad, ac roedd llawer o’r brodyr yn defnyddio’r rhain. Dywedodd Bobby, sy’n byw yn yr Unol Daleithiau: “Os oeddech chi newydd ddangos un adnod ac eisiau dangos un arall, yn aml roedd rhaid ichi newid i DVD gwahanol. Cymerodd hyn lawer o amser a chyfyngodd ar ein gallu i ddefnyddio’r Beibl mewn sgyrsiau.”

Yn 2013, rhyddhaodd cyfundrefn Jehofa yr ap JW Library Sign Language, sy’n caniatáu i frodyr a chwiorydd lawrlwytho fideos iaith arwyddion a’u chwarae ar eu ffonau clyfar neu ar eu llechi. Cafodd yr ap ei ryddhau gyntaf ar gyfer Iaith Arwyddion America. Yna, yn 2017, cafodd ei ddiweddaru i gefnogi pob iaith arwyddion. Roedd brodyr a chwiorydd o gwmpas y byd wrth eu boddau. Dywedodd Juscelino, brawd ym Mrasil: “O’n i’n methu credu’r peth! Dyma oedd ar flaen fy meddwl trwy’r amser; y cariad roedd y Corff Llywodraethol yn dangos tuag aton ni bobl fyddar, a’r ffaith eu bod nhw eisiau inni wneud cynnydd yn y gwir yn union fel y rhai sy’n defnyddio iaith lafar. O’n i wedi gwirioni, a sbardunodd yr ap imi astudio’r Beibl hyd yn oed yn fwy.”

Chwaer yn defnyddio’r ap “JW Library Sign Language” i wylio’r fideo “Daniel: Yn Ffyddlon ar hyd ei Oes—Rhan II.”

Defnyddio’r ap JW Library Sign Language

Heddiw, rydyn ni’n cynhyrchu pob fideo iaith arwyddion mewn fformat digidol ac yn eu dosbarthu nhw ar ein gwefan ac ar yr ap JW Library Sign Language. O ganlyniad i hyn, gall cyhoeddiadau iaith arwyddion gael eu cyfieithu, eu recordio, a’u dosbarthu o fewn ychydig ddyddiau, yn hytrach na fisoedd neu flynyddoedd. Y ffaith amdani yw, mewn llawer o ieithoedd arwyddion, mae’r cyhoeddiadau yn cael eu rhyddhau ar yr un amser â chyhoeddiadau iaith lafar.

Dyma ychydig o sylwadau gan ein brodyr a’n chwiorydd byddar. Dywedodd chwaer o’r enw Klízia: “Pa gyfundrefn sy’n gofalu cymaint am y rhai byddar eu bod nhw’n fodlon darparu bwyd ysbrydol mewn ffordd sydd mor hawdd inni fynd ato? Does ’na ddim unrhyw beth yn y byd sy’n cymharu â beth mae cyfundrefn Jehofa wedi ei wneud inni.” Dywedodd Vladimir: “Mae’r fideos yn dangos bod Jehofa yn gofalu cymaint am bobl fyddar ag y mae o am bobl sy’n clywed.”

Mae ein fideos iaith arwyddion yn aml yn datgan y canlynol: “Ni chodir tâl am y cyhoeddiad hwn. Fe’i darperir fel rhan o waith addysgol Beiblaidd byd-eang a gefnogir gan gyfraniadau gwirfoddol.” Gwerthfawrogwn eich cyfraniadau yn fawr iawn, llawer ohonyn nhw sy’n dod drwy donate.jw.org. Mae’r arian yn galluogi ni i gynhyrchu Beiblau a chymhorthion astudio ar gyfer pawb, gan gynnwys y rhai sy’n defnyddio iaith arwyddion.

a Gan fod ieithoedd arwyddion yn cyflwyno syniadau’n weledol drwy ddefnyddio dwylo ac ystumiau’r wyneb, mae cyhoeddiadau iaith arwyddion yn cael eu rhyddhau mewn fformat fideo yn hytrach nag ar y dudalen brintiedig.

Cerrig Milltir Mewn Cyfieithu Ieithoedd Arwyddion

1992: Rhyddhau ein casét fideo iaith arwyddion cyntaf

2002: Rhyddhau ein DVD iaith arwyddion cyntaf

2013: Rhyddhau yr ap JW Library Sign Language

2017: Diweddaru’r ap JW Library Sign Language er mwyn cefnogi pob iaith arwyddion

2020: Rhyddhau’r Beibl Iaith Arwyddion cyfan cyntaf, Cyfieithiad y Byd Newydd yn Iaith Arwyddion America

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu