PENNOD 32
Sut Gwnaeth Jehofa Amddiffyn Iesu?
WEITHIAU mae Jehofa yn gwneud pethau anhygoel i edrych ar ôl y rhai ifanc sydd ddim yn gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain. Os wyt ti’n mynd am dro yng nghefn gwlad, efallai gweli di enghraifft o’r ffordd mae Jehofa yn gwneud hyn. Ond i ddechrau, efallai na fyddi di’n deall beth sy’n digwydd.
Efallai byddi di’n gweld aderyn yn glanio wrth dy ochr. Mae’n edrych fel petai wedi brifo. Mae’n llusgo un o’i adenydd ac yn symud yn syth os wyt ti’n ceisio mynd yn nes. Rwyt ti’n dilyn yr aderyn, ond mae’n cadw draw oddi wrthot ti. Yna yn sydyn, mae’n hedfan i ffwrdd. Doedd ei adenydd ddim wedi brifo o gwbl! Wyt ti’n gwybod beth roedd yr aderyn yn ei wneud?—
Wel, mae’n debyg bod gan yr aderyn nyth llawn cywion yn y gwrych yn agos i le roeddet ti’n sefyll. Roedd yn ofni y byddet ti’n cael hyd iddyn nhw a’u brifo. Felly roedd yn esgus ei fod wedi cael anaf er mwyn dy ddenu di i ffwrdd. Wyt ti’n gwybod pwy sy’n gallu gofalu amdanon ni fel mae’r aderyn yn gofalu am ei gywion?— Mae’r Beibl yn cymharu Jehofa â ag aderyn o’r enw eryr sy’n gofalu am ei gywion bach.—Deuteronomium 32:11, 12.
Sut mae’r aderyn hwn yn cadw ei gywion bach yn saff?
Plentyn mwyaf annwyl Jehofa yw Iesu. Pan oedd Iesu yn y nef, roedd yn bwerus iawn, fel ei Dad. Roedd yn gallu gofalu amdano ef ei hun. Ond pan gafodd ei eni ar y ddaear, doedd Iesu ddim yn gallu gwneud unrhyw beth drosto ef ei hun. Roedd angen i rywun ofalu amdano.
Er mwyn cyflawni ewyllys Duw ar y ddaear, roedd yn rhaid i Iesu dyfu i fod yn ddyn perffaith. Ond roedd Satan yn ceisio lladd Iesu cyn i hynny ddigwydd. Mae’r ffyrdd i Satan geisio lladd Iesu pan oedd yn blentyn a’r ffyrdd i Jehofa ei amddiffyn yn stori gyffrous iawn. Fyddet ti’n hoffi ei chlywed?—
Yn fuan ar ôl i Iesu gael ei eni, achosodd Satan i rywbeth tebyg i seren ymddangos yn y Dwyrain. Fe wnaeth grŵp o astrolegwyr, sef dynion sy’n astudio’r sêr, ddilyn y seren am gannoedd o filltiroedd nes iddyn nhw gyrraedd Jerwsalem. Yno, gofynnon nhw lle byddai brenin yr Iddewon yn cael ei eni. Ateb dynion oedd yn gyfarwydd â geiriau’r Beibl oedd: “Ym Methlehem.”—Mathew 2:1-6.
Ar ôl i’r astrolegwyr fynd i weld Iesu, pa rybudd gawson nhw gan Dduw a oedd yn cadw Iesu’n ddiogel?
Ar ôl i’r brenin drwg, Herod, glywed am enedigaeth y brenin newydd ym Methlehem, dywedodd wrth yr astrolegwyr: ‘Ewch i chwilio am y plentyn, ac yna, dewch yn ôl a rhoi gwybod imi.’ Wyt ti’n gwybod pam roedd Herod eisiau dod o hyd i Iesu?— Roedd yn genfigennus ac eisiau lladd Iesu.
Sut gwnaeth Duw amddiffyn ei Fab?— Wel, pan ddaeth yr astrolegwyr o hyd i Iesu, rhoddon nhw anrhegion iddo. Yn nes ymlaen, cafodd yr astrolegwyr eu rhybuddio gan Dduw mewn breuddwyd am beidio â mynd yn ôl i weld Herod. Felly fe aethon nhw adref heb fynd yn ôl i Jerwsalem. Pan ddysgodd Herod am hyn, roedd yn gandryll. Er mwyn ceisio lladd Iesu, rhoddodd Herod orchymyn i bob bachgen o dan ddwyflwydd oed ym Methlehem gael ei ladd! Ond erbyn hynny, roedd Iesu wedi gadael.
Wyt ti’n gwybod sut llwyddodd Iesu i ddianc?— Ar ôl i’r astrolegwyr adael, rhoddodd Jehofa rybudd i Joseff, gŵr Mair, a dweud wrtho am ddianc i’r Aifft. Yno, roedd Iesu’n ddiogel. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, pan ddaeth Mair a Joseff yn ôl o’r Aifft gyda Iesu, rhoddodd Duw rybudd arall i Joseff. Mewn breuddwyd, dywedodd wrtho am symud i Nasareth lle byddai Iesu’n ddiogel.—Mathew 2:7-23.
Sut gafodd Iesu ei achub unwaith eto?
Wyt ti’n gweld sut roedd Jehofa yn amddiffyn ei Fab?— Pwy wyt ti’n meddwl sy’n debyg i’r cywion bach yn cuddio yn y nyth, neu i Iesu pan oedd yn blentyn bach? Wyt ti’n debyg iddyn nhw?— Mae ’na rai pobl sydd eisiau dy frifo di hefyd. Wyt ti’n gwybod pwy ydyn nhw?—
Mae’r Beibl yn dweud bod Satan yn debyg i lew sy’n rhuo ac sydd eisiau ein llyncu. Ac fel mae llewod yn mynd ar ôl anifeiliaid bach, mae Satan a’i gythreuliaid yn aml yn meddwl y bydd hi’n hawdd brifo plant. (1 Pedr 5:8) Ond mae Jehofa yn gryfach na Satan. Mae’n gallu cadw ei blant yn saff neu ddad-wneud unrhyw beth drwg mae Satan wedi ei wneud iddyn nhw.
Wyt ti’n cofio darllen Pennod 10 o’r llyfr hwn a gweld beth mae’r Diafol a’i gythreuliaid eisiau inni ei wneud?— Maen nhw’n ceisio dylanwadu arnon ni i fynd yn erbyn cyfraith Duw ar ryw. Ond pwy ydy’r unig bobl a ddylai gael ryw?— Ie, gŵr a gwraig sydd wedi priodi i’w gilydd.
Ond, yn drist iawn, mae rhai oedolion yn hoffi cael rhyw gyda phlant. Weithiau bydd bechgyn a merched wedyn yn dechrau gwneud pethau drwg maen nhw wedi eu dysgu gan yr oedolion hyn. Maen nhw’n dechrau defnyddio eu horganau rhywiol mewn ffordd anghywir. Dyna ddigwyddodd amser maith yn ôl yn ninas Sodom. Mae’r Beibl yn dweud bod “dynion hen ac ifanc” wedi ceisio cael rhyw gyda dynion oedd wedi dod i weld Lot.—Genesis 19:4, 5.
Yn union fel roedd Iesu angen ei amddiffyn, rwyt ti hefyd angen cael dy amddiffyn rhag oedolion—neu blant eraill—sydd efallai eisiau cael rhyw gyda ti. Gan amlaf, bydd y bobl hyn yn esgus bod yn ffrindiau iti. Efallai byddan nhw hyd yn oed yn cynnig anrheg iti os wyt ti’n addo peidio â dweud wrth eraill am beth maen nhw eisiau ei wneud iti. Ond mae’r bobl hyn yn hunanol, fel Satan a’u gythreuliaid, ac maen nhw ond yn meddwl am eu pleser nhw eu hunain. Ac maen nhw’n ceisio cael eu pleser drwy gael rhyw gyda phlant. Mae hyn yn ddrwg iawn!
Wyt ti’n gwybod beth efallai byddan nhw’n ei wneud er mwyn cael pleser?— Wel, efallai byddan nhw’n ceisio chwarae gyda dy organau rhywiol, neu rwbio eu horganau rhywiol nhw yn dy erbyn di. Ond ddylet ti byth gadael i neb chwarae gyda dy bidyn neu dy fwlfa. Nid hyd yn oed dy frawd neu dy chwaer, neu dy fam neu dy dad. Mae’r rhannau hyn o dy gorff yn rhai preifat.
Beth ddylet ti ei ddweud a’i wneud os bydd rhywun yn ceisio dy gyffwrdd di mewn ffordd anghywir?
Sut gelli di amddiffyn dy gorff rhag pobl sy’n gwneud pethau drwg fel hyn?— Yn gyntaf, paid â gadael i neb chwarae gyda dy organau rhywiol. Os bydd rhywun yn ceisio gwneud hynny, dyweda mewn llais uchel a chlir: “Stopia wneud hynny! Dw i’n mynd i ddweud wrth rywun!” Ac os ydy’r person yn dweud mai bai ti yw beth sydd wedi digwydd, paid â chredu hynny. Dydy hynny ddim yn wir. Ni waeth pwy ydyw, dos i ddweud wrth rywun yn syth. Dylet ti wneud hyn hyd yn oed os bydd y person yn dweud mai cyfrinach rhyngoch chi’ch dau ydy’r pethau rydych chi’n eu gwneud. Hyd yn oed os bydd yn addo rhoi anrhegion iti neu’n codi ofn arnat ti, dylet ti redeg i ffwrdd a dweud wrth rywun yn syth.
Does dim angen iti fod ag ofn, ond mae’n rhaid iti fod yn ofalus. Pan fydd dy rieni yn dy rybuddio di am bobl neu am leoedd all fod yn beryglus, mae’n rhaid iti wrando. Os wyt ti’n gwneud hynny, byddi di’n cadw dy hun yn saff rhag cael dy frifo gan bobl ddrwg.
Cei di ddarllen am sut i osgoi ymddygiad rhywiol sydd yn anghywir yng ngolwg Jehofa yn Genesis 39:7-12; Diarhebion 4:14-16; 14:15, 16; 1 Corinthiaid 6:18; 2 Pedr 2:14.