CÂN 52
Ymgysegru yn Gristion
1. Mawr Dduw Jehofa a greodd
Ysblander gloyw’r nef;
Yr haul, y lloer, a’r sêr uwchben
Yw gwaith ei fysedd ef.
I ddyn rhoes anadl bywyd,
A’r ddae’r yn gartre’ gwiw.
Ei enw sy’n fawr drwy’r byd i gyd,
Llawn deilwng o’n mawl yw Duw.
2. Cael bedydd dŵr a wnaeth Iesu—
Cyfiawnder oedd ar waith;
“I wneud d’ewyllys, dyma fi,
O Dduw,” gweddïo wnaeth.
O’r ddofn Iorddonen fe gododd
Yn Fab eneiniog Duw.
Ar lwyr ymostyngiad rhoes ei fryd,
Yn was daeth i’r ddynol ryw.
3. Ger bron dy orsedd, Jehofa,
Pob clod i’th enw rhown.
I lwyr gysegru’n bywyd nawr
Yn wylaidd atat down.
Angerddol aberth d’anwylyd
Yw sail ein gobaith ni.
Ai byw gawn, ai marw, d’eiddo ŷm.
Iôr, safwn yn driw i ti.
(Gweler hefyd Math. 16:24; Marc 8:34; Luc 9:23.)