CÂN 32
Saf o Blaid Jehofa!
1. Cyn i ni ddysgu a deall y gwir,
Yfed a wnaethom o gwpan amhur.
Mawr yw’n llawenydd wrth yfed dŵr clir,
A chanu â chalon lân.
(CYTGAN)
Saf o blaid Jehofa, Ei gwmni, mwynha!
Byth wna ef dy siomi, Yn Nuw llawenha.
Rhanna dy orfoledd, Rhanna’r newydd da
Am Grist a’i Deyrnasiad—Hir fydd ei barhad.
2. Hwn ydyw’r amser i sefyll o’i blaid,
Hon ydyw’r awr, penderfynu sydd rhaid.
Felly pregethu a wnawn yn ddi-baid
Er mwyn rhoi cyfle i bawb.
(CYTGAN)
Saf o blaid Jehofa, Ei gwmni, mwynha!
Byth wna ef dy siomi, Yn Nuw llawenha.
Rhanna dy orfoledd, Rhanna’r newydd da
Am Grist a’i Deyrnasiad—Hir fydd ei barhad.
3. Ni wnawn ni ofni’r Diafol a’i dwyll.
Serch popeth wnaeth, daeth y lleiaf yn llwyth.
Trystiwn Jehofa o’n calon, yn llwyr.
Ef yw’n cadernid a’n cân.
(CYTGAN)
Saf o blaid Jehofa, Ei gwmni, mwynha!
Byth wna ef dy siomi, Yn Nuw llawenha.
Rhanna dy orfoledd, Rhanna’r newydd da
Am Grist a’i Deyrnasiad—Hir fydd ei barhad.
(Gweler hefyd Salm 94:14; Diar. 3:5, 6; Heb. 13:5.)