ERTHYGL ASTUDIO 46
Addewid Jehofa am Baradwys
“Bydd pawb ar y ddaear sy’n ceisio bendith yn ceisio’i fendith yn enw Duw gwirionedd.”—ESEI. 65:16, BCND.
CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder
CIPOLWGa
1. Beth oedd neges y proffwyd Eseia tuag at ei gyd-Israeliaid?
GWNAETH y proffwyd Eseia ddisgrifio Jehofa fel “Duw gwirionedd.” Mae’r gair “gwirionedd” yn llythrennol yn golygu “amen.” (Esei. 65:16, BCND) Mae “Amen” yn golygu “yn wir,” neu “bydded felly.” Pan mae’r gair “amen” yn cael ei ddefnyddio yn y Beibl wrth sôn am Jehofa ac Iesu, mae ’na sicrwydd bod rhywbeth yn wir. Felly, roedd neges Eseia tuag at ei gyd-Israeliaid yn glir: Mae’r hyn y mae Jehofa yn ei ragfynegi bob amser yn ddibynadwy. Mae Jehofa wedi profi hynny drwy wireddu pob un o’i addewidion.
2. Pam gallwn ni ymddiried yn addewidion Jehofa ynglŷn â’n dyfodol, a pha gwestiynau byddwn ni’n eu trafod?
2 A ydyn ni’n gallu ymddiried yn addewidion Jehofa am y dyfodol? Tua 800 mlynedd ar ôl i Eseia farw, esboniodd yr apostol Paul fod addewidion Jehofa mor ddibynadwy. Dywedodd Paul am Jehofa: “Dydy ef ddim yn gallu dweud celwydd.” (Heb. 6:18) Yn union fel dydy ffynnon ddim yn gallu cynhyrchu dŵr ffres a hefyd dŵr hallt, dydy Jehofa, ffynhonnell y gwir, ddim yn gallu dweud celwydd. Felly, gallwn ymddiried ym mhopeth mae Jehofa yn ei ddweud yn llwyr, gan gynnwys ei addewidion am ein dyfodol. Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod y cwestiynau canlynol: Beth mae Jehofa wedi addo ei roi inni yn y dyfodol? A sut gallwn ni fod yn siŵr y bydd ei addewid yn dod yn wir?
BETH MAE JEHOFA WEDI EI ADDO?
3. (a) Pa addewid mae gweision Duw yn ei drysori? (Datguddiad 21:3, 4) (b) Sut mae rhai yn ymateb pan ydyn ni’n rhannu’r addewid hwnnw â nhw?
3 Mae’r addewid y byddwn ni yn ei drafod yn werthfawr i bob un o weision Duw ledled y byd. (Darllen Datguddiad 21:3, 4.) Mae Jehofa’n addo amser pan “ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach.” Mae llawer ohonon ni’n defnyddio’r adnodau hyn i gysuro eraill gyda’r addewid o fywyd ym mharadwys. Wrth glywed hynny, sut mae rhai yn ymateb? Efallai byddan nhw’n dweud, “Mae hynny’n anodd credu.”
4. (a) Beth oedd Jehofa yn ei wybod ac yn ei ragweld? (b) Yn ogystal â gwneud addewid, beth arall a wnaeth Jehofa?
4 Wrth gwrs, roedd Jehofa yn gwybod pan ysbrydolodd yr apostol Ioan i gofnodi’r addewid hwn, y bydden ni’n rhannu’r gobaith hwnnw heddiw wrth bregethu. Gwnaeth hefyd ragweld y byddai’n anodd i lawer gredu’r addewid am ‘bethau newydd.’ (Esei. 42:9; 60:2; 2 Cor. 4:3, 4) Felly, sut gallwn ni berswadio eraill—a bod yn sicr ein hunain—y bydd y bendithion yn Datguddiad 21:3, 4 yn dod yn wir? Mae Jehofa wedi dangos pam y gallwn ni fod yn siŵr y bydd yn gwireddu ei addewid. Pa resymau a roddodd Jehofa?
JEHOFA YN RHOI SICRWYDD BOD EI ADDEWID AM DDOD YN WIR
5. Pa adnodau sy’n rhoi rhesymau dros drystio yn addewid Duw am Baradwys, a beth maen nhw’n ei ddweud?
5 Rydyn ni’n gweld rhesymau dros drystio addewid Jehofa am Baradwys yn yr adnodau sy’n dilyn. Yno rydyn ni’n darllen: “Dywedodd yr Un a oedd yn eistedd ar yr orsedd: “Edrychwch! Rydw i’n gwneud pob peth yn newydd.’ Dywedodd hefyd: ‘Ysgrifenna, oherwydd mae’r geiriau hyn yn ffyddlon ac yn wir. A dywedodd wrtho i: ‘Maen nhw eisoes wedi digwydd! Fi ydy’r Alffa a’r Omega, y dechrau a’r diwedd.’”—Dat. 21:5, 6a.
6. Pam mae Datguddiad 21:5, 6 yn cryfhau ein ffydd yn addewid Duw?
6 Pam mae’r gobaith hwn yn y Beibl yn gwneud inni drystio addewid Duw yn fwy byth? Mae’r llyfr Revelation Climax yn dweud y canlynol am yr adnodau hyn: “Mae fel bod Jehofa yn arwyddo dogfen sy’n gwarantu’r bendithion hyn ar gyfer y dyfodol i bobl ffyddlon.”b Mae addewid Duw wedi cael ei gofnodi yn Datguddiad 21:3, 4. Ond yna, yn adnodau 5 a 6, mae fel bod Jehofa yn ychwanegu ei lofnod, i gadarnhau bod ei addewid am ddod yn wir. Gad inni edrych yn fwy manwl ar sut mae Jehofa yn gwneud hynny.
7. Pwy sy’n dechrau siarad yn adnod 5, a pham mae hyn mor arbennig?
7 Mae adnod 5 yn dechrau drwy ddweud: “Dywedodd yr Un a oedd yn eistedd ar yr orsedd.” (Dat. 21:5a) Mae’r geiriau hyn yn werthfawr oherwydd dim ond tair gwaith yn llyfr Datguddiad mae Jehofa yn siarad, a dyma un ohonyn nhw. Felly, cafodd yr addewid hwn ei sicrhau, nid gan angel pwerus, na hyd yn oed Iesu, ond gan Jehofa ei hun! Mae hyn yn profi y gallwn ni drystio beth sy’n cael ei ddweud nesaf. Pam felly? Oherwydd dydy Jehofa “ddim yn gallu dweud celwydd.” (Titus 1:2) Mae’r datganiad hwnnw yn gwneud y geiriau yn Datguddiad 21:5, 6 yn hollol ddibynadwy.
“EDRYCHWCH! RYDW I’N GWNEUD POB PETH YN NEWYDD.”
8. Sut mae Jehofa yn cadarnhau bydd ei addewid yn dod yn wir? (Eseia 46:10)
8 Nesaf, gad inni drafod y gair “Edrychwch!” (Dat. 21:5) Mae’r gair Groeg sy’n cael ei gyfieithu “edrychwch!” yn cael ei ddefnyddio sawl gwaith yn llyfr Datguddiad. Mae un cyfeirlyfr yn dweud bod yr ebychiad hwn wedi cael ei ddefnyddio “fel ffordd i ddenu sylw’r darllenwr i’r hyn sy’n dod nesaf.” Beth sy’n dilyn yr ebychiad? Datganiad Duw, sef: “Rydw i’n gwneud pob peth yn newydd.” Er bod hyn am ddigwydd yn y dyfodol, mae Jehofa yn siarad fel bod y newidiadau yn digwydd nawr oherwydd y mae mor sicr o gyflawni ei addewid.—Darllen Eseia 46:10.
9. (a) Beth mae’r ymadrodd “gwneud pob peth yn newydd” yn cyfeirio ato? (b) Beth fydd yn digwydd i’r “nef” a’r “ddaear” presennol?
9 Beth am yr ymadrodd nesaf yn Datguddiad 21:5: “Gwneud pob peth yn newydd.” Beth mae hynny’n ei olygu? Yn y bennod hon, mae’n cyfeirio at ddau beth bydd Jehofa yn ei wneud. Yn gyntaf, bydd Jehofa yn dinistrio’r hen system hon. Yn ail, bydd yn sefydlu system newydd. Mae Datguddiad 21:1 yn dweud: “Roedd yr hen nef a’r hen ddaear wedi diflannu.” Mae’r “hen nef” yn cyfeirio at lywodraethau sydd wedi cael eu dylanwadu gan Satan a’i gythreuliaid. (Math. 4:8, 9; 1 Ioan 5:19) Yn y Beibl, gall y gair “ddaear” gyfeirio at y bobl sy’n byw ar y ddaear. (Gen. 11:1; Salm 96:1) Felly, mae’r “hen ddaear” yn cyfeirio at bobl ddrwg. Ni fydd Jehofa yn ceisio diwygio, neu atgyweirio, y “nef” a’r “ddaear” presennol, ond bydd yn cael gwared arnyn nhw yn gyfan gwbl. Bydd yn disodli’r “nef” a’r “ddaear” presennol gyda “nef newydd a daear newydd”—sef llywodraeth newydd a fydd yn rheoli dros bobl gyfiawn.
10. Beth bydd Jehofa yn ei wneud yn newydd?
10 Rydyn ni’n dysgu yn Datguddiad 21:5 am y pethau bydd Jehofa yn eu gwneud yn newydd. Sylwa dydy Jehofa ddim yn dweud, “Rydw i’n gwneud pethau newydd.” Yn hytrach, mae’n dweud: “Rydw i’n gwneud pob peth yn newydd.” Bydd y ddaear a dynolryw fel newydd oherwydd bydd Jehofa yn dod â nhw i berffeithrwydd. Fel rhagfynegodd Eseia, bydd y ddaear gyfan yn cael ei throi yn ardd hyfryd—fel gardd Eden. Hefyd, byddwn ni’n cael ein gwneud fel newydd drwy gael ein hiacháu yn llwyr. Bydd y cloff, y dall, a’r byddar yn cael eu hiacháu, a bydd hyd yn oed y meirw yn cael eu hatgyfodi.—Esei. 25:8; 35:1-7.
“MAE’R GEIRIAU HYN YN FFYDDLON AC YN WIR. . . . MAEN NHW ESIOES WEDI DIGWYDD!”
11. Beth gorchmynnodd Jehofa i Ioan ei wneud, a pham?
11 Beth arall sy’n rhan o addewid Duw? Dywedodd Jehofa wrth Ioan: “Ysgrifenna, oherwydd mae’r geiriau hyn yn ffyddlon ac yn wir.” (Dat. 21:5) Yn ogystal â rhoi’r gorchymyn i ‘ysgrifennu,’ rhoddodd hefyd y rheswm pam. Dywedodd: “Mae’r geiriau hyn yn ffyddlon ac yn wir”—hynny yw, bod geiriau Duw yn ddibynadwy ac yn gywir. Rydyn ni mor ddiolchgar bod Ioan wedi ufuddhau i’r gorchymyn i ‘ysgrifennu.’ O ganlyniad, rydyn ni’n gallu darllen am addewid Duw am y Baradwys a myfyrio ar y bendithion hyfryd sydd i ddod.
12. Pam roedd Jehofa yn gallu dweud: “Maen nhw eisoes wedi digwydd!”
12 Beth mae Duw yn ei ddweud nesaf? “Maen nhw eisoes wedi digwydd!” (Dat. 21:6) Nawr, mae Jehofa yn siarad fel petai popeth sydd wedi cael ei drafod am yr addewid wedi digwydd yn barod. Ac mae ganddo’r hawl i siarad felly oherwydd does dim byd yn gallu ei stopio rhag cyflawni ei bwrpas. Mae Jehofa yn mynd ymlaen i ddweud rhywbeth arall sy’n ein gwneud ni’n sicr bod yr addewid am ddod yn wir. Beth ydy hynny?
“FI YDY’R ALFFA A’R OMEGA”
13. Pam dywedodd Jehofa: “Fi ydy’r Alffa a’r Omega”?
13 Fel y gwnaethon ni drafod yn gynharach, gwnaeth Jehofa ei hun siarad â Ioan dair gwaith mewn gweledigaeth. (Dat. 1:8; 21:5, 6; 22:13) Bob tro gwnaeth Jehofa siarad â Ioan, dywedodd: “Fi ydy’r Alffa a’r Omega.” Alffa ydy llythyren gyntaf yr wyddor Roeg, ac omega ydy’r olaf. Drwy ddisgrifio ei hun fel yr “Alffa a’r Omega,” mae Jehofa yn dweud pan mae’n dechrau rhywbeth, bydd bob amser yn ei orffen.
Pan mae Jehofa yn dechrau rhywbeth, mae’n gwneud yn siŵr i’w orffen yn llwyddiannus (Gweler paragraffau 14, 17)
14. (a) Ar ba achlysuron gwnaeth Jehofa weithredu fel “Alffa” ac “Omega”? (b) Pa sicrwydd mae Genesis 2:1-3 yn ei roi inni?
14 Dywedodd Jehofa wrth Adda ac Efa am ei bwrpas ar gyfer dynolryw a’r ddaear. Mae’r Beibl yn dweud: “Dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud wrthyn nhw, ‘Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi.’” (Gen. 1:28) Pan siaradodd Jehofa am ei bwrpas am y tro cyntaf, roedd fel petai yn dweud “Alffa.” Bydd yr amser yn dod pan fydd disgynyddion perffaith a ffyddlon Adda ac Efa yn llenwi’r ddaear ac yn ei gwneud yn baradwys. Ar yr adeg honno, bydd fel petai Jehofa yn dweud “Omega.” Ar ôl gorffen y gwaith o “greu y bydysawd a phopeth sydd ynddo,” dywedodd Jehofa rywbeth i’n sicrhau y byddai ei bwrpas yn siŵr o ddod yn wir. Rydyn ni’n darllen amdano yn Genesis 2:1-3. (Darllen.) Dywedodd Jehofa fod y seithfed diwrnod yn un cysegredig iddo. Beth mae hynny’n ei olygu? Gwnaeth Jehofa addo y byddai’n cyflawni ei bwrpas ar gyfer dynolryw a’r ddaear ar ddiwedd y seithfed diwrnod.
15. Pam gallai fod wedi ymddangos bod Satan wedi llwyddo i stopio pwrpas Duw?
15 Unwaith i Adda ac Efa wrthryfela, roedden nhw’n bechaduriaid a gwnaethon nhw basio pechod a marwolaeth ymlaen i’w plant. (Rhuf. 5:12) Gallai fod wedi ymddangos bod Satan wedi llwyddo i stopio pwrpas Duw i lenwi’r ddaear gyda phobl berffaith ac ufudd. A oedd Satan yn wir wedi llwyddo i stopio Jehofa rhag dweud “Omega”? Efallai bod Satan wedi meddwl nad oedd gan Jehofa lawer o opsiynau ar ôl. Un opsiwn oedd lladd Adda ac Efa a chreu cwpl perffaith arall er mwyn cyflawni ei bwrpas ar gyfer y ddynoliaeth. Ond petasai Duw wedi gwneud hynny, byddai’r Diafol wedi ei gyhuddo o fod yn gelwyddog. Pam? Oherwydd, fel rydyn ni’n gweld yn Genesis 1:28, roedd Jehofa wedi dweud y byddai plant Adda ac Efa yn llenwi’r ddaear.
16. Pam efallai fod Satan wedi meddwl y byddai’n gallu cyhuddo Jehofa o fethu?
16 Efallai fod Satan wedi meddwl mai dim ond un opsiwn arall oedd gan Jehofa—i ganiatáu i Adda ac Efa gael plant, ond ni fyddai’r plant amherffaith hynny byth yn gallu cyrraedd perffeithrwydd. (Preg. 7:20; Rhuf. 3:23) Petasai hynny wedi digwydd, byddai’r diafol yn bendant wedi cyhuddo Jehofa o fethu. Pam? Oherwydd ni fyddai’r ddaear wedi ei llenwi â phobl berffaith.
17. Sut gwnaeth Jehofa ddatrys y gwrthryfel, a beth fydd y canlyniad yn y pen draw? (Gweler hefyd y llun)
17 Gwnaeth Jehofa ddatrys y gwrthryfel mewn ffordd a fyddai wedi synnu Satan. (Salm 92:5) Gwnaeth Jehofa brofi nad oedd yn gelwyddog drwy adael i Adda ac Efa gael plant. Pan mae Jehofa yn dweud ei fod am wneud rhywbeth, does dim byd yn gallu ei stopio. Sicrhaodd y byddai ei bwrpas yn dod yn wir drwy ddarparu “had” a fyddai’n achub disgynyddion ffyddlon Adda ac Efa. (Gen. 3:15; 22:18) Ni fyddai Satan byth wedi disgwyl i Jehofa drefnu y pridwerth! Pam? Gan ei fod wedi ei seilio ar gariad anhunanol. (Math. 20:28; Ioan 3:16) Mae Satan yn hollol hunanol. Felly beth fydd yn digwydd o ganlyniad i’r pridwerth? Erbyn diwedd y mil o flynyddoedd, bydd disgynyddion perffaith a ffyddlon Adda ac Efa yn byw mewn paradwys ar y ddaear—yn union fel gwnaeth Jehofa addo. Ar yr adeg honno, bydd fel petai Jehofa yn dweud “Omega.”
SUT I GRYFHAU EIN FFYDD YN Y BARADWYS
18. Pa dri rheswm mae Duw yn eu rhoi inni i beidio ag amau? (Gweler hefyd y blwch “Tri Rheswm Dros Ymddiried yn Addewid Jehofa.”)
18 O ddarllen yr erthygl hon, sut gallwn ni resymu gyda rhai sy’n amau addewid Jehofa am Baradwys? Yn gyntaf, Jehofa ei hun a wnaeth yr addewid. Mae llyfr Datguddiad yn dweud: “Dywedodd yr Un a oedd yn eistedd ar yr orsedd: ‘Edrychwch! Rydw i’n gwneud pob peth yn newydd.’” Mae ganddo’r doethineb, y pŵer, a’r awydd i wireddu ei addewid. Yn ail, o safbwynt Jehofa, mae’r addewid mor sicr o ddod yn wir, mae fel petai wedi digwydd yn barod. Dyma pam ei fod yn dweud: “Mae’r geiriau hyn yn ffyddlon ac yn wir. . . . Maen nhw eisoes wedi digwydd!” Yn drydydd, pan mae Jehofa yn dechrau rhywbeth, mae’n siŵr o’i orffen yn llwyddiannus. Rydyn ni’n gweld hyn wrth iddo ddweud: “Fi ydy’r Alffa a’r Omega.” Bydd Jehofa yn profi Satan yn gelwyddog.
19. Beth gelli di ei wneud pan mae pobl yn ei chael hi’n anodd credu addewid Duw am Baradwys?
19 Cofia, bob tro rwyt ti’n ceisio rhannu addewid Duw gyda rhai yn y weinidogaeth, rwyt ti’n cryfhau dy ffydd dy hun yn addewidion Jehofa. Felly, y tro nesaf mae rhywun yn dweud bod Datguddiad 21:4 yn anodd i’w gredu, beth am ddarllen ac esbonio adnodau 5 a 6? Dangosa sut mae Jehofa wedi sicrhau y bydd ei addewid yn dod yn wir drwy ei arwyddo, fel petai, gyda’i lofnod ei hun.—Esei. 65:16.
CÂN 145 Addewid Duw am Baradwys
a Bydd yr erthygl hon yn trafod y sicrwydd y mae Jehofa wedi ei roi inni y bydd ei addewid am Baradwys yn dod yn wir. Bob tro rydyn ni’n rhannu’r addewid hwnnw gydag eraill, rydyn ni’n cryfhau ein ffydd yn addewidion Jehofa.