LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 | Peidio â Thalu’r Pwyth yn Ôl
    Y Tŵr Gwylio (Cyhoeddus)—2022 | Rhif 1
    • Dysgeidiaeth o’r Beibl:

      “Peidiwch byth talu’r pwyth yn ôl. . . . Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb. Peidiwch mynnu dial ar bobl . . . Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘“Fi sy’n dial; gwna i dalu yn ôl” meddai’r Arglwydd.’”—RHUFEINIAID 12:17-19.

      Beth Mae’n ei Olygu:

      Er ei fod yn beth naturiol i deimlo’n ddig pan mae rhywun yn ein brifo ni, dydy Duw ddim eisiau inni dalu drwg am ddrwg. Yn hytrach, mae’n ein hannog ni i fod yn amyneddgar achos yn fuan bydd yn cywiro pob cam.—Salm 37:7, 10.

  • 2 | Peidio â Thalu’r Pwyth yn Ôl
    Y Tŵr Gwylio (Cyhoeddus)—2022 | Rhif 1
    • Dechreuodd Adrián astudio’r Beibl pan oedd yn 16. Mae’n dweud: “Wrth imi ddysgu mwy am y Beibl, gwelais yr angen i wneud newidiadau yn fy mhersonoliaeth.” Roedd rhaid iddo gefnu ar gasineb a stopio bod yn dreisgar. Elwodd yn enwedig o beth mae’n ei ddweud yn Rhufeiniaid 12:17-19 am beidio â thalu’r pwyth yn ôl. Mae’n ychwanegu: “Wnes i dderbyn bod Jehofa am ddelio ag anghyfiawnder yn ei amser a’i ffordd ei hun. Fesul tipyn, wnes i drechu fy ymddygiad treisgar.”

      Un noswaith, gwnaeth gang o hen elynion ymosod ar Adrián. Gwaeddodd y bachgen ar y blaen: “Cwffia’n ôl!” Mae Adrián yn cyfaddef: “O’n i’n teimlo awydd cryf i’w daro.” Ond y lle dial, dywedodd weddi fer ar Jehofa a gadawodd.

      Meddai Adrián: “Y diwrnod wedyn, des i ar draws arweinydd y gang ar ei ben ei hun. Cododd fy nhymer, ond unwaith eto erfyniais ar Jehofa yn ddistaw bach am iddo fy helpu i ddal fy hun yn ôl. O’n i wedi synnu pan ddaeth y bachgen i fyny ata i a dweud: ‘Maddeua imi am beth ddigwyddodd neithiwr. Y gwir yw, dw i eisiau bod fel ti. Dw i eisiau astudio’r Beibl.’ O’n i mor ddiolchgar fy mod i wedi gallu rheoli fy nhymer! Ac o ganlyniad, gwnaethon ni ddechrau astudio’r Beibl gyda’n gilydd.”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu