Cân 115
Llwyddo yn Ein Ffyrdd
1. Gair Jehofa hyfrydwch yw.
Boed in ddarllen bob dydd
Fwyn ganllawiau a chyngor doeth;
Elw gawn, lles a budd.
Amser rhoddwn, myfyrio wnawn,
O ymroi daw boddhad.
(CYTGAN)
Darllen, deall, ac ufuddhau;
Rhaid wrth ddyfalbarhad.
Cawn o rodio â Jah bob dydd
Lwyddiant hir ei barhad.
2. Gorchwyl brenin yn Israel gynt
Oedd copïo Gair Duw,
Darllen, yna ei ddwyn i gof;
Rhoi ar waith eiriau byw.
O weinyddu glân Ddeddf a barn
Dôi i’w deyrnas lesâd.
(CYTGAN)
Darllen, deall, ac ufuddhau;
Rhaid wrth ddyfalbarhad.
Cawn o rodio â Jah bob dydd
Lwyddiant hir ei barhad.
3. O fyfyrio ar sanctaidd Air
Budd a lles ddaw i ni;
Cysur cawn a thawelwch bron,
Dwyfol faeth wna ni’n gry’.
Twf ysbrydol, aeddfedrwydd llawn,
Dilyn wna’n ddiymwad.
(CYTGAN)
Darllen, deall, ac ufuddhau;
Rhaid wrth ddyfalbarhad.
Cawn o rodio â Jah bob dydd
Lwyddiant hir ei barhad.
(Gweler hefyd Deut. 17:18; 1 Bren. 2:3, 4; Salm 119:1; Jer. 7:23.)