Cân 2
Diolchwn i Ti, Jehofa
Fersiwn Printiedig
1. I ti, Fawr Jehofa, dyrchafwn ein llef,
Rhoist inni oleuni ysbrydol nef.
O’n cwmpas mae trefn sydd â’i phwysau’n dwysáu—
Diolchwn am fraint cael at Iôn nesáu.
2. D’Anwylyd ymdrechodd â’r byd yn ddi-ball,
Ei ffydd a orchfygodd holl allu’r Fall.
Dy foli â’n nerth, pennaf aberth hyn yw;
Cyflawni ein llwon a wnawn, O Dduw.
3. Cael gennyt y nerth i bregethu yw’n cais;
Dy enw moliannwn ag unfryd lais.
Yn fuan, i’w tranc daw drygioni a loes;
Llewyrched dy Deyrnas a’i hawddgar foes.
(Gweler hefyd Salm 50:14; 95:2; 147:7; Col. 3:15.)