Cân 128
Mynd Heibio Mae Trefn y Byd Hwn
Fersiwn Printiedig
1. Rhag angau, rhyddid in brynodd
Jehofa. Pridwerth a dalodd—
Ei Fab, ’r Anwylyd, a roddodd;
Anfeidrol gariad ein Llyw!
(CYTGAN)
Mae holl drefn y byd hwn
yn mynd heibio.
‘Daear a gaiff ei haddurno’n
Hawddgar aneddle,’ medd Duw.
2. Y byd a’i bethau ddarfyddant,
Amgylchfyd deg ddaw i’n meddiant.
Llywodraeth ddwyfol Milflwyddiant
Bugeilio wna ddynolryw.
(CYTGAN)
Mae holl drefn y byd hwn
yn mynd heibio.
‘Daear a gaiff ei haddurno’n
Hawddgar aneddle,’ medd Duw.
(Gweler hefyd Salm 115:15, 16; Rhuf. 5:15-17; 7:25; Dat. 12:5.)