Cân 11 (29)
Ymlaen â Chi Dystion!
1. Llwyr benderfynol yn niwedd oes ddi-hid,
Amddiffyn Gair Duw wna ei weision drwy’r holl fyd.
Er gwaethaf llu Satan a’i erlid,
Pregethant yn ddewr ac yn ddiwyd.
(Cytgan)
2. Ni chawn gan ddyn ddim ond trosedd, trais a gwae.
Glân enw Jehofah fe geisiant ei sarhau.
Dychwelwn at farn a chyfiawnder;
Gwirionedd rydd in wrid disgleirder.
(Cytgan)
3. Ufudd a fyddwn gan foddhau Duw nid dyn.
Mor ddiwyd dy weision Jah, gweithiant yn gytûn.
Di-nam geisiant fod, â gwedduster.
Uniondeb rhaid cadw bob amser.
(CYTGAN)
Ymlaen â chi Dystion dewr! Ewch â chalon lon
Yn llawen yng ngwaith Duw dros holl dir daear gron!
Cyhoeddwch yn bell, newydd drefn Duw a ddaw,
A’i fendithion ddisgynnant fel gwlithlaw!