Cân 45
Rhagom Awn!
1. Rhagom awn at y nod—twf ysbrydol llawn,
Fe ddymuna ein Duw inni wneud y cynnydd iawn;
Sylw rhown i’n pregethu a’i loywi wnawn.
Duw, bendithio’n gwaith a wna.
Boed ein buchedd yn deilwng o’r ffydd,
Ein hymddygiad i Grist tebyg fydd;
Cyfarwyddyd ein Duw ydyw’r glanaf sydd.
Rhodio wnawn yn llwybrau Jah.
2. Rhagom awn i bregethu efengyl Duw,
Cynnydd wnawn o ledaenu yn gyson eiriau byw;
Moliant rhown i Jehofa, mawr Frenin yw.
I’r gwaith pwysig hwn ymrown.
Tystiolaethwn am Deyrnas o fri,
Pan ddaw’n anodd nid cilio wnawn ni;
Mwyn efengyl, mawr angen ei thaenu sy’.
Geiriau hawddgar baratown.
3. Rhagom awn; daliwn ati yn frwd di-baid;
I gyflawni’n cenhadaeth ein sgiliau’u hogi rhaid.
Llawenhawn, canys gweddaidd medd Duw, yw’n traed.
Tystio wnawn mewn amliaith.
Haeddu’n cariad a wna’r defaid rai,
Hoffi maent genadwri ddi-fai’r
Newydd da; nodded glyd yw rhag byd o wae.
I’r holl fyd mawr lewyrch aeth.
(Gweler hefyd Phil. 1:27; 3:16; Heb. 10:39.)