Cân 32 (70)
Byddwn Fel Jeremeia
(Jeremeia 1:7, 18)
1. Hyfrydwch yw gwas’naethu
Teg fuddiannau Teyrnas Dduw.
Ac wrth ymdrechu’n gorau
Mawr ei ofal drosom yw.
Ond yn y Beibl Sanctaidd
Gair o rybudd inni sydd;
Er mawr yw’n braint o wneud gwaith Duw,
Rhai peryglon inni fydd.
2. Nawr cofiwch Jeremeia,
Duw Jehofah ’i alw wnaeth
Yn fachgen i gyhoeddi
Geiriau dwyfol barn, ac aeth.
‘Ymladdant yn dy erbyn,’
Medd Duw, ‘ac fe wnânt fawr stŵr.
Ond ni’th orchfygant, cans cei nerth;
Gwnaf di’n gadarn gaerog dŵr.’
3. Fe brofodd Jeremeia
Duw Jehofah yn eirwir
Er iddo fwynhau llwyddiant
Goddef wnaeth dreialon hir.
Ystyriwn Jeremeia
Ac ymddiried wnawn yn Nuw.
Cyhoeddwn fri Jehofah Mawr;
Brenin, Pen awdurdod yw.