Cân 2 (4)
Paradwys Deg—Addewid Duw
1. Paradwys deg, mae Duw yn addo,
Trwy deyrnas mil-blynyddoedd Crist;
Maddeuir camwedd a phob pechod,
Ymaith â dagrau angau trist.
(Cytgan)
2. Yn fuan nawr rhyddheir y meirw,
Trwy rym Mab Duw dônt ’n ôl yn fyw.
Fe gofiwn eiriau gwir Crist Iesu:
‘Hir fywyd gei ar ddaear wiw.’
(Cytgan)
3. Gorfoledd pur! Gweld ein hanwyliaid;
Biliynau ’n ôl o Hades ddaw!
Pryd hynny cawn anogaeth gyfiawn,
Ar ddaear berffaith, fwyn, ddi-fraw.
(Cytgan)
4. Paradwys deg, addewid Crist yw;
Cans Brenin daear fawr yw ef.
Diolchwn nawr i’n Duw, Jehofah.
Mewn clod a mawl, codwn ein llef.
(CYTGAN)
Paradwys deg, y ddaear fydd,
Gwelwn yn glir â llygaid ffydd.
Addewid Crist, gwirionedd yw;
Gweithreda holl ewyllys Duw.