Cân 55
Bywyd Diddiwedd Ddaeth!
1. Gwelwch draw ddaear ddi-fraw,
Glendid leinw ei bröydd.
Galar a aeth. Heddwch ddaeth!
Hyfryd yw rhodd ein Duw.
(CYTGAN)
Llawen yw’n calon ni!
Rhan hefyd sydd i chi.
Dyfalbarhewch; dweud a wnewch,
“Bywyd a ddaeth i mi!”
2. Cnawd bob dydd iraidd a fydd,
Iechyd gawn yn ei lawnder;
Daear di-gledd, byd o hedd.
Pryder ni fydd na gwae.
(CYTGAN)
Llawen yw’n calon ni!
Rhan hefyd sydd i chi.
Dyfalbarhewch; dweud a wnewch,
“Bywyd a ddaeth i mi!”
3. Dae’r ’n ddiau gaiff ei thecáu,
Hawddgar fydd, preswyl hynod.
At Dduw y trown, diolch rhown;
Canwn am byth ei glod.
(CYTGAN)
Llawen yw’n calon ni!
Rhan hefyd sydd i chi.
Dyfalbarhewch; dweud a wnewch,
“Bywyd a ddaeth i mi!”
(Gweler hefyd Job 33:25; Salm 72:7; Dat. 21:4.)