Cân 94 (212)
Diolchwn Iti Jehofah
1. Mawr ddiolch, Jehofah, ein dyled it sydd
Am olau ysbrydol a ddaw bob dydd.
Ein braint yw gweddïo; Duw, gwrando a wna;
Diolchwn am gysur a phob rhodd dda.
2. Mawr ddiolch, Jehofah, am Grist, ffyddlon un,
Dros Hades enillodd y frwydyr in.
Fe wnaethom adduned, ffyddlondeb i ti;
Rho gymorth in gyrraedd ein nod, yw’n cri.
3. Jehofah, fe ffurfiaist frawdoliaeth sydd lân;
O’n calon rhown ddiolch nawr, hyn yw’n rhan.
Arweiniad i fyw gan dy ysbryd a gawn,
—Diolchwn am rym sanctaidd Iôn uniawn.
4. Anrhydedd a rown i’th sanct, mawr enw, Dduw,
Diolchwn am rybudd i’r ddynolryw.
Trwy Deyrnas dy Fab mawr fendithion a ddaw,
O diolch fod newydd fyd nawr gerllaw.