Cân 1 (3)
Gorchfygu’r Byd
1. Awn ymlaen yn llwyr fuddugol;
Gan Jehofah nerth a gawn
I gyflawni buddugoliaeth;
Brwydrwn am yr hyn sy’n iawn.
Ein casáu wna’r byd a’i bobol
Am bregethu Gair ein Duw;
Ond â hyder fe ymdrechwn;
Buddugoliaeth, sicir yw.
2. Yn y byd fe gawn orthrymder.
Crist sy’n rhoi gair yn ei bryd:
‘Codwch galon nawr fy mrodyr
Cans gorchfygais i y byd!’
Buan daw ein buddugoliaeth;
Duw Jehofah’n ymladd sydd
Dros ei ffyddlon rai’n fyd-eang.
Difa’i holl elynion fydd.
3. Trwy fawr ffydd, y byd gorchfygwn,
Ffydd yng Nghrist ein Harglwydd ni.
Cans sefydlwyd ei lân Deyrnas,
Yn ei afael cleddyf sy.
Dewr esiampl, y concwerwr,
Iesu, efelychu wnawn.
Ymddiriedwn yn Jehofah;
Buddugoliaeth gadarn gawn.