Cân 86 (193)
Cyhoeddwch “Yr Efengyl Hon am y Deyrnas”!
1. Rhaid cyhoeddi newyddion da’r Deyrnas yn glou,
Pregethu ymhob gwlad â hyder.
Cans enwogrwydd i enw Jehofah rhaid rhoi
Cyn daw grymus ddydd ei Gyfiawnder.
(Cytgan)
2. Gan mor ddrwg ydyw’r oes prynu amser a wnawn
Rhag diwerth hunanol bleserau.
Teyrnas Dduw gaiff ein bryd a’n gwasanaeth yn llawn,
Ac ennill wnawn werthfawr drysorau.
(Cytgan)
3. Yn ddigalon na foch wrth bregethu Gair Duw,
Er profi yr holl wrthwynebiad.
Yn garedig a doeth daliwch ati, braint yw,
Yn deyrngar i’ch sanctaidd aseiniad.
(CYTGAN)
Pregethwch Air Duw ym mhob gwlad;
Rhowch i’r addfwyn o’r gwir, sicirhad.
Helpwch bawb i gael rhan,
Mawr a bach, cry’ a gwan,
I foli ei enw clodforus.