GWERS 1
Mae Duw yn Eich Gwahodd i Fod yn Ffrind Iddo
Mae Duw eisiau chi’n ffrind iddo. Ydych chi ‘rioed wedi meddwl am fod yn ffrind i’r Person mwya’ yn y bydysawd? ‘Roedd Abraham yn ffrind i Dduw. (Iago 2:23) Mi ‘roedd eraill y mae sôn amdanyn’ nhw yn y Beibl yn gyfeillgar efo Duw ac fe gawson’ nhw lawer o fendithion. Mae gan Dduw ffrindiau ym mhob rhan o’r byd. Mi fedrwch chi hefyd fod yn ffrind i Dduw.
Mae’n well bod yn ffrind i Dduw na neb arall. Chaiff ffrindiau Duw byth eu siomi. (Salm 18:25) Mae bod yn ffrind i Dduw yn well nag ennill llawer o arian. Pan mae dyn cyfoethog yn marw, pobl eraill sy’n cael ei arian. Ond mae gan ffrindiau Duw drysor arbennig na fedr neb ei ddwyn oddi arnyn’ nhw, ei gyfeillgarwch.—Mathew 6:19.
Efallai y bydd rhai pobl yn ceisio’ch rhwystro chi rhag dod i ‘nabod Duw yn well, er enghraifft, eich ffrindiau a’ch perthnasau. (Mathew 10:36,37) Pan fydd eraill yn gwneud hwyl am eich pen neu yn eich bygwth, gofynnwch i chi’ch hun, ‘Pwy ydw i am ei blesio—dyn neu Dduw?’ Petai rhywun yn dweud wrthych chi i beidio â bwyta, fyddech chi’n gwrando arno? Na fyddech, wrth gwrs! Mae’n rhaid bwyta i gadw’n fyw. Ond mi fedrith Duw ei gwneud hi’n bosib’ i chi fyw am byth! Felly peidiwch â gadael i neb eich rhwystro chi rhag ennill cyfeillgarwch Duw.—Ioan 17:3.