Cân 29 (62)
Gwyn Eu Byd y Rhai Trugarog!
1. O! Gwyn eu byd, trugarog rai!
Cans ynddynt Duw gaiff ei foddhau.
Fe ânt at bawb a gâr y gwir
A dweud am Dduw trugarog pur.
Trugaredd Duw ar Galfari
Ddarparodd bridwerth drosom ni.
Fe estyn ei drugaredd mawr
I’r addfwyn rai ar ddaear lawr.
2. O! Gwyn eu byd, trugarog rai!
Maddeuant gânt a’u llwyr decáu.
Ymbiliodd Crist ger gorsedd Duw,
Dros rhain o blith y ddynolryw.
I rannu’r teg drugaredd aent,
Pregethu Gair Duw drwy’r byd maent.
Wrth bawb dywedant: “Llawenhewch
Daeth Teyrnas Dduw. O, agoséwch.”
3. Nac ofnwch, chwi drugarog rai,
At orsedd Dduw cewch ymnesáu.
Yn dirion cewch eich barnu nawr,
Eich glân drugaredd sydd fuddfawr.
Yn llawn trugaredd rhaid in fod
Cans efelychu Duw yw’n nod.
Parhau’n drugarog wnawn bob dydd,
Bodloni’n nefol Dad hyn fydd.
(ÔL-GÂN)
O! Gwyn eu byd, trugarog rai!
Yng ngolwg Duw maent yn ddi-fai.