Cân 39 (86)
Meithrin Ffrwyth Cariad
1. Teg roddion nawr gan Jehofah sydd
I’w weinidogion mor ddewr eu ffydd.
Gweithredu ei ewyllys lân
Fydd nod eu hymdrech fyth, a’u cân,
Ei ysbryd mwyn sy’n eu bywhau,
Ei ddoniau tlws gânt eu mwynhau,
Ond ffrwyth pur cariad, trysor yw
—Y tecaf o’r rhinweddau gwiw.
2. I’r weinidogaeth rhown amser llawn
 glân ymroddiad mawr gynnydd wnawn,
Ein sylw nawr at gariad trown,
I’w feithrin ein holl ymdrech rown.
Perffeithio hwn wnawn yn ddi-drai
Wrth annog pawb o’r defaid rai.
Offrymau rown â chalon lawn;
Bendithion ddaw gan Dduw uniawn.
3. Llafurio wnawn am y cynnydd gwir;
Mor werthfawr inni yr heddwch pur.
 mawr amynedd gwnawn ein rhan
A chariwn feichiau’r rhai mwy gwan.
Llawenydd mawr bob dydd a ddaw
O ’styried eraill yn flaenllaw;
Ffrwyth cariad y pwysicaf yw
O holl rinweddau dwyfol Duw.