Cân 53 (130)
Gwasanaeth Llawen
(Salm 32:11)
1. Yng ngwasanaeth Duw a’n Brenin llawenhawn;
Iddo rhown ein doniau a’n galluoedd llawn.
Er mai bychan yw’n gwasanaeth, mae’n foddhaus
—Calon lwyr, ddiffuant sydd â gwerth parhaus.
2. Mae ’na waith i bawb yng nglân wasanaeth Duw,
Rhaid wrth weithwyr i gynhaeaf dynolryw.
Sanctaidd yw’n comisiwn gan Dduw, Brenin nef;
Beunydd gwerthfawrogwn ei fendithion ef.
3. Er bod dynion drwg yn gwadu grym y gwir,
Gwyddom fod addewid Duw yn eirwir, pur.
Felly i bregethu’n ddiwyd awn yn hy.
Yn y genadwri, mawr yw’n hyder ni.
4. Gymaint yw’n llawenydd yn y gwaith cyffrous,
Tystio wnawn i bawb yn niwedd trefn ddi-foes.
I’w foddhau, mewn diolch beunydd ato trown.
Bythol glod i Dduw am ei drugaredd ’rown.