Cân 45 (106)
Gwyliwn Ein Hymddygiad
1. Wrth rodio yn bur, siaradwn y gwir,
Yn effro byddwn, yn ddoeth parhawn.
Prynwn amser o fyd Satan
Daliwn ar bob cyfle gawn.
Fe rodiwn yn bur, a siarad y gwir,
Yn effro byddwn, yn ddoeth parhawn.
2. Pregethu a wnawn, gofalus â’n dawn,
Gan annog beunydd yr addfwyn rai.
Cymorth gânt i ddeall Gair Duw
Ac i’w ddeddfau ufuddhau.
Pregethu a wnawn, gofalus â’n dawn,
Anogwn beunydd yr addfwyn rai.
3. Mewn parch mawr a ffydd, pregethwn bob dydd.
Gofalus fyddwn i iawn ymddwyn.
Fel Crist Iesu’r Bugail Tyner
Cariad rown i’w addfwyn ŵyn.
Mewn parch mawr a ffydd, pregethwn bob dydd.
Gofalus fyddwn i iawn ymddwyn.