LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • sb100 cân 72
  • Plant—Rhoddion Gwerthfawr gan Jehofah

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Plant—Rhoddion Gwerthfawr gan Jehofah
  • Canwch Fawl i Jehofah Geiriau yn Unig
  • Erthyglau Tebyg
  • Gwyrth Bywyd
    Canwch i Jehofa
  • Gwyrth Bywyd
    Canwn yn Llawen i Jehofa
  • Llwyddo yn Ein Ffyrdd
    Canwch i Jehofa
  • Dysgu Eraill i Sefyll yn Gadarn
    Canwn yn Llawen i Jehofa
Gweld Mwy
Canwch Fawl i Jehofah Geiriau yn Unig
sb100 cân 72

Cân 72 (163)

Plant—Rhoddion Gwerthfawr gan Jehofah

(Salm 127:3, 4)

1. Gwerthfawr iawn yw’n plant, teg roddion Duw;

Iddo ef eu glân fywyd rydd glod

Pan anelwn gwrs y saethau hyn

Yn nisgyblaeth ei Air—cywir nod.

Yn y gwir parhânt os arweiniad gânt.

Eu hyfforddi â mawr gariad wnawn;

I wneud hyn dwyfol gymorth a gawn.

2. Holl feddyliau cudd calonnau’n plant

Gyda phwyll down i’w deall yn glir.

Dechrau wnawn pan fônt yn fychan iawn

I drosglwyddo’r gwirionedd sy’n bur.

Atynt agosáwn; byddwn gariadlawn.

Angen cyrraedd calon plentyn sydd,

A chymhwyso Gair Duw, mawr ei fudd.

3. Wrth gael sgwrs feunyddiol gyda’n plant,

Ennill wnawn eu holl hyder yn llawn.

Eu cyfeillion agos fyddwn ni,

Ar eu sibrwd a’u stori gwrandawn.

Peidiwn ymbellhau; help rown i’w cryfhau.

Yn ddi-fai ein hunain ceisiwn fod

Wrth gyfeirio eu cwrs at y nod.

4. Etifeddiaeth deg yw’n plant i gyd,

Eiddo ŷnt i Jehofah ein Duw.

Hyfryd ffrwyth sy’n dod â gwobr fawr,

Dysgwn iddynt i ddilyn Gair byw.

Dangos wnawn yn fwyn sut mae iawn ymddwyn.

Duw sy’n gofyn inni garu’n plant:

Beunydd, cyfle i’w foli a gânt.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu